Neidio i'r prif gynnwy

Mae trafodaethau ar y gweill ar gyfer archwilio cynllun lleoliadau rhyngosod peilot mewn adrannau caffael ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd myfyrwyr yn nhrydedd flwyddyn eu Graddau Logisteg a'r Gadwyn Gyflenwi ym Mhrifysgol De Cymru yn rhan o’r cynllun. Byddwn yn cefnogi lleoli hyd at bum myfyriwr mewn adrannau caffael mewn sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun am gyfnod penodol, i weithio ar brosiectau penodol sy'n ategu eu hastudiaethau.

Byddwn yn ariannu'r costau cyflogaeth pob un o’r myfyrwyr am y cyfnod penodol. Ar ôl graddio, ac yn amodol ar eu perfformiad yn ystod y lleoliad, efallai y byddwn yn cynnig cyfle iddynt ddychwelyd ar drefniadau rhan amser am gyfnod penodol. Bydd hyn yn helpu graddedigion i gadw’u sgiliau a chynyddu'r capasiti masnachol ar draws cymuned gaffael Cymru. Dylai'r cyfle hwn roi digon o brofiad i'r myfyrwyr allu sicrhau swyddi parhaol ar draws y sector cyhoeddus.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â vwpolicy@llyw.cymru

 

Rhannu’r dudalen hon