Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: o 2018/19 i 2022/23
Adroddiad ar batrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, gan ddefnyddio data lefel genedlaethol o'r asesiadau personol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Asesiadau ar-lein sydd wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau darllen a rhifedd yw'r asesiadau personol ar gyfer Darllen a Rhifedd. Fe'u defnyddir mewn ysgolion fel un o ystod o ddulliau i gefnogi cynnydd fel rhan o Gwricwlwm i Gymru. Mae’r asesiadau personol blynyddol yn fandadol i ddisgyblion Blynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir. Mae'r asesiadau'n cynnwys: Rhifedd sydd mewn dwy ran, sef Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu), Darllen yn Gymraeg ac yn Saesneg (gweler y nodyn isod ar amserlen cyflwyno'r asesiadau personol, a cheir rhagor o wybodaeth am bob asesiad a'r gofynion mandadol ym mhrif adran yr adroddiad hwn).
Mae'r asesiadau hyn yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau darllen a rhifedd disgyblion unigol, a dealltwriaeth o'r cryfderau a'r meysydd i'w gwella yn y sgiliau hyn. Ar ôl cwblhau'r asesiadau, mae gan ysgolion fynediad at adborth ar sgiliau, cynnydd ac ystod o adroddiadau i helpu i gynllunio'r addysgu a'r dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn glir mai diben yr asesiadau yw helpu disgyblion i wneud cynnydd, ac ni luniwyd yr asesiadau i'w defnyddio at ddibenion atebolrwydd, ar unrhyw lefel.
Gall data dienw o'r asesiadau personol hefyd ddarparu rhywfaint o wybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd ar lefel genedlaethol, gan ddangos newidiadau mewn cyrhaeddiad dros amser a gwahaniaethau rhwng grwpiau demograffig.
Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio'r adroddiad hwn cyn gynted ag y gallai i helpu i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Dyma'r flwyddyn gyntaf y mae data lefel genedlaethol ar gael i'w cymharu ar hyd cyfres amser ar gyfer pob pwnc asesu. Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data dienw o asesiadau personol a gymerwyd rhwng 2018/19 (blwyddyn cyflwyno'r asesiad cyntaf) a 2022/23. Nid yw cyhoeddi'r adroddiad hwn yn golygu unrhyw newid i ysgolion; bydd asesiadau personol yn parhau i gael eu cynnal yn yr un ffordd a'u defnyddio ochr yn ochr â mathau eraill o ddulliau asesu a ddyluniwyd gan ysgolion yn unol â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Dyma'r cyntaf o gyfres o ddatganiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer data asesiadau personol ar lefel genedlaethol. Maes yr adroddiad byr hwn yw'r newidiadau mewn patrymau cyrhaeddiad dros amser. Bydd datganiad mwy cynhwysfawr ar ddata 2018/19 i 2022/23, a gyhoeddir ddiwedd gwanwyn 2024, yn dangos gwahaniaethau demograffig, er enghraifft rhwng disgyblion gwrywaidd a benywaidd, a'r bwlch rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Ar ôl hynny, cyhoeddir datganiadau blynyddol a fydd yn y pen draw yn dangos tueddiadau ac yn darparu gwybodaeth bwysig am ddatblygiad disgyblion o'r sgiliau hyn dros amser, ar lefel genedlaethol.
Bydd y datganiadau yn rhan o ystod ehangach o wybodaeth ar lefel genedlaethol am gyflawniad dysgwyr. Byddant yn ategu, er enghraifft, yr wybodaeth sy'n deillio o'n rhaglen ehangach o asesiadau monitro cenedlaethol yn seiliedig ar samplau a fydd yn cwmpasu ehangder y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr asesiadau sy'n seiliedig ar samplau yn ceisio asesu sampl o ysgolion bob blwyddyn yn unig. Gwneir hynny er mwyn sicrhau'r pwysau lleiaf posibl ar y system wrth gyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol o sut mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi datblygiad dysgwyr. Disgrifir y rhaglen hon yn fanylach yn y ddogfen Cynllun Gwerthuso'r Cwricwlwm i Gymru.
Nodyn am amserlen yr asesiadau a blynyddoedd y data sydd ar gael
Cafodd asesiadau personol eu cyflwyno'n raddol dros gyfnod o bedair blynedd academaidd:
- Rhifedd (Gweithdrefnol) o 2018/19
- Darllen yn Gymraeg a Saesneg o 2019/20
- Rhifedd (Rhesymu) o 2021/22
Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data o 2018/19 i 2022/23. Fodd bynnag, mae'r tarfu yn sgil COVID-19 wedi arwain at fwlch yn y data ar gyfer 2019/20, sef y flwyddyn yr oedd y pandemig wedi amharu fwyaf ar weinyddu'r asesiadau. Er bod rhai asesiadau personol wedi'u cynnal yn ystod y cyfnod hwn, nid yw 2019/20 wedi'i gynnwys yn y dadansoddiad hwn oherwydd nad oes digon o ddata ar gael.
Patrymau cyrhaeddiad dros amser, yn ôl pwnc yr asesiad a grŵp blwyddyn
Mae'r adroddiad hwn yn cymharu cyrhaeddiad disgyblion mewn grŵp blwyddyn penodol dros sawl blwyddyn academaidd. Er enghraifft, mae'n cymharu cyrhaeddiad disgyblion Blwyddyn 3 yn yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn 2018/19, 2020/21, 2021/22, a 2022/23. Mae hyn yn golygu bod yr adroddiad hwn yn adrodd am gyrhaeddiad carfannau gwahanol o ddisgyblion sydd mewn grŵp blwyddyn penodol ar adegau gwahanol. Nid yw'n olrhain cyrhaeddiad yr un disgyblion dros amser wrth iddynt symud trwy grwpiau blwyddyn. Ond bwriedir i adroddiadau yn y dyfodol archwilio hynny. At ddibenion yr adroddiad hwn rydym yn cyfleu cyrhaeddiad cyfartalog uwch neu is yn ôl misoedd, er mwyn inni wneud cymariaethau ar lefel genedlaethol. Rydym yn gwneud hynny fel ei bod yn haws deall y patrymau, ac oherwydd natur yr asesiadau – gan nad oes gan yr asesiadau ddull graddio ar raddfa gyffredin sy'n debyg i'r math o ddull a ddefnyddir ar gyfer arholiadau, er enghraifft. Sylwch ein bod yn crynhoi'r holl ddata i'r mis agosaf, ac mewn rhai achosion bydd hyn yn golygu efallai na fydd cyfanswm a ddangosir yn cyfateb i swm y ffigurau sy'n ffurfio'r cyfanswm hwnnw.
Mae'r effaith ar ddysgu yn ystod ac ar ôl y pandemig wedi bod yn destun sawl astudiaeth yn y DU ac yn rhyngwladol – gweler y dolenni yn yr adran dystiolaeth isod. Mae'r patrymau a welir yng Nghymru yn debyg i ganfyddiadau'r ymchwil mewn gwledydd eraill.
Mae nodyn ar ddehongli'r ffigurau yn yr adran hon i'w gweld isod. Mae'r ffigurau'n dangos patrymau mewn cyrhaeddiad cyfartalog ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y daenlen ategol.
Rhestrir yr asesiadau isod yn y drefn y cawsant eu cyflwyno i ysgolion yng Nghymru. Dylid nodi bod yr adroddiad hwn yn dangos patrymau dros gyfnod cymharol fyr ers cyflwyno'r asesiadau personol, ac y bydd angen data rhagor o flynyddoedd i lunio barn ar dueddiadau tymor hwy. Roedd nifer llai o ddisgyblion wedi gwneud asesiadau yn ystod 2020/21, yn sgil y tarfu parhaus ar addysg oherwydd y pandemig y flwyddyn honno. Felly, gallai honno fod yn ffactor i'w hystyried ymhellach unwaith y bydd data rhagor o flynyddoedd ar gael ar dueddiadau.
Rhifedd (Gweithdrefnol)
Mae'r asesiad Rhifedd yn cael ei gyflawni mewn dwy ran. Mae asesiad Rhifedd (Gweithrefnol) yn canolbwyntio ar ffeithiau a gweithdrefnau rhifyddol – sef yr 'adnoddau' rhifyddol sydd eu hangen i gymhwyso rhifedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae'n cael ei gyflawni bob blwyddyn gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9. Cyflwynwyd yr asesiad hwn ym mlwyddyn academaidd 2018/19 a hwn yw'r unig asesiad y mae data ar gael ar ei gyfer cyn ac ar ôl y tarfu a achosir gan COVID-19.
Ffigur 1: Rhifedd (Gweithdrefnol): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21, 2021/22 a 2022/23 o'i gymharu â 2018/19, mewn misoedd
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2020/21, 2021/22 neu 2022/23. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2018/19. Sylwch nad yw 2019/20 wedi'i gynnwys oherwydd nad oes digon o ddata yn y flwyddyn yr effeithiwyd arni fwyaf gan bandemig COVID-19.
Prif bwyntiau
- O ran Rhifedd (Gweithdrefnol), dangosodd disgyblion gyrhaeddiad is ar gyfartaledd yn 2020/21 nag a wnaeth disgyblion yn 2018/19. Roedd hyn yn cyfateb i wahaniaeth o dri mis o ran cyrhaeddiad is yn 2020/21 o'i gymharu â disgyblion yn 2018/19. Efallai y gellir priodoli hyn i effaith pandemig COVID-19, a gafodd effeithiau tebyg yn rhyngwladol.
- Nid oedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 o'i gymharu â 2018/19 yr un fath i bob grŵp blwyddyn; roedd y gwahaniaeth yn fwy i ddisgyblion iau. Yn 2020/21 roedd cyrhaeddiad disgyblion ym Mlynyddoedd 2 a 3 yn is o 8 mis o'i gymharu â disgyblion Blynyddoedd 2 a 3 yn 2018/19; roedd cyrhaeddiad disgyblion ym Mlynyddoedd 4 i 7 bedwar mis yn is o'i gymharu â disgyblion yn 2018/19. I'r gwrthwyneb, yn 2020/21 roedd cyrhaeddiad disgyblion ym Mlynyddoedd 8 a 9 bedwar mis yn uwch o'i gymharu â disgyblion ym Mlynyddoedd 8 a 9 yn 2018/19. Mae hyn yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio'n fwy negyddol ar ddisgyblion iau, tra bo'r disgyblion hŷn wedi gallu rheoli'r newid yn y sefyllfa ddysgu yn well.
- Yn 2021/22, roedd y cyrhaeddiad cyfartalog yn parhau i fod yn debyg i'r hyn a welwyd yn 2020/21, ar draws pob grŵp blwyddyn. Mae hyn yn gyson â'r patrwm o fân newidiadau dros amser y gellir eu disgwyl heb ddylanwadau allanol sylweddol.
- Yn 2022/23 roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion Blynyddoedd 2 i 5 yn debyg iawn i'r hyn a welwyd yn 2021/22. Fodd bynnag, ar gyfer Blynyddoedd 6 i 9, roedd y cyrhaeddiad cyfartalog fis yn is o'i gymharu â 2021/22. Roedd y patrwm yn gyson ar draws pob grŵp blwyddyn, gan symud o gyrhaeddiad ychydig yn uwch ar gyfer disgyblion iau i gyrhaeddiad is ar gyfer disgyblion hŷn, mewn modd systematig.
I grynhoi, yn 2022/23 roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion mewn Rhifedd (Gweithdrefnol) yn is nag yr oedd yn 2018/19. Ac roedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn cyfateb i bedwar mis. Roedd cyrhaeddiad Blynyddoedd 2 i 3 tua 8 mis yn is, ar gyfer Blynyddoedd 4 i 7 roedd y cyrhaeddiad tua phum mis yn is, ac ar gyfer Blwyddyn 8 roedd y cyrhaeddiad hanner mis yn is. I'r gwrthwyneb, roedd cyrhaeddiad disgyblion Blwyddyn 9 dri mis yn uwch o'i gymharu â disgyblion Blwyddyn 9 yn 2018/19.
Darllen Cymraeg
Mae'r asesiadau personol ar gyfer Darllen yn Gymraeg yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae disgyblion yn deall testun yn Gymraeg ac a ydynt yn gallu llunio barn am yr hyn y maent yn ei ddarllen. Mae asesiad Darllen yn Gymraeg yn cael ei gwblhau’n flynyddol gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynwyd yr asesiad ym mlwyddyn academaidd 2019/20. Ond nid oedd digon o ddata ar gael ar gyfer y flwyddyn honno oherwydd y tarfu a achoswyd gan bandemig y coronafeirws. Felly nid yw 2019/20 wedi'i gynnwys yn y dadansoddiad hwn.
Ffigur 2: Darllen Cymraeg: y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22 a 2022/23 o'i gymharu â 2020/21, mewn misoedd
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Darllen yn Gymraeg y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2021/22 neu 2022/23. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2020/21. Nid oes digon o ddata ar gyfer 2019/20, y cyfnod yr effeithiwyd arno fwyaf gan y tarfu yn sgil pandemig COVID-19; mae'r siart felly yn dangos data ar gyfer dwy flynedd yn unig.
Prif bwyntiau
- Yn 2021/22, roedd cyrhaeddiad disgyblion yn is ar gyfartaledd ar gyfer Darllen yn Gymraeg o'i gymharu â disgyblion yn 2020/21. Roedd y gwahaniaeth yn cyfateb i bum mis ar gyfartaledd ar draws pob grŵp blwyddyn.
- Roedd gostyngiad pellach mewn cyrhaeddiad rhwng 2021/22 a 2022/23, sy'n cyfateb i gyrhaeddiad 7 mis yn is ar gyfartaledd.
- Mae'r ddau batrwm hyn yn gyson o ran y cyfeiriad ar draws grwpiau blwyddyn. Felly gallwn fod yn weddol hyderus na ellir eu priodoli i'r mân newid a ddisgwylir dros amser yn unig.
I grynhoi, yn 2022/23 roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion ar gyfer Darllen yn Gymraeg yn is nag yr oedd yn 2020/21, sy'n cyfateb i gyrhaeddiad 11 mis yn is.
Darllen Saesneg
Mae'r asesiadau personol ar gyfer Darllen yn Saesneg yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae disgyblion yn deall testun yn Saesneg ac a ydynt yn gallu llunio barn am yr hyn y maent yn ei ddarllen. Mae'r asesiad Darllen yn Saesneg yn cael ei gyflawni bob blwyddyn gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 sy'n dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. O ran y disgyblion hynny sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r asesiad personol Darllen yn Saesneg yn ddewisol ym Mlynyddoedd 2 a 3 ac yn orfodol ym Mlynyddoedd 4 i 9. Cafodd yr asesiad ar-lein Darllen yn Saesneg ei gyflwyno ym mlwyddyn academaidd 2019/20, ond nid oedd digon o ddata ar gael ar gyfer eleni oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19.
Ffigur 3: Darllen Saesneg: y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22 a 2022/23 o'i gymharu â 2020/21, mewn misoedd
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Darllen yn Saesneg y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2021/22 neu 2022/23. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2020/21. Sylwch, er bod yr asesiadau Darllen wedi'u cyflwyno yn 2019/20, nid oes digon o ddata ar gyfer y flwyddyn gyntaf honno, sef y cyfnod yr effeithiwyd arno fwyaf gan y tarfu oherwydd COVID-19; mae'r siart felly yn dangos data am gyfnod o ddwy flynedd yn unig.
Prif bwyntiau
- Yn 2021/22, roedd cyrhaeddiad Darllen yn Saesneg yn debyg i 2020/21.
- Yna rhwng 2021/22 a 2022/23 bu newid; dangosodd disgyblion yn 2022/23 gyrhaeddiad dri mis yn is ar gyfartaledd ar draws pob grŵp blwyddyn o'u cymharu â disgyblion yn 2021/22.
- Roedd y newid yn fwy amlwg i ddisgyblion iau a hŷn – dangosodd Blynyddoedd 2 a 3 gyrhaeddiad bedwar mis yn is ar gyfartaledd a Blwyddyn 9 bum mis yn is ar gyfartaledd.
- Mae'r ddau batrwm hyn yn gyson o ran y cyfeiriad ar draws grwpiau blwyddyn. Felly gallwn fod yn weddol hyderus na ellir eu priodoli i'r mân newidiadau a ddisgwylir dros amser yn unig.
I grynhoi, yn 2022/23 roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion mewn Darllen yn Saesneg yn is nag yr oedd yn 2020/21. Ac roedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn cyfateb i bedwar mis yn is.
Rhifedd (Rhesymu)
Mae'r asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) yn canolbwyntio ar ba mor dda y gall disgyblion ddefnyddio a chymhwyso'r hyn y maent yn ei wybod i ddatrys problemau rhifyddol. Mae'n cael ei gyflawni gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9. Hwn oedd yr asesiad olaf i'w roi ar waith fel rhan o'r dull fesul cam o gyflwyno'r asesiadau, ac mae'r data ar gael ar gyfer dwy flynedd yn unig: 2021/22 a 2022/23.
Ffigur 4: Rhifedd (Rhesymu): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2022/23 o'i gymharu â 2021/22, mewn misoedd
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Rhifedd (Rhesymu) y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2022/23. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2021/22.
Prif bwyntiau
- Yn 2022/23 roedd disgyblion yn dangos cyrhaeddiad uwch mewn Rhifedd (Rhesymu), ar gyfartaledd ac ar draws pob grŵp blwyddyn, o'u cymharu â disgyblion yn yr un grwpiau blwyddyn yn 2021/22, sy'n cyfateb i chwe mis o wahaniaeth mewn cyrhaeddiad.
- Mae'r patrwm hwn yn gyson o ran y cyfeiriad ar draws grwpiau blwyddyn. Felly gallwn fod yn weddol hyderus na ellir ei briodoli i'r mân newidiadau a ddisgwylir dros amser yn unig.
- Gellir priodoli hyn i'r ffaith bod y disgyblion yn dod yn fwy cyfarwydd â'r mathau newydd o gwestiynau yn yr asesiadau Rhifedd (Rhesymu), gan mai 2022/23 yw'r ail flwyddyn iddynt gael eu defnyddio. Mae tystiolaeth o dreialu'r asesiadau hyn yn gynnar yn awgrymu y gallai hynny fod yn digwydd.
- O ystyried y posibilrwydd hwn a'r maint cyfyngedig o ddata sydd ar gael ar gyfer Rhifedd (Rhesymu), byddem yn ofalus rhag dehongli'r ffigur hwn fel adlewyrchiad o duedd ehangach a fydd yn dod i'r amlwg dros gyfnod hirach.
Nodyn ar ddehongli'r ffigurau yn yr adroddiad hwn
Mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn dangos cyrhaeddiad cyfartalog y disgyblion fesul grŵp blwyddyn, ar draws ystod o grwpiau blwyddyn a blynyddoedd academaidd. Mae'r echelin lorweddol yn dangos grwpiau blwyddyn. Mae'r allwedd yn defnyddio lliwiau i wahaniaethu rhwng pob blwyddyn academaidd. Mae'r echelin fertigol yn dangos y cyrhaeddiad cyfartalog a gyflawnwyd gan bob disgybl yn y grŵp blwyddyn honno ym mhob blwyddyn academaidd, a ddynodir mewn unedau o fisoedd.
Y metrig cyrhaeddiad sy'n sail i'r asesiadau personol yw 'Sgoriau IRT' – hynny yw sgoriau Damcaniaeth Ymateb i Eitem (Item Response Theory – a defnyddir y byrfodd Saesneg, sef IRT) sy'n cael eu hesbonio'n fanwl yn yr adran gwybodaeth dechnegol isod. Er mwyn trosi cyrhaeddiad yn unedau o fisoedd sy'n haws eu deall, gwnaethom ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar lefel y cyrhaeddiad a gyflawnwyd mewn 'blwyddyn waelodlin' gan ddisgyblion ym mhob grŵp blwyddyn.
Ar gyfer pob grŵp blwyddyn, ystyriwyd lefel y cyrhaeddiad a gyflawnwyd gan ddisgyblion yn y grŵp blwyddyn hwnnw, gan gynnwys y grŵp blwyddyn hŷn a'r un iau, yn y flwyddyn waelodlin. Yna, roedd modd inni bennu faint o wahaniaeth oedd rhwng cyrhaeddiad disgyblion yn y grwpiau blwyddyn hyn yn ôl unedau sgoriau IRT, gan ddefnyddio model ystadegol. Caiff y model hwn ei esbonio'n fanylach yn yr adran gwybodaeth dechnegol isod, ond rydym yn disgrifio'r dull yn gyffredinol yma.
Gan ein bod yn gwybod bod y disgyblion hyn yn un neu ddau grŵp blwyddyn ar wahân, gallwn drosi gwahaniaeth y sgoriau IRT yn unedau sy'n ymwneud â faint mwy o amser y mae'r disgyblion wedi bod yn yr ysgol; sef 12 neu 24 mis. Dangosir enghraifft o hyn yn y graff isod ar gyfer cyrhaeddiad cyfartalog Blwyddyn 3 mewn Rhifedd (Gweithdrefnol).
Ffigur 5: Cyfrifo cyrhaeddiad mewn misoedd
Disgrifiad o Ffigur 5: Siart llinell yn dangos enghraifft o sut i gyfrifo cyrhaeddiad cyfartalog mewn misoedd.
Yn yr enghraifft hon, rydym yn dynodi cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion Blwyddyn 2, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 yn ein blwyddyn waelodlin (2018/19) drwy'r pwyntiau coch. Mae'r gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad disgyblion Blwyddyn 2 a Blwyddyn 4, fel y dangosir gan y saeth ddu, yn trosi i 24 mis (gan fod disgyblion Blwyddyn 4 wedi bod yn yr ysgol 24 mis yn hirach na rhai Blwyddyn 2).
Ar ôl pennu'r llinell sylfaen hon o ran cyrhaeddiad mewn misoedd, gallwn ei defnyddio i benderfynu faint o fisoedd yn is neu'n uwch oedd cyrhaeddiad disgyblion yn y grŵp blwyddyn hwn mewn blynyddoedd academaidd eraill. Yn yr enghraifft uchod, mae'r pwynt glas golau yn dangos cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion Blwyddyn 3 yn 2020/21. Rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng y pwynt hwn a'r pwynt cyfatebol ar gyfer y flwyddyn waelodlin (a ddangosir gan y saeth glas golau), ac yn trosi'r gwahaniaeth hwn yn fisoedd trwy gymharu ei faint â'r gwahaniaeth ar gyfer 24 mis (hynny yw, cymharu maint y saeth glas golau â maint y saeth ddu). Yn yr enghraifft hon, mae'r saeth glas golau tua 13% maint y saeth ddu, sy'n dangos bod gan Flwyddyn 3 gyrhaeddiad cyfartalog yn 2020/21 sydd tua thri mis yn is na Blwyddyn 3 yn 2018/19.
Wrth ddehongli'r ffigurau yn yr adroddiad hwn, mae'n hanfodol cofio bod y mesur hwn yn gymharol â'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng tri grŵp blwyddyn, yn y flwyddyn waelodlin. Mae'r data o'r asesiadau personol yn dangos, ar draws pob pwnc, bod mwy o wahaniaeth o ran cyrhaeddiad (yn nhermau sgôr IRT absoliwt) rhwng grwpiau blwyddyn iau na rhai hŷn. Mewn geiriau eraill, yn y flwyddyn waelodlin mae mwy o wahaniaeth o ran sgôr IRT rhwng cyrhaeddiad cyfartalog Blynyddoedd 2 a 3, na rhwng cyrhaeddiad cyfartalog Blynyddoedd 8 a 9.
Mae hyn yn golygu, pan fydd dau grŵp blwyddyn ar wahân yn dangos yr un gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad o ran misoedd o'i gymharu â'r flwyddyn waelodlin, y bydd mwy o wahaniaeth yn nhermau absoliwt y disgyblion iau.
Gwybodaeth dechnegol
Mae'r asesiadau personol yn addasol. Mae pob disgybl yn cael set wahanol o gwestiynau i'w cyfoedion, ac mae asesiad pob disgybl wedi'i deilwra'n ddynamig – os ydyn nhw'n rhoi'r ymatebion iawn i'r cwestiynau, bydd y cwestiynau nesaf yn anoddach, ac os ydyn nhw'n ateb y cwestiynau'n anghywir, bydd y cwestiynau nesaf yn haws. Mae hyn yn golygu nad yw'n ddilys cymharu sgoriau crai y mae disgyblion yn eu cyflawni ar eu hasesiadau, gan fod pob disgybl yn gweld cwestiynau gwahanol o ran lefelau anhawster amrywiol.
Felly, mae'r asesiadau personol yn defnyddio Damcaniaeth Ymateb i Eitem (IRT) i gyfrifo sut mae disgyblion wedi gwneud yn eu hasesiadau. Mae IRT yn ddull ystadegol sy'n ein galluogi i ddyrannu sgôr anhawster i bob cwestiwn yn seiliedig ar sut ymatebodd disgyblion ar draws y grwpiau blwyddyn iddo. Mae hyn yn golygu y gall y dull hwn gymryd lefel yr her i ystyriaeth ar gyfer y gwahanol gwestiynau, a chynhyrchu sgoriau IRT y gellir eu cymharu waeth pa gwestiynau a atebwyd gan bob disgybl. Felly, mae'r metrig cyrhaeddiad, sef 'misoedd', a adroddwyd yn y ffigurau uchod yn seiliedig ar sgoriau IRT (a elwir hefyd yn amcangyfrifon o allu).
Nid yw'r sgoriau IRT a ddefnyddir ar gyfer y dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yr un fath â'r sgoriau y mae athrawon, disgyblion a rhieni yn eu gweld ar adroddiadau asesiadau personol. Sgoriau IRT yw'r sgoriau 'mewnol' neu waelodol a ddefnyddir i gynhyrchu sgoriau safonedig ar sail oedran ac i gyfrifo pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd ar adroddiadau disgyblion. Y prif reswm dros beidio â defnyddio sgoriau cynnydd neu sgoriau safonedig ar sail oedran yn yr adroddiad hwn yw na ellir eu cymharu ar draws grwpiau blwyddyn, ac mae modd cymharu sgoriau IRT.
Yn ogystal â bod yn addasol, mae'r asesiadau personol yn dilyn model 'yn ôl y galw', sy'n golygu y gall ysgolion drefnu asesiadau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae disgyblion sy'n gwneud asesiadau yn gynnar mewn blwyddyn academaidd benodol yn tueddu i gyflawni ar lefel ychydig yn is na'r rhai sy'n eu gwneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd. Felly, wrth geisio gwerthuso a yw cyrhaeddiad disgyblion mewn un set ddata yn wahanol i gyrhaeddiad disgyblion mewn un arall, mae'n bwysig rheoli effaith 'amser dysgu' Mae'r adroddiad hwn felly'n canolbwyntio ar set o ddata o'r cyfnod pan gafodd y mwyafrif o'r asesiadau eu cwblhau – sef rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf. Mae hyn yn lliniaru (ond nid yw'n dileu'n llwyr) y risg bod yr effeithiau a welwyd o ganlyniad i'r ffaith bod disgyblion wedi cwblhau'r asesiadau yn gynharach neu'n hwyrach mewn un flwyddyn nag mewn blwyddyn arall.
Nid oedd y garfan genedlaethol gyfan wedi cwblhau'r asesiadau personol yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf. Mae hyn yn golygu, at ddibenion y dadansoddiad hwn, fod risg nad yw'r disgyblion sy'n gwneud asesiadau yn y cyfnod hwn yn gwbl gynrychioliadol o'r boblogaeth gyfan. Felly rydym wedi pwysoli'r sgoriau cyfartalog a ddangosir yn y papur hwn i wneud iawn am y posibilrwydd hwn ar sail data demograffig sydd ar gael. Mae hyn yn lleihau'r risg bod yr effeithiau a welwyd o ganlyniad i wahaniaethau systematig o ran pa ddisgyblion sy'n cwblhau'r asesiadau yn ystod y cyfnod hwn bob blwyddyn.
Mae gan ysgolion yr opsiwn i gynnal pob asesiad ddwywaith ym mhob blwyddyn academaidd. Mae hyn hefyd wedi cael ei gynnwys fel rhan o'r pwysoli, oherwydd fel arall byddai rhai disgyblion yn cael eu cyfrif ddwywaith yn y dadansoddiad. Pe bai disgybl yn cwblhau asesiad ddwywaith o fewn y cyfnod Mawrth–Gorffennaf a ddadansoddwyd yn yr un flwyddyn academaidd, dyrennir hanner y pwysoliad y byddai wedi'i gael fel arall i'r naill asesiad a'r llall.
O ran sut mae gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad dros amser yn cael eu rhoi mewn cyd-destun, defnyddiwyd modelau atchweliad i bennu'r duedd mewn cyrhaeddiad cyfartalog ar draws pob grŵp blwyddyn. Gosodwyd wyth model atchweliad llinol ar wahân ar gyfer pob pwnc/blwyddyn dan sylw, un fesul grŵp blwyddyn. Roedd atchweliad pob grŵp blwyddyn yn defnyddio data dau neu dri grŵp blwyddyn; hynny yw gan ddisgyblion yn y grŵp blwyddyn dan sylw, a'r rhai yn y grwpiau blwyddyn yn union uwchlaw (disgyblion hŷn) neu islaw (disgyblion iau) y grŵp blwyddyn dan sylw. Fformiwla pob atchweliad oedd [sgôr IRT ~ grŵp blwyddyn], sy'n golygu y gellid dehongli'r cyfernod sy'n deillio o hyn ar gyfer grŵp blwyddyn fel maint y sgôr cyrhaeddiad IRT yr ydym yn disgwyl i ddisgyblion mewn dau grŵp blwyddyn gwahanol amrywio (ar gyfartaledd).
Roedd hyn yn caniatáu inni roi'r gwahaniaethau mewn sgoriau yng nghyd-destun unedau o fisoedd, fel yr amlinellir yng nghorff y papur hwn. Mae'r llinell sylfaen ar gyfer cyrhaeddiad pob asesiad yn cyfateb i ddechrau'r broses o weithredu'r asesiad hwnnw a'r pwynt cyntaf yr oedd digon o ddata ar gael. Cynhyrchwyd y llinell sylfaen ar ddata cyrhaeddiad o flynyddoedd academaidd penodol fel a ganlyn:
- Rhifedd (Gweithdrefnol) 2018/19
- Darllen Cymraeg: 2020/21
- Darllen Saesneg: 2020/21
- Rhifedd (Rhesymu): 2021/22
Rhagor o wybodaeth
Dyma'r datganiad cyntaf ar ddarllen a rhifedd sy'n seiliedig ar ddata ar lefel genedlaethol o asesiadau personol. Y bwriad yw y bydd datganiadau yn cael eu gwneud yn flynyddol, ac yn y dyfodol byddant yn cynnwys gwybodaeth am wahaniaethau demograffig a thueddiadau.
Dolenni cyswllt i dystiolaeth ryngwladol
Mae'r patrymau dros amser a welir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu'r patrymau a welir mewn mannau eraill yn rhyngwladol wrth i wledydd unigol a systemau addysg adfer o effaith y pandemig byd-eang. Rhestrir rhai enghreifftiau isod ond nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr.
Erthygl yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol yn crynhoi nifer o astudiaethau'r DU ar effaith Covid-19 ar ddarllen, a chan gyfeirio at y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion mwy breintiedig a llai breintiedig.
Erthygl gan Harvard Graduate School of Education (Mai 2023) yn crynhoi ymchwil i effaith Covid ar gyrhaeddiad mewn sawl gwladwriaeth yn UDA, gan nodi effeithiau negyddol Covid a gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Datganiad am gymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol
Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer cyn belled ag y bo modd yn ystod eu datblygu.
Mae'r ystadegau hyn wedi'u datblygu'n gyflym ac wedi’u cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd ein disgyblion iau, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw wedi bod yn bosibl bodloni'r gofynion canlynol ar gyfer ystadegau swyddogol eto:
- Cafodd y cyhoeddiad ynghylch rhyddhau’r ystadegau hyn ei wneud dair wythnos ymlaen llaw.
- Ni fu cyfle i ymgysylltu â defnyddwyr i ddeall yr hyn sydd ei angen arnynt o’r ystadegau hyn.
Byddwn yn mynd i'r afael â'r holl bwyntiau hyn yn y cyhoeddiad nesaf yn y gyfres yng Ngwanwyn 2024.
Felly, rydym wedi cymhwyso’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol fel a ganlyn:
Hygrededd
Mae'r data wedi cael eu tynnu o systemau gweithredol a'u dosbarthu gan gontractwyr allanol sydd â phrofiad helaeth o ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth o'r fath, ac maent yn cynnwys ystadegwyr proffesiynol. Cafodd y datganiad ei gynhyrchu ar sail cyngor gan ystadegwyr sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.
Er nad yw cyhoeddi'r tablau hyn wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw yn yr un modd ag ystadegau swyddogol, maent wedi cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Dyma'r flwyddyn gyntaf y mae data lefel genedlaethol ar gael fel cyfres amser ar gyfer pob pwnc asesu. Bydd yr allbwn hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach dros y misoedd nesaf, gyda'r bwriad o ddatblygu allbwn blynyddol rheolaidd o Wanwyn 2024 ymlaen.
Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Rydym wedi sefydlu proses lywodraethu drylwyr gyda'r contractwr i sicrhau bod y data'n cael eu rheoli a'u hadolygu'n ddiogel cyn eu rhyddhau.
Ansawdd
Mae'r data yn y datganiad hwn yn deillio o'r asesiadau personol ar-lein, sy’n addasol, a gyflawnir yn flynyddol gan bob disgybl ym mlynyddoedd 2 i 9. Mae hyn wedi'i baru â data demograffig am ddisgyblion o'n cyfrifiad ysgolion blynyddol. Mae'r ddwy ffynhonnell yn deillio o ysgolion, ac yn cael eu dilysu'n helaeth yn yr ysgolion unigol a phan fyddwn yn derbyn y data. Ystyrir bod y ffynonellau data hyn o ansawdd digonol i gefnogi'r dadansoddiad hwn. Cefnogir pob cam wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn gan ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio i'r contractwr a'r ystadegwyr o Grŵp Ystadegol y Llywodraeth.
Mae ein hoffer a'n prosesau casglu data wedi'u teilwra a'u mireinio i ddiwallu gofynion yr asesiadau hyn. Defnyddiwyd technegau a phecynnau ystadegol sefydledig a phrofedig i sicrhau bod y dadansoddiad yn un cadarn.
Sicrhawyd ansawdd yr holl ddata cyn eu cyhoeddi. Mae'r dadansoddiad wedi'i wirio gan ddadansoddwyr annibynnol, ac mae'r holl allbynnau wedi mynd trwy sawl cam adolygu.
Gwerth
Erbyn haf 2023 aseswyd disgyblion yng Nghymru am yr ail flwyddyn mewn rhifedd (rhesymu), gan nodi'r pwynt lle roedd o leiaf dwy flynedd o ddata ar gyfer pob un o'r 4 maes sy'n cael eu hasesu. Roedd hyn yn darparu digon o ddata i allu cyflwyno darlun cenedlaethol cadarn. Rydym wedi cyhoeddi'r datganiad hwn cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19), yn enwedig ymhlith ein disgyblion ieuengaf.
Mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi mewn fformat "Open Document Spreadsheet" hygyrch y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar ddatgan ystadegau mewn taenlenni. Mae’r data'n cael eu cyflwyno'n glir ym mhob tabl, ac mae’r daenlen hefyd yn cynnwys dalen eglurhaol sy’n rhestru pob tabl. Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.
Mae'r data yn y datganiad hwn yn cael eu tynnu'n uniongyrchol o wybodaeth sydd ar gael i ysgolion, disgyblion ac athrawon ar ôl cwblhau'r asesiadau ar-lein. Nid yw hyn yn rhoi unrhyw faich ychwanegol ar ddisgyblion, athrawon, ysgolion nac awdurdodau lleol.
Dyma'r datganiad cyntaf o gyfres o ddatganiadau blynyddol ar ystadegau swyddogol sydd ar y gweill. Yn dilyn y datganiad hwn, byddwn yn ymgynghori â defnyddwyr allweddol ar gynnwys, amseriad a hygyrchedd y datganiad hwn. Byddwn yn defnyddio'r adborth hwnnw i wella datganiadau dilynol.
Ansawdd
Mae’r adran hon yn darparu crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum agwedd ar ansawdd, sef: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb. Mae hefyd yn cynnwys materion penodol sy'n ymwneud ag ansawdd data 2023, ac yn disgrifio'r dull rheoli ansawdd sy'n berthnasol i'r gwaith yn y maes hwn.
Perthnasedd
Pwrpas asesiadau personol yw cefnogi disgyblion i wneud cynnydd mewn darllen a rhifedd trwy roi adborth i ddisgyblion, ysgolion, rhieni a gofalwyr ar sgiliau a chynnydd. Ar lefel genedlaethol, gall data dienw o asesiadau personol hefyd ddarparu gwybodaeth am batrymau cyrhaeddiad a gwahaniaethau demograffig a allai helpu i gefnogi dealltwriaeth o dueddiadau addysgol yng Nghymru dros amser.
Cywirdeb
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r cyflenwr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r asesiadau personol ar-lein er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael eu dilysu cyn cyhoeddi tablau. Mae'r broses yn cynnwys sawl cam awtomatig lle caiff y data eu dilysu a'u gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr, er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel.
Mae rhagor o wybodaeth am natur a gweinyddiaeth yr asesiadau personol i'w gweld ar dudalennau asesiadau personol gwefan Llywodraeth Cymru.
Amseroldeb a phrydlondeb
Mae'r canlyniadau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Cafodd yr asesiadau a drafodir yn y datganiad hwn eu cynnal hyd at ddiwedd tymor haf 2023.
Hygyrchedd ac eglurder
Caiff gwybodaeth am y Datganiad Ystadegol hwn ei rhyddhau cyn i’r datganiad gael ei gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Mae fformat Open Document Spreadsheet yn cyd-fynd ag ef.
Cymaroldeb
Mae'r asesiadau personol wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion disgyblion ac athrawon yng Nghymru ac ni ellir eu cymharu â data asesu ar gyfer gwledydd eraill e.e. TASau yn Lloegr.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Maent yn anelu at greu Cymru sy'n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth ac iach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac sy'n cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni nodau Llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 101/2023