Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan wedi amlinellu sut y bydd cyllid o £7m gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl, gan gydnabod y cymorth hanfodol y maent yn ei roi i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Bydd y pecyn cymorth yn dyrannu £5.5 miliwn i awdurdodau lleol i roi cymorth wedi’i dargedu ar gyfer gofalwyr di-dâl; £1.25m ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr – y llynedd, rhoddodd y gronfa hon gymorth i bron 6500 o ofalwyr di-dâl a oedd yn cael anhawster ymdopi ag effaith ariannol COVID-19; £20,000 i ariannu sesiynau cymorth llesiant meddyliol ar-lein; a £230,000 ar gyfer Cronfa’r Teulu i gefnogi dros 600 o deuluoedd incwm isel eraill sydd â phlant anabl neu ddifrifol wael.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i roi £3 miliwn yn 2021-22 i alluogi i ofalwyr gymryd seibiant o’u rôl ofalu, gan ddod â’r cyfanswm cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer gofalwyr di-dâl eleni i £10 miliwn.
Mae enghreifftiau o sut y mae’r arian hwn wedi’i wario hyd yma yn cynnwys:
- £5,000 i ariannu creu cynllun Seibiantgarwch yng Ngwynedd i weithio gyda’r sector gwyliau i gynnig gwyliau rhatach i ofalwyr di-dâl
- £10,000 i ariannu ailfodelu gofal dydd ar gyfer pobl hŷn yng Ngwynedd, sy’n cynnwys talu am becynnau gofal byr a hyblyg ar gyfer gofalwyr a’r unigolion maent yn eu cefnogi
- £20,000 i ariannu rhaglen gwnsela chwe wythnos yng Nghonwy i helpu i gefnogi gofalwyr gyda straen personol a gorbryder
- £40,000 i ariannu rhaglen Cynnal Gofalwyr yng Nghonwy i ddarparu seibiant, diwrnodau allan, a phenwythnosau i ffwrdd yng Nghonwy ar gyfer gofalwyr dros 18 oed
- £32,000 ar gyfer cynnal cynllun peilot i rieni sy’n ofalwyr ddewis cymorth ymarferol addas ar gyfer eu hanghenion yn Abertawe
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
Gall effaith corfforol ac emosiynol gofalu fod yn llethol. Rydym yn rhannu’r pryderon bod rhai wedi cyrraedd pen eu tennyn oherwydd y pwysau ychwanegol arnynt o ganlyniad i’r pandemig. Mae miloedd o ofalwyr di-dâl wedi cael eu cefnogi ers dechrau’r pandemig ond mae’n hanfodol ein bod yn parhau i helpu gofalwyr di-dâl i ymdopi ag effaith emosiynol ac ariannol COVID-19.
Mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cymaint yw ein gwerthfawrogiad i’r fyddin o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd wedi mynd yr ail filltir i ofalu am eu ffrindiau a’u teulu. Rydym yn ymrwymo i gynorthwyo gofalwyr i fyw eu bywyd yn ogystal â gofalu.
Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, gan helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau y gall pobl ddod adref o’r ysbyty a pheidio â dychwelyd yno. Mae eu gwaith eithriadol a’u cyfraniad i ofal cymdeithasol yn rhan o becyn gwerth £42m i gefnogi cynllun y gaeaf ar gyfer y GIG.
Dywedodd gofalwr di-dâl sy’n mynd i grŵp cymorth dementia yng Ngwynedd:
Mae’r Grŵp Gofalwyr Dementia wedi rhoi cyfeillgarwch i mi, a chymorth pan oeddwn i’n teimlo ar goll wrth ofalu am fy ngŵr sydd â dementia cymysg. Rwyf wedi gwneud ffrindiau drwy’r cyfarfodydd, wedi gwella fy rhinweddau fel gofalwr, ac wedi cael cyngor ymarferol gan y gofalwyr eraill a’r siaradwyr gwadd sydd wedi ein harwain gyda’u cyngor doeth ar bob math o faterion ymarferol sy’n berthnasol i fod yn ofalwr. Mae boreau dydd Mawrth yn llawer llai unig ers i mi ymuno â’r grŵp.