Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â defnyddio’ch ewyllys i roi gwybod am eich penderfyniad i roi organau: gallai hynny fod yn rhy hwyr  – yr Ysgrifennydd Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd pobl yn gofyn yn bur aml am gael cynnwys datganiad ynghylch rhoi organau yn eu hewyllys, gyda'r bwriad o roi eu horganau at ddibenion trawsblannu ar ôl eu marwolaeth. Mae cwmni cyfreithwyr Watkins a Gunn, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phont-y-pŵl, yn dweud bod oddeutu 1 o bob 10 o bobl yn nodi eu penderfyniad ynghylch rhoi organau yn eu hewyllys. 

Fodd bynnag, yn ôl pob tebyg bydd yn llawer rhy hwyr i allu trawsblannu eich organau erbyn i'ch ewyllys gael ei darllen. 

Dim ond 1% o'r boblogaeth sy'n marw mewn ffordd sy'n golygu y gallant fod yn rhoddwyr organau gan fod angen i organau gael eu trawsblannu yn fuan iawn ar ôl marwolaeth, a rhaid bod y rhoddwr wedi marw mewn ysbyty o dan amodau penodol.

Bydd nyrsys sy'n arbenigo mewn rhoi organau yn edrych a yw unigolyn ar Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG, a hefyd bydd y mater bob amser yn cael ei drafod gyda theuluoedd rhoddwyr posibl.  

Ond, os nad yw rhoddwr wedi rhoi gwybod i'w deulu am ei benderfyniad i roi ei organau, mae'n bosibl na fyddant yn anrhydeddu ei benderfyniad, gan wrthod cydnabod y ffaith ei fod ar y gofrestr rhoddwyr organau, neu wrthod derbyn cydsyniad tybiedig. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething:

“Yn ystod yr Wythnos Byw Nawr eleni, byddwn yn rhoi sylw i faterion sy'n ymwneud â marw, marwolaeth a phrofedigaeth, gan fanteisio ar y cyfle i atgoffa pobl am ba mor bwysig yw hi i gofnodi eu penderfyniad i roi organau. 

“Roedd ein hymgyrch ddiwethaf yn pwysleisio pwysigrwydd siarad â theulu a ffrindiau ynghylch rhoi organau. Hoffwn bwysleisio'r neges honno unwaith yn rhagor drwy ofyn i gyfreithwyr, a'r rheini sy'n cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau, i atgoffa eu cleientiaid i drafod eu penderfyniad gyda theulu a ffrindiau. 

“Yn amlach na pheidio, erbyn i ewyllys gael ei darllen, bydd wedi mynd yn rhy hwyr i weithredu penderfyniad yr unigolyn i roi ei organau a helpu rhywun sy'n aros am drawsblaniad a allai achub ei fywyd. 

“Felly, gwnewch yn siŵr bod eich penderfyniad i achub bywyd rhywun arall drwy roi eich organau yn cael ei weithredu - gwnewch amser i gael sgwrs â'ch teulu a'ch ffrindiau.”


Mae cwmni Watkins a Gunn yn annog pobl i drafod y materion hyn cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw broblemau a allai godi ynghylch eu penderfyniad i fod yn rhoddwr os byddant yn digwydd marw. Dywedodd Linda Dack, pennaeth y gwasanaeth i gleientiaid preifat yn Watkins a Gunn: 

“Mae llawer ohonom yn ei chael hi'n anodd siarad am ddiwedd bywyd, ond mae'n hanfodol cael y sgwrs bwysig hon gyda theulu a ffrindiau, yn hytrach na gadael ansicrwydd ynghylch penderfyniadau pwysig, fel y penderfyniad ynghylch rhoi organau. Mae perthnasau yn parhau i allu gwrthod derbyn cydsyniad tybiedig yng Nghymru, felly mae'n bwysig iawn bod yn glir ynghylch eich penderfyniad i roi organau er mwyn i'ch perthnasau allu anrhydeddu eich dewisiadau.

“Gwneud ewyllys yw'r cam cyntaf, ac yma yn Watkins a Gunn, rydyn ni wedi gweld cynnydd o 5% yn nifer y cleientiaid sy'n nodi eu dymuniadau ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd i'w horganau. Mae'n hanfodol cwblhau Atwrniaeth Arhosol ar gyfer iechyd a llesiant, yn ogystal â phenodi twrnai yr ydych yn ymddiried ynddo i weithredu eich dymuniadau ynghylch cael triniaethau a all eich cadw'n fyw. Hoffwn annog pobl i siarad yn agored am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau, fel rhan o'r broses honno.”


Gallwch gofrestru eich penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23 (gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fydd yn ateb y galwadau hyn), drwy fynd i www.rhoiorganau.org  neu drwy ddweud wrth eich teulu a'ch ffrindiau.