Pecyn i helpu gweithwyr y sector cyhoeddus i gyfathrebu ynghylch strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Cynnwys
Diben y pecyn
Mae'r pecyn cyfathrebu ac ymgysylltu ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn sicrhau bod ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu yn gydlynol, yn gadarn, yn gydweithredol ac yn gydnaws â'r amcanion a nodir yn Strategaeth Trais a Cham-drin 2022 i 2026.
Mae'r pecyn yn arddangos ein hymrwymiad i barhau â'n gwaith gyda gweithwyr proffesiynol er mwyn eu helpu i ddarganfod, herio ac atgyfeirio achosion o drais a cham-drin. Mae'n adlewyrchu ein polisi iechyd cyhoeddus ac ymyriadau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn newid ymddygiad i ddadnormaleiddio trais a cham-drin a'r agweddau sy'n ei hyrwyddo.
Mae'n rhoi manylion am sut y byddwn yn rhannu datblygiadau a diweddariadau allweddol gyda'n rhanddeiliaid.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl lenyddiaeth, y negeseuon a'r mentrau codi ymwybyddiaeth yn gynhwysol ac wedi'u llywio gan waith ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad personol o gwestiwn trais a cham-drin.
Bydd y pecyn yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i'r gwaith ddatblygu.
Amcanion y strategaeth genedlaethol
- Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono.
- Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.
- Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.
- Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal trais a cham-drin.
- Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
- Rhoi'r un mynediad i bob dioddefwr at wasanaethau croestoriadol ac ymatebol o ansawdd uchel, a arweinir gan anghenion, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n cael adnoddau priodol ledled Cymru.
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Timau a chyfrifoldebau
Tîm Cyfathrebu Llywodraeth Cymru
- Byw Heb Ofn
- Ymgyrch Iawn
Tîm Trais a Cham-drin Llywodraeth Cymru
- Hyfforddiant peilot mewn sefyllfaoedd niweidiol
- Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
- Y Grŵp Cyfathrebu ynghylch Trais a Cham-drin
- Y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ynghylch Trais a Cham-drin
- Panel Craffu Llais Goroeswyr Trais a Cham-drin
Tîm Glasbrint Trais a Cham-drin
- Cyfathrebu ac Ymgysylltu Glasbrint Trais a Cham-drin
Egwyddorion
- Cydweithredu
- Gwrth-hiliaeth
- Cynwysoldeb a hygyrchedd
- Perthnasedd ac amseroldeb
- Tystiolaeth
- Polisi iechyd cyhoeddus
- Mesuradwyedd a gwerthuso
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Er mwyn helpu i newid ymddygiad ar lefel cymdeithas gyfan, a dadnormaleiddio trais a cham-drin a'r agweddau sy'n ei hyrwyddo, mae ymgysylltu â phawb sy'n rhan o'r darlun, gan gynnwys dynion a bechgyn, yn rhan annatod o'n llwyddiant.
Mae hyn yn cynnwys cydweithrediad a chyfranogiad ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, cymunedau ledled Cymru ac, yn hollbwysig, lleisiau goroeswyr a'r rhai sydd â phrofiad personol.
Er mwyn cynnal ein hegwyddorion cyfathrebu ac ymgysylltu, mae gennym Ganllaw a Phecyn Croestoriadedd Glasbrint Trais a Cham-drin i'n cefnogi yn ogystal â'r Pecyn Ymgysylltu â Goroeswyr a ddatblygwyd gan Cymorth i Ferched Cymru.
Rhanddeiliaid allweddol
Penderfynwyr Strategol - y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a goroeswyr o banel craffu a chynnwys llais goroeswyr.
Rhanddeiliaid sylfaenol
- Llywodraeth Cymru
- Tân ac Achub
- Y sector preifat
- Y Comisiynydd Cam-drin Domestig
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
- Y Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc
- Y Comisiynydd Pobl Hŷn
- Corff cyhoeddus anadrannol
- Awdurdodau lleol
- Addysg
- Yr heddlu
- Trafnidiaeth
- Cwmnïau budd cymunedol
- Sefydliadau anllywodraethol
- Dioddefwyr a goroeswyr
- Canolfannau ymchwil
- Iechyd
- HMPPS
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
- Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
- Chwaraeon
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Sefydliadau ehangach nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn y ffrydiau gwaith
Rhanddeiliaid eilaidd
- Dioddefwyr a goroeswyr y tu allan i'r panel llais goroeswyr
- Busnesau cenedlaethol a lleol
- Y cyhoedd yn ehangach
- Sefydliadau chwaraeon a hamdden
- Cyrff rheoleiddiol
- Staff gweithredol o sefydliadau a gynrychiolir
- Staff gweithredol o sefydliadau a gynrychiolir
- Y cyfryngau a'r wasg
- Sefydliadau llawr gwlad
- Staff gweithredol o sefydliadau NAD ydynt yn cael eu cynrychioli
- Llywodraeth y DU
- Cymunedau lleol
- Rhanddeiliaid buddiol*
Cyfryngau cyflawni
- Byw Heb Ofn
- Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
- Ymgyrch Iawn
- Hyfforddiant peilot mewn sefyllfaoedd niweidiol
- Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Busnes Polisi Trais a Cham-drin
- Y Grŵp Cyfathrebu ynghylch Trais a Cham-drin
- Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr Trais a Cham-drin
Canlyniadau
- Newid diwylliannol yn safbwyntiau pobl ac anoddefgarwch tuag at yr agweddau a'r credoau sy'n sail i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Newid ymddygiad hirdymor.
- Lleihau troseddu.
- Cymunedau diogelach.
- Gwell ymateb cymdeithasol i ddeall ac ymateb i drais a cham-drin.
- Llwybrau atgyfeirio a chefnogi clir ar gyfer dioddefwyr, goroeswyr a'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau.
- Cefnogaeth dosturiol sy'n ystyried trawma i bob dioddefwr a goroeswr.
- Mwy o wasanaethau sy'n gymwys yn ddiwylliannol ar gyfer dioddefwyr, goroeswyr a'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau.
- Gwella sgiliau pobl yn y gymuned i godi llais a sicrhau dim goddefgarwch i drais a cham-drin.
- Gweithlu mwy gwybodus, hyderus a chymwys.
- Lleihau risg drwy ddiwallu anghenion cyn gynted â phosibl.
- Dull cyson o weithredu ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol ledled Cymru ar draws ein systemau.
- Gostyngiad yn y nifer sy'n dod yn ôl yn gyson i ofyn am ein gwasanaethau.
Sut y byddwn yn cyfathrebu ynghylch ein cynnydd
Briff Trais a Cham-drin 7 Munud
- Pa mor aml: Bob chwarter
- Cyfrwng: E-bost
- Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol a sylfaenol
- Cyfrifoldeb: Tîm y Glasbrint
Cyfarfodydd ffrydiau gwaith Trais a Cham-drin
- Pa mor aml: Bob chwarter
- Cyfrwng: Timau
- Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol a sylfaenol
- Cyfrifoldeb: Tîm y Glasbrint
Y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a'r Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol
- Pa mor aml: Bob 4 mis
- Cyfrwng: Timau, diweddariadau ysgrifenedig a llafar
- Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol a sylfaenol
- Cyfrifoldeb: Tîm y Glasbrint
Diweddariadau polisi Trais a Cham-drin
- Pa mor aml: Yn ôl yr angen / dwywaith y flwyddyn
- Cyfrwng: E-bost
- Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol, sylfaenol ac eilaidd
- Cyfrifoldeb: Tîm Polisi Trais a Cham-drin
Adroddiad Blynyddol Trais a Cham-drin
- Pa mor aml: Bob hydref
- Cyfrwng: LLYW.CYMRU
- Y gynulleidfa: Rhanddeiliaid allweddol, sylfaenol ac eilaidd
- Cyfrifoldeb: Tîm Polisi Trais a Cham-drin