Pecyn cymorth ar gyfer mewnoli yng Nghymru: adroddiad interim - 1. Rhagarweiniad
Adroddiad interim gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) i ystyried mewnoli yng Nghymru.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Rhagair
O fewn y Rhaglen Lywodraethu ar ei newydd wedd, o dan yr addewid i ‘Wneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt’, mae ymrwymiad i:
“… ystyried ble y gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus cryfach.”
Mae’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r dirwedd gaffael yng Nghymru ac i ddarparu arfarniad o’r opsiynau sy’n archwilio mewnoli. Y sbardun polisi allweddol y tu ôl i'r ymrwymiad i archwilio mewnoli yw mynd ar drywydd agenda gwaith teg i Gymru, sy'n gymdeithasol gyfiawn, gan gydnabod y gall mewnoli arwain at amodau cyflogaeth lleol gwell.
Mae’r adroddiad interim hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd sefydlu dull systematig a rhagweithiol o ystyried mewnoli a’r effaith y gall mewnoli ei chael ar fodelau gwasanaeth. Byddai dull o'r fath yn cymryd golwg gyfannol ar werth am arian, gan ddefnyddio lens Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth ystyried opsiynau cynllunio gwasanaethau.
Mae'r adroddiad yn edrych ar wersi a ddysgwyd trwy astudiaethau achos o allanoli a mewnoli o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a’r DU. Yn dilyn yr adroddiad interim hwn, byddwn yn llunio adroddiad ychwanegol a fydd yn darparu astudiaeth ddichonoldeb a phecyn cymorth a argymhellir ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus Cymru. Bydd y rhain yn helpu i arwain sefydliadau i roi'r ymrwymiad ar waith, i ystyried mewnoli ar lefel strategol.
Bydd y pecyn cymorth yn cael ei gyhoeddi'n fuan, gan dynnu ar y themâu allweddol, y gwersi a ddysgwyd, a'r meini prawf arfaethedig a nodir yn yr adroddiad interim hwn.
Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod mewnoli’n cael ei ystyried fel mater o drefn gydag edefyn clir o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhedeg drwy’r broses o wneud penderfyniadau ar yr opsiynau cynllunio gwasanaethau. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi nad cyfrifoldeb caffael yn unig yw ystyried mewnoli fel mater o drefn; mae angen ystyried mewnoli’n gyfannol o fewn sefydliadau, gyda chefnogaeth gan Uwch Arweinwyr. Wrth symud ymlaen, dylid defnyddio’r pecyn cymorth fel arfarniad rhagweithiol ac arferol ar gyfer mewnoli yn erbyn y Nodau Llesiant a’r Dulliau o Weithio, gyda’r bwriad o gyflawni nodau cymdeithasol ac economaidd tymor hwy a gwell llesiant ymhlith y boblogaeth, yn ogystal ag effeithlonrwydd ac ansawdd gwasanaeth, a all hefyd effeithio ar gostau yn y tymor hir.
John F Coyne
Cyfarwyddwr, Caffael a Masnachol
Llywodraeth Cymru
1. Rhagarweiniad
Mae’r Ganolfan ar gyfer Strategaethau Economaidd Lleol (The Centre for Local Economic Strategies – CLES) wedi’i phenodi gan Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru i adolygu’r sefyllfa gaffael yng Nghymru ac i gyflwyno arfarniad opsiynau gydag argymhellion a chyfarwyddyd ar gyfleoedd lle gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus Cymru cryfach.
Mae’r gwaith hyd yma yn cynnwys:
- Adolygiad desg o'r gwaith ymchwil a'r dystiolaeth mewn perthynas â’r:
- Cyd-destun cyfreithiol a’r cyd-destun polisi
- Dulliau a ddefnyddiwyd gan wledydd datganoledig eraill y DU
- Gwaith ymchwil, sylwadaeth a gwybodaeth gyhoeddedig, sy’n bodoli eisoes o ran y DU (a Chymru yn benodol)
- Enghreifftiau ac astudiaethau achos o allanoli ac o fewnoli o bob rhan o’r sector cyhoeddus yn y DU ac yng Nghymru
- Dadansoddiad llai manwl i gyd-destunoli maint y cyfleoedd mewnoli
- Cyfweliadau â’r rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru a chyda meysydd astudiaeth achos yng Nghymru ac yn y DU ehangach
Allbwn terfynol y gwaith hwn fydd adroddiad yn cyflwyno astudiaeth dichonoldeb a ‘glasbrint’ a argymhellir neu becyn cymorth ar gyfer sector cyhoeddus Cymru i arwain prosesau gwneud penderfyniadau, gan nodi lle gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl (mewnoli) yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy ac yn amlinellu sut y gall hynny arwain at sector cyhoeddus cryfach yng Nghymru.
Mae’r adroddiad interim hwn yn crynhoi’r hyn a ganfuwyd wrth adolygu’r dystiolaeth, dadansoddi’r data a chyfweld â’r rhanddeiliaid. Bydd hyn yn cynnig sylfaen dystiolaeth gysyniadol a fydd yn llywio datblygu’r pecyn cymorth.