Neidio i'r prif gynnwy

Mynegi diddordeb

Fel Cyfarwyddwr Anweithredol y Bwrdd byddwch yn cyfrannu at oruchwylio datblygiad datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo cyhoeddus. Byddwch yn cynnig persbectif annibynnol a chefnogaeth gan herio’r datblygwr er mwyn helpu i’w lywio a sicrhau bod safbwyntiau’r cymunedau hynny y bydd y datblygwr efallai’n gweithredu ar eu rhan yn rhan annatod o ddyluniad y sefydliad.

I fynegi diddordeb, anfonwch ddatganiad personol a CV erbyn 12.00 25 Ebrill 2022 at Jennifer Pride, yn YmatebionYnni-EnergyResponses@llyw.cymru

Datganiad Personol

Y datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf a nodir yn y fanyleb person. Chi sy'n penderfynu sut rydych am gyflwyno'r wybodaeth. Fodd bynnag, dylech anelu at ddarparu enghreifftiau manwl sy'n dangos sut mae eich gwybodaeth a'ch profiad yn cyfateb i bob un o'r meini prawf, gan ddisgrifio beth oedd eich rôl wrth gyflawni canlyniad penodol. Bydd hefyd o fudd i'r panel dethol os gallwch fod yn glir pa dystiolaeth benodol a ddarperir gennych sy'n ymwneud â pha feini prawf. Mae darparu paragraffau ar wahân mewn perthynas â phob maen prawf yn arfer cyffredin.

CV

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion cryno am eich swydd bresennol neu ddiweddaraf a'r dyddiadau y gwnaethoch feddiannu'r rôl hon.

Cyfyngwch eich datganiad personol a'ch CV i ddwy dudalen yr un, ffont maint 12 o leiaf (at ddibenion hygyrchedd).

Amserlen ddangosol

Hysbysiad ar agor: 16 Mawrth 2022
Cael ceisiadau erbyn: 12:00 25 Ebrill 2022
Llunio rhestr fer: wythnos yn dechrau 25 Ebrill 2022
Sesiwn banel rhanddeiliad a chyfweliadau: wythnos yn dechrau 2 Mai 2022
Bwrdd yn penodi: wythnos yn dechrau 23 Mai

Amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau unigryw y mae pob un o'n cydweithwyr yn eu cyflwyno i'r gwaith bob dydd ac rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynnwys ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Byddai Is-adran Ynni Llywodraeth Cymru yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan Fenywod, Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, LGBTQ+ ac ymgeiswyr sydd ag anabledd.

Atodiad A: Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Fwrdd Interim y Datblygwr Ynni Adnewyddadwy

Cefndir

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i sefydlu cwmni datblygu, sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru i ddechrau, i ddatblygu prosiectau solar a gwynt ar raddfa fawr sy'n diwallu anghenion Cymru ac sy'n sicrhau budd i bobl Cymru. Mae Bwrdd Interim yn cael ei sefydlu i ystyried cynigion i gyflawni'r ymrwymiad hwn. Mae'r Bwrdd Interim hwn yn debygol o fod ar waith am hyd at ddwy flynedd nes bod strwythur y datblygwr parhaol ar waith. Caiff trefniadau llywodraethu yn y dyfodol wedi hynny eu cynllunio fel rhan o'r broses ddatblygu. Bydd penodiadau i'r Bwrdd ar gyfer hyd y cyfnod datblygu hwn. Rhagwelir y byddant hyd at ddwy flynedd.

Y Bwrdd

Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan Is-adran Ynni Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys nifer o uwch aelodau o Lywodraeth Cymru, sy'n cynrychioli meysydd fel y Trysorlys, Llywodraethu a Llywodraeth Leol. Mae aelodau allanol yn cynnwys cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, a'r diwydiant datblygu adnewyddadwy masnachol yng Nghymru. Bydd y swydd hon yn cyd-fynd â'r swyddi allanol hynny fel Cyfarwyddwr Anweithredol pellach.

Y rôl

Er y bydd y cwmni datblygu yn datblygu prosiectau sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru i ddechrau, hoffem iddo allu cefnogi grwpiau cymunedol a all ddefnyddio ei sgiliau. Er bod gan rai grwpiau cymunedol y gallu eisoes i ddatblygu prosiectau ar bob graddfa, efallai y bydd cymunedau eraill yn croesawu cefnogaeth y cwmni i ddatblygu prosiectau.

Bydd y swydd hon yn sicrhau bod cymunedau a grwpiau ynni cymunedol yn cael eu hystyried a'u cynrychioli'n llawn yn ystod y broses ddatblygu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhywun a all gael effaith gadarnhaol a chyfraniad hanfodol wrth sicrhau bod y persbectif ynni cymunedol yn siapio'r cwmni. Byddwch yn deall sut i weithredu ar lefel y Bwrdd ac yn gweithio gydag aelodau'r Bwrdd i sicrhau bod safbwynt y sector yr ydych yn ei gynrychioli yn cael ei gynrychioli'n llawn, yng nghyd-destun ehangach Cymru. Fel aelod anweithredol, byddwch yn cydweithio ag uwch aelodau eraill y Bwrdd, i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio a diffinio cyfeiriad, amcanion strategol a gwerthoedd y cwmni yn y dyfodol.

Atodiad B Disgrifiad o’r rôl a manyleb y person

Cewch eich penodi gan Is-adran Ynni Llywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Ni ddylid dehongli unrhyw beth yn y ddogfen hon fel contract cyflogaeth rhyngoch chi a Llywodraeth Cymru, na'i gymryd i greu un.

Bydd y rôl hon yn cynnwys:

  • Helpu i ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a phennu amcanion heriol
  • Hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
  • Sicrhau bod gweithgareddau'r rhaglen Datblygwyr Ynni Adnewyddadwy yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol; a
  • Sicrhau bod dyluniad y Datblygwr Ynni Adnewyddadwy yn golygu ei fod yn debygol o gyflawni ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad yn llawn.

Manyleb y person

I gael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Dylai ymgeiswyr allu dangos y canlynol:

Meini prawf hanfodol

  • Meddyliwr strategol gyda phrofiad datblygu ynni gweithredol a strategol perthnasol
  • Cefndir cymunedol cryf, yn ddelfrydol mewn ynni cymunedol, gyda phrofiad o ddatblygu a thyfu menter gymunedol
  • Dealltwriaeth gref o’r sector ynni gyfredol
  • Hanes o feddwl yn strategol, gyda phrofiad o weithio gyda Llywodraeth leol a/neu Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU i gyflawni canlyniadau a rennir yn llwyddiannus
  • Profiad o ystyried dyfodol y sector ynni cymunedol a gweithio gydag eraill i ddatblygu persbectif a rennir
  • Profiad masnachol ac wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â gweithio yn y sector preifat/cyhoeddus
  • Sgiliau dylanwadu a chyfathrebu cryf, gyda'r gallu i ddehongli deunydd cymhleth
  • Byddai profiad blaenorol o weithio ar lefel Bwrdd yn fantais

Sgiliau dymunol

 Profiad o weithio o fewn marchnadoedd ynni sy'n datblygu
 Y gallu i siarad ac ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg
 Profiad o weithio mewn sefydliad newydd

Ffeithiau allweddol am y swydd

Lleoliad

Mae'r swydd yn niwtral o ran lleoliad. Rydym yn rhagweld y bydd cyfarfodydd yn rhai rhithiol. Os na ellir osgoi cyfarfodydd wyneb yn wyneb, byddwn yn ad-dalu costau teithio a chynhaliaeth.

Tymor y penodiad

Bydd y penodiadau ar gyfer cyfnod y Bwrdd. Rhagwelir y byddant hyd at ddwy flynedd.

Ymrwymiad amser

Ar gyfartaledd, bydd y rôl hon yn gofyn am ymrwymiad amser i fynychu o leiaf deg cyfarfod Bwrdd y flwyddyn, yn ogystal â pharatoi ar eu cyfer. Efallai y bydd gweithdai ychwanegol ar bynciau penodol hefyd.

Taliadau

Nid yw Llywodraeth Cymru fel arfer yn talu cyfarwyddwyr anweithredol. Fodd bynnag, yr ydym yn dymuno sicrhau fod gan y Bwrdd gynrychiolaeth sector gref. Os bydd angen, byddwn yn fodlon ystyried talu costau amser i baratoi ar gyfer cyfarfodydd a'u mynychu, ar gyfradd ddyddiol o £198. Ni fydd yr angen am gydnabyddiaeth ariannol yn fater sy'n cael ei ystyried yn y broses ddethol.

Diwydrwydd dyladwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar bob ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i gael cyfweliad. Bydd hyn yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a chwiliadau rhyngrwyd, ond nid o reidrwydd wedi’i gyfyngu iddynt. O ganlyniad, efallai y gofynnir cwestiynau i chi yn y cyfweliad mewn perthynas ag unrhyw ganfyddiadau diwydrwydd dyladwy.

Gwrthdaro buddiannau

Gofynnir i chi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai wrthdaro â'r rôl, neu a ystyrir ei fod yn, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a swyddi o awdurdod.

Bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei archwilio yn y cyfweliad. Os caiff ei benodi, bydd gofyn i chi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.

Safonau mewn bywyd cyhoeddus

Rhaid i Gyfarwyddwyr Anweithredol gadw at y safonau uchaf o ddidueddrwydd, uniondeb a gwrthrychedd mewn perthynas â stiwardiaeth arian cyhoeddus a llywodraethu'r Datblygwr Ynni Adnewyddadwy.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd gynnal, a chael ei weld yn cynnal, 7 egwyddor bywyd cyhoeddus.

Bydd disgwyl i chi ddangos safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol. Gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus danysgrifio i'r Cod Ymddygiad ar gyfer Cyfarwyddwyr Anweithredol y Bwrdd Cyrff Cyhoeddus.
 

Atodiad C: Y broses ddethol

Bydd y panel sy’n dewis y rhestr fer yn asesu datganiadau personol a CVs ymgeiswyr i benderfynu pwy sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer y rôl orau yn eu barn nhw, a phwy fydd yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Bydd y panel yn dibynnu ar yr wybodaeth a ddarperir gennych yn eich CV a'ch datganiad yn unig i asesu a oes gennych y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch. Sicrhewch eich bod yn darparu tystiolaeth i gefnogi sut rydych yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol.

Bydd y panel cyfweld yn cael ei gadeirio gan Ed Sherriff, Cadeirydd y Bwrdd, a bydd hefyd yn cynnwys Alyson Hall, a fydd yn sicrhau proses teg a chyson a chynrychiolydd ynni cymunedol. Bydd yn broses yn digwydd dros Microsoft Teams.

Rhagwelwn y bydd y panel sy’n dewis y rhestr fer wedi penderfynu pwy fydd yn cael eu gwahodd am i gymryd rhan mewn ymarfer rhanddeiliaid a i’w cyfweld erbyn 29 Ebrill 2022. Dim ond yr ymgeiswyr cryfaf fydd y panel yn eu dewis i gyfweld, y rhai sydd yn bodloni’r meini prawf sydd wedi eu nodi yn y manyleb person.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd yn gyntaf i gymryd rhan mewn ymarfer panel rhanddeiliaid. Bydd hyn yn cynnwys sgwrs 30 munud gyda nifer fechan o'r bobl y byddwch yn eu cynrychioli. Bydd barn y panel yn rhan o'r broses ddethol.

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn ceisio rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ar gyfer y panel rhanddeiliaid a dyddiadau'r cyfweliad. Os na allwch wneud y dyddiadau a bennwyd, byddwn yn ceisio ail-drefnu. Fodd bynnag, efallai na fydd yn bosibl oherwydd cyfyngiadau amser o fewn amserlen y penodiad neu argaeledd rhanddeiliaid a phanel cyfweld.

Byddwch yn derbyn e-bost gan Jennifer Pride i roi gwybod i chi a ydych wedi cael eich gwahodd am gyfweliad ai peidio. Ein bwriad yw cynnal cyfweliadau rhithwir drwy Microsoft Teams.

Os cewch eich gwahodd am gyfweliad, bydd y panel yn eich holi am eich sgiliau a'ch profiad, gan ofyn cwestiynau penodol i asesu a ydych yn bodloni'r meini prawf a nodir ar gyfer y swydd.

Bydd ymgeiswyr y mae'r panel yn credu eu bod yn 'rhai y gellir eu penodi' yn cael eu hargymell i Fwrdd Interim y Datblygwr Ynni Adnewyddadwy i'w cymeradwyo. Bydd bwlch amser rhwng y cyfweliad a’r penderfyniad terfynol o benodiad. Rhagwelir y bydd Bwrdd Interim y Datblygwr Ynni Adnewyddadwy yn cyfarfod ar 19 Mai 2022. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cael eu cyfweld yn cael gwybod am hynt y broses.
Os nad ydych yn llwyddiannus yn y cyfweliad, cewch eich hysbysu gan Jennifer Pride. Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn cymryd llawer o amser ac ymdrech i wneud cais am rolau a bod adborth yn rhan werthfawr o'r broses. O ganlyniad, bydd y llythyr yn rhoi manylion pwy y gallech gysylltu â nhw i gael adborth ar eich cyfweliad a'ch cais, os dymunwch wneud hynny.

Ymholiadau

Os oes gennych ymholiadau am eich cais, cysylltwch ag Ymholiadau EnergyResponses@llyw.cymru a bydd un o'r tîm yn ymateb cyn gynted â phosibl.