Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025 wedi'i chymeradwyo heddiw gan y Senedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y pecyn ariannu gwerth £789m, gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror, gymeradwyaeth derfynol heddiw. Mae'n cynnwys buddsoddiadau sylweddol sydd wedi'u darparu drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys:

  • £264m ar gyfer codiadau tâl y sector cyhoeddus a gyhoeddwyd ym mis Medi.
  • £108m ar gyfer gwelliannau'r GIG, gan gynnwys £50m i leihau'r amseroedd aros hiraf erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
  • £63.5m i wella safonau ysgolion a chefnogi addysg ar bob lefel.
  • £53.5m ar gyfer atgyweirio seilwaith ysgolion a cholegau a gwelliannau digidol.
  • £10m i gynyddu tai cymdeithasol drwy'r Grant Tai Cymdeithasol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

Rydym yn croesawu cymeradwyaeth y Senedd i'r gyllideb hanfodol hon. Mae'r buddsoddiad hwn yn cryfhau'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru. Mae'r cyllid ychwanegol yn cefnogi gwelliannau yn y GIG ac ysgolion; mae wedi darparu codiadau cyflog i weithwyr y sector cyhoeddus ac mae'n helpu i adeiladu rhagor o gartrefi fforddiadwy i deuluoedd Cymru.

Mae'r Ail Gyllideb Atodol hefyd yn cynnwys £166.7 miliwn ar gyfer gwelliannau i'r rheilffyrdd a theithio cynaliadwy, £33.5m ar gyfer diogelwch y rhwydwaith ffyrdd, a £10m mewn cymorth brys i awdurdodau lleol atgyweirio difrod a achoswyd gan stormydd y gaeaf.

Mae'r gyllideb yn darparu'r sylfaen hanfodol ar gyfer cynllunio ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-2026.