Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
Mae'r llythyr hwn yn cynghori Prif Swyddogion Cynllunio mae'r sefydliad sy'n gyfrifol am benderfynnu ar apeliadau cynllunio a gwaith achos yr amgylchedd yng Nghymru yn newid ar 01 Hydref.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Prif Gynllunydd, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio
Penaethiaid Cynllunio,
Awdurdodau Cynllunio Lleol Cymru
15 Gorffennaf 2020
Annwyl gyfeillion,
Cyd-asiantaeth weithredol yw’r Arolygiaeth Gynllunio o dan Lywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae gwasanaethau Cymreig yr Arolygiaeth Gynllunio (PINS) yn cael eu darparu gan dîm ar wahân o’r enw PINS Cymru.
Mae’r gwasanaeth yn dyddio o’r cyfnod cyn datganoli ac wedi para ers datganoli. Ystyriwyd i’r angen am Arolygiaeth ar wahân i Gymru ym 1999 a hefyd adeg datblygu Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Erbyn hyn, mae llawer o wahaniaethau o ran deddfwriaeth a pholisi rhwng systemau cynllunio Cymru a Lloegr. Cymru hefyd yw’r unig weinyddiaeth sydd heb ei harolygiaeth ei hun.
Ym mis Mawrth 2019, gofynnodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, i swyddogion ddechrau ar y gwaith o ffurfio corff newydd i ddelio ag apeliadau cynllunio a phenderfyniadau amgylcheddol yng Nghymru, er mwyn:
- Sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yng Nghymru yn adlewyrchu deddfau a pholisïau Cymru, gyda phartner cyflawni ar wahân fyddai’n atebol i Weinidogion Cymru yn unig;
- Helpu’r symud tuag at ddeddfwrfa ar wahân i Gymru i ymdrin â’r amgylchedd adeiledig a naturiol; a
- Sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn rhoi gwerth eu harian i Weinidogion Cymru.
Mae’r gwaith hwn ar fin dod i ben a bydd y gwasanaeth newydd, fydd yn dwyn yr enw Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (Planning and Environment Decisions Wales yn Saesneg) yn dechrau ar ei waith ar 1 Hydref 2021.
Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gweithredu fel Is-adran newydd o fewn Llywodraeth Cymru ond yr un tîm profiadol rydych chi’n gyfarwydd â nhw fydd yn gyfrifol amdano. Mae protocolau wedi’u creu i sicrhau bod penderfyniadau arolygwyr yn dal i fod yn wrthrychol ac yn ddiduedd.
Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru’n gyfrifol am ddelio â’r llwyth achosion y byddai PINS Cymru wedi ymdrin â nhw ar faterion datganoledig cyn 1 Hydref 2021. O 1 Hydref 2021, dylid cyfeirio pob apêl a gwaith achos ar gydsyniadau y byddai PINS Cymru wedi penderfynu arnyn nhw cyn hynny at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Parc Cathays, Caerdydd fydd y cyfeiriad o hyd. Dylech barhau hefyd i roi’r dolenni canlynol i ddefnyddwyr y gwasanaeth sydd am wybodaeth am y broses apeliadau cynllunio ond gan ddweud wrthynt am y gwasanaeth newydd:
Bydd llinell ffôn ymholiadau cyffredinol yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn peidio â gweithredu o 01 Hydref. Dylid cyfeirio ymholiadau at linell cymorth cwsmeriaid Llywodraeth Cymru, ar 0300 0604400, o'r dyddiad hwnnw.
Bydd angen ichi ddiweddaru’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ymgeiswyr fel bod yr wybodaeth honno’n cyfeirio at enw’r gwasanaeth newydd o 1 Hydref 2021. Bydd gofyn ichi ddweud wrth ddefnyddwyr, rhanddeiliaid ac ymgyngoreion mewnol na fydd manylion apeliadau na gwaith achos byw yn cael eu cadw ar Borth Gwaith Achos Apeliadau na’r Porth Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol ar ôl y dyddiad hwnnw. Bydd PINS hefyd yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr y gwasanaeth am y newid ychydig cyn y newid ar 1 Hydref. Mae newidiadau’n cael eu gwneud hefyd i’r Porth Gwaith Achos Apeliadau rhag iddo gael unrhyw waith achos newydd o Gymru ar ôl 1 Hydref 2021.
Mae Llywodraeth Cymru am ddiolch i’r Arolygiaeth Gynllunio am ei wasanaeth hir a chlodwiw. Rwy’n disgwyl ymlaen at weithio gyda Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru fel rhan o fframwaith deddfwriaethol a gweithredol datganoledig ehangach ar gyfer y system gynllunio yng Nghymru.
Yn gywir,
Neil Hemington
Prif Gynllunydd, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio
Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.