Neidio i'r prif gynnwy

O dan y gwasanaeth sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, Dewis Fferyllfa, mae fferyllwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros reoli amrywiaeth o fân anhwylderau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y gwasanaeth sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, Dewis Fferyllfa, mae fferyllwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros reoli amrywiaeth o fân anhwylderau. Bydd pobl yn gallu gweld eu fferyllwyr i gael triniaeth yn ddi-dâl yn hytrach na gwneud apwyntiad i weld eu meddyg teulu. 

Mewn argyfwng, pan na fydd gan unigolyn gyflenwad wrth gefn o’r feddyginiaeth sy’n cael ei rhoi iddo ar bresgripsiwn, bydd fferyllfeydd yn gallu darparu cyflenwad ohoni heb i’r unigolyn orfod ymweld â’i feddyg. Gall fferyllwyr hefyd helpu i adolygu meddyginiaethau pan fydd unigolion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Dywedodd Andrew Evans: 

“Mae’n bwysig bod pobl yn cofio y bydd yna ‘benwythnos pum diwrnod’ i bob pwrpas o 23 – 27 Rhagfyr eleni. Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau meddygon teulu ar gau am gyfnod helaeth dros y dyddiadau hyn. Dylai unigolion â phresgripsiynau amloraddwy wneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o gyflenwad i’w gymryd dros gyfnod y Nadolig. Os oes angen rhagor o feddyginiaeth arnyn nhw, fe ddylen nhw siarad â’u fferyllydd.

“Mae fferyllwyr abl iawn ar gael dros gyfnod y Nadolig i helpu gydag amrywiaeth o anhwylderau o beswch ac annwyd, i bigyn clust, llid pilen y llygad, llai pen a hyd yn oed pennau tost a phroblemau â’r system dreulio a fydd yn cael eu hachosi gan oryfed a gorfwyta dros yr ŵyl.

“Drwy ymweld â’r fferyllydd yn gyntaf, gall pobl helpu i sicrhau bod meddygon teulu ar gael i roi gofal i gleifion sydd ag anghenion mwy cymhleth. Bydd fferyllwyr yn rhoi cyngor yn ystod y cyfnod hwn. Bydd hyn yn helpu unigolion i aros yn eu cymunedau, ac yn lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau ambiwlans ac argyfwng.”