Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am rôl, swyddogaeth a pherthynas PCAC â Gweinidogion ac Is-adrannau Llywodraeth Cymru.

  1. Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn ymdrin ag ystod eang o apeliadau cynllunio ac amgylcheddol a mathau eraill o waith achos, gan gynnwys prosesu ceisiadau ar gyfer prosiectau seilwaith, archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau), a cheisiadau hawliau tramwy a thir comin (rhoddir rhestr lawn yn Atodiad A).
     
  2. Tribiwnlysoedd annibynnol yw Arolygwyr ac maen nhw’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ddefnydd o dir a phenderfyniadau eraill sy’n gyfrwymol, y gellir eu gwrthdroi yn yr Uchel Lys yn unig.  Maen nhw hefyd yn gwneud argymhellion i Weinidogion ynglŷn ag achosion sy’n cael eu hadfer ar gyfer penderfyniad Gweinidogol. Mae Arolygwyr yn annibynnol ac yn ddiduedd, a rhaid iddynt gael eu gweld felly.
     
  3. Mae Gweinidogion Cymru yn derbyn y dylai Arolygwyr allu gwneud penderfyniadau sy’n berthnasol i’w swyddogaethau, heb bwysau rhagfarnus na chyfyngiad amhriodol. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn derbyn ei bod yn fuddiol i’r cyhoedd bod datganiadau diduedd, gwrthrychol a gwybodus ynglŷn â ffeithiau penderfyniadau yn cael eu cyhoeddi, a bod hynny’n rhan annatod o wneud cynlluniau a phenderfyniadau mewn ffordd deg, agored a thryloyw.
     
  4. O ganlyniad, nid yw cyrff fel PCAC yn elfennau israddol o adrannau polisi a gweithredol Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud agosaf â’r gwasanaethau a allai fod yn destun penderfyniadau ar faterion amgylcheddol, nac yn rhan annatod ohonynt.
     
  5. Mae gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) gryn brofiad o weithdrefnau apelio a, thrwy benderfyniadau ac argymhellion Arolygwyr, gweithredu polisi lleol a chenedlaethol. Nid lle PCAC yw herio nod polisïau. Fodd bynnag, caiff PCAC gynghori ei is-adrannau cleient a’r rhai hynny sy’n dymuno cyflwyno gweithdrefnau apelio sy’n berthnasol i swyddogaeth PCAC, ar effeithiolrwydd unrhyw bolisïau neu weithdrefnau newydd neu ddiwygiedig maen nhw’n eu hystyried.

Arolygwyr fel penderfynwyr annibynnol

  1. Yr Arolygydd, nid PCAC, sy’n cael ei benodi gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apeliadau a rhoi adroddiad a gwneud argymhellion iddynt. Yn yr un modd, mae Gweinidogion Cymru yn penodi Arolygydd, nid PCAC, i archwilio Cynlluniau Datblygu Lleol ac adrodd ar eu cadernid i Awdurdodau Cynllunio Lleol.
     
  2. Mae penderfyniadau ac adroddiadau’n destun gweithdrefnau Sicrhau Ansawdd, ond yr Arolygydd yn unig sy’n gyfrifol am y penderfyniad neu’r argymhelliad a’r adroddiad cysylltiedig. Ni chaiff unrhyw un yn Llywodraeth Cymru na PCAC wrthdroi penderfyniad neu argymhelliad Arolygydd. Caiff Gweinidogion adfer achosion i benderfynu arnynt. Ni chaiff Gweinidogion ymyrryd ag argymhelliad yr Arolygydd, ond nid oes rhaid iddynt ei dderbyn.
     
  3. Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau, caiff Arolygwyr eu hatal rhag gweithio yn yr ardal lle maen nhw’n byw. Os bydd Arolygwyr yn ymuno â PCAC o awdurdod cynllunio lleol, cânt eu hatal rhag gweithio yn yr ardal honno. Os bydd Arolygwyr yn ymuno â PCAC o’r sector preifat, cânt eu hatal rhag gwneud gwaith achos sy’n ymwneud â’r ymgynghoriaeth yr oeddent yn gweithio iddi.
     
  4. Fel dinasyddion preifat, caiff cyflogeion PCAC wneud sylwadau ar geisiadau ac apeliadau cynllunio. Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar waith gyda’r Arolygiaeth Gynllunio (PINs) sy’n datgan pan fydd aelod o PCAC yn ymwneud ag achos sy’n destun apêl, bydd yr apêl honno’n cael ei phenderfynu gan Arolygydd PINs.

Trefniadau ar gyfer gwaith achos ym Mro Morgannwg

  1. Mae’r Prif Swyddog Cynllunio yn ymuno â PCAC o Gyngor Bro Morgannwg. Mae’r Prif Swyddog Cynllunio’n esgusodi ei hun o ymwneud â phob penderfyniad, gan gynnwys materion gweithdrefnol ac unrhyw achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â gwaith achos ym Mro Morgannwg.
     
  2. Pan na fyddant yn ymwneud â materion gwaith achos arferol a fydd yn cael eu trin gan y swyddogion gwaith achos perthnasol, bydd penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â gwaith achos ym Mro Morgannwg yn cael eu gwneud gan yr Arweinydd Gweithrediadau, Arweinwyr Grŵp Arolygwyr neu’r Dirprwy Brif Arolygydd Cynllunio.

Cysylltu

  1. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â’r Protocol hwn neu’r ffordd y mae PCAC yn gweithredu, anfonwch neges e-bost at: PEDW.CentralServices@gov.wales