Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gyrwyr tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat yng Nghymru yn medru hawlio pecyn am ddim o gyfarpar diogelu personol ansawdd uchel a deunyddiau glanhau cerbyd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bwriad y cynllun yw magu hyder gyrwyr a theithwyr wrth deithio’n ddiogel.

Mae’r pecyn yn cynnwys gorchuddion wyneb amldro a hylif diheintio dwylo o safon feddygol. Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys hylif diheintio amlbwrpas, cadachau, clytiau diheintio a menyg i lanhau cerbydau’n effeithiol rhwng teithwyr. Er mwyn rhoi gwell amddiffyniad i ddefnyddwyr dewiswyd gorchuddion wyneb o safon feddygol yn hytrach na gorchuddion safonol.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf fod gyrwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb wrth gludo teithwyr, heblaw bod hynny’n ymyrryd â’u gallu i yrru’n ddiogel. Y bwriad yw bod modd gwisgo’r gorchuddion wyneb a ddewiswyd yn gyfforddus am gyfnodau hir. Mae gofyniad cyfreithiol yn parhau fod teithwyr yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb.

Bydd gyrwyr yn medru gwneud cais am becyn ar wefan Lyreco. Bydd y pecyn yn cael ei ddosbarthu’n rhad ac am ddim.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn rhan hanfodol o’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r rôl hanfodol mae gyrwyr wedi ei chwarae fel gweithwyr rheng flaen yn ystod y pandemig hwn.

Cydnabyddwn fod gyrwyr yn awyddus i sicrhau bod eu cerbydau mor ddiogel a glân â phosibl. Bydd y pecynnau hyn yn cyfrannu tuag at yr ymdrechion sydd eisoes yn cael eu gwneud ganddynt. Rydyn ni wedi cydweithio’n agos gyda Lyreco a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu’r fenter hon a diolchwn iddyn nhw am eu hymdrechion.