Skip to main content

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i brifysgol

Bellach, gall pob myfyriwr israddedig cymwys o Gymru sy’n dechrau ar gwrs yn y brifysgol am y tro cyntaf dderbyn cymorth gyda chostau byw, drwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau. 

Gall myfyrwyr ôl-raddedig cymwys o Gymru gael cefnogaeth debyg ar ffurf grant a benthyciad, a gall myfyrwyr sy’n gwneud doethuriaeth wneud cais am fenthyciad.

O ran myfyrwyr y mae incwm eu hannedd yn weddol isel, bydd y rhan fwyaf o’r cymorth ar gyfer costau byw ar ffurf grant, nad oed rhaid ei ad-dalu.

O ran myfyrwyr sy’n cymryd benthyciad cynhaliaeth, gallent gael hyd at £1,500 wedi’i dynnu oddi ar y balans i’w ad-dalu drwy wneud y taliad cyntaf yn unol â chynllun dileu rhannol Llywodraeth Cymru.

Awgrym gwych

Ymgeisiwch yn gynnar. Nid oes angen i’ch lle ar gwrs mewn prifysgol fod wedi’i gadarnhau cyn gwneud cais am gyllid myfyrwyr.

Mae’r holl gymorth costau byw, yn ychwanegol at gymorth gyda’r ffioedd dysgu. Felly mae’n bosibl na fydd rhaid ichi dalu unrhyw beth o flaen llaw. Gall myfyrwyr rhan amser a myfyrwyr llawn amser wneud cais am fenthyciad ar wahân i dalu ffioedd dysgu – bydd rhaid ad-dalu’r benthyciad hwn  unwaith y byddant yn dechrau ennill mwy na £25,725. 

Gall myfyrwyr cymwys o’r Undeb Ewropeaidd sy’n astudio yng Nghymru wneud cais am gymorth gyda ffioedd dysgu, a gallent hefyd fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol.

Nawr, gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a threulio llai o amser yn poeni am gael dau ben llinyn ynghyd.

Dysgwch a ydych chi’n gymwys a sut a phryd i wneud cais.
 

Pam dewis addysg uwch?

Drwy fynd i addysg uwch cewch gyfle i astudio pwnc o'ch dewis a chynyddu eich gwybodaeth, ond mae yna fanteision eraill hefyd.

  • Gwella eich cyfleoedd i ennill mwy o gyflog
  • Meithrin sgiliau bywyd hanfodol
  • Dysgu bod yn annibynnol
  • Cyflawni'n bersonol

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Rhannu’r dudalen hon