Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys ac yn ategu'r data a ddarparwyd mewn adroddiad byr ar batrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. Mae'n cyflwyno gwybodaeth am newidiadau mewn cyrhaeddiad darllen a rhifedd dros amser, gan gynnwys dadansoddiad yn ôl rhyw, a hefyd y bwlch rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Cynhaliwyd y dadansoddiad gan ddefnyddio data dienw ar lefel genedlaethol o'r asesiadau personol, hyd at ddiwedd blwyddyn ysgol 2022/23.

Asesiadau ar-lein sydd wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau darllen a rhifedd yw'r asesiadau personol ar gyfer Darllen a Rhifedd. Fe'u defnyddir mewn ysgolion fel un o ystod o ddulliau i gefnogi cynnydd disgyblion fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r asesiadau personol blynyddol yn orfodol i ddisgyblion Blynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir. Mae'r asesiadau'n cynnwys: Rhifedd sydd mewn dwy ran, sef Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu), Darllen (Cymraeg) a Darllen (Saesneg), (gweler y nodyn isod ar amserlen cyflwyno'r asesiadau personol, a cheir rhagor o wybodaeth am bob asesiad a'r gofynion mandadol ym mhrif adran yr adroddiad hwn). 

Mae'r asesiadau'n rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau darllen a rhifedd disgyblion unigol a dealltwriaeth o'r cryfderau a'r meysydd i'w gwella o ran y sgiliau hyn. Ar ôl cwblhau'r asesiadau, mae gan ysgolion fynediad at adborth ar sgiliau, cynnydd ac ystod o adroddiadau i helpu i gynllunio'r addysgu a'r dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn glir mai diben yr asesiadau hyn yw helpu dysgwyr i wneud cynnydd, ac ni luniwyd yr asesiadau i'w defnyddio at ddibenion atebolrwydd, ar unrhyw lefel.  Nid yw cyhoeddi'r adroddiad hwn yn golygu unrhyw newid i ysgolion; bydd asesiadau personol yn parhau i gael eu cynnal yn yr un ffordd a'u defnyddio ochr yn ochr â mathau eraill o ddulliau asesu a ddyluniwyd gan ysgolion yn unol â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Er mai diben asesiadau personol yw cefnogi cynnydd ar lefel unigol, gall data dienw o'r asesiadau personol hefyd ddarparu rhywfaint o wybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd ar lefel genedlaethol, gan ddangos newidiadau mewn cyrhaeddiad dros amser a gwahaniaethau rhwng grwpiau demograffig, a thrwy hynny helpu i ddatblygu polisi ar lefel genedlaethol. 

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio'r adroddiad hwn i helpu i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Dyma'r flwyddyn gyntaf y mae data lefel genedlaethol ar gael i'w cymharu ar hyd cyfres amser ar gyfer pob pwnc asesu. Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data dienw o asesiadau personol a gymerwyd rhwng 2018/19 (blwyddyn cyflwyno'r asesiad cyntaf) a 2022/23. Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad hwn, cyhoeddir datganiadau blynyddol a fydd yn y pen draw yn dangos tueddiadau ac yn darparu gwybodaeth bwysig am ddatblygiad disgyblion o'r sgiliau hyn dros amser, ar lefel genedlaethol.

Bydd y datganiadau yn rhan o ystod ehangach o wybodaeth ar lefel genedlaethol am gyflawniad dysgwyr. Byddant yn ategu, er enghraifft, yr wybodaeth sy'n deillio o'n rhaglen ehangach o asesiadau cenedlaethol yn seiliedig ar samplau a fydd yn cwmpasu ehangder y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr asesiadau sy'n seiliedig ar samplau yn ceisio asesu sampl benodol o ysgolion bob blwyddyn yn unig. Gwneir hynny er mwyn sicrhau'r pwysau lleiaf posibl ar y system wrth gyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol o sut mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi datblygiad dysgwyr. Disgrifir y rhaglen hon yn fanylach yn y ddogfen Cynllun Gwerthuso'r Cwricwlwm i Gymru.

Nodyn am amserlen yr asesiadau a'r data sydd ar gael

Cafodd asesiadau personol eu cyflwyno'n raddol dros gyfnod o bedair blynedd academaidd:

  • Rhifedd (Gweithdrefnol) o 2018/19
  • Darllen (Cymraeg) a Darllen (Saesneg) o 2019/20
  • Rhifedd (Rhesymu) o 2021/22

Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data o 2018/19 i 2022/23. Fodd bynnag, mae'r tarfu yn sgil COVID-19 wedi arwain at fwlch yn y data ar gyfer 2019/20, sef y flwyddyn yr oedd y pandemig wedi amharu fwyaf ar weinyddu'r asesiadau. Er bod rhai asesiadau personol wedi'u cynnal yn ystod y cyfnod hwn, nid yw 2019/20 wedi'i gynnwys yn y dadansoddiad hwn oherwydd nad oes digon o ddata ar gael.

Patrymau cyrhaeddiad dros amser, yn ôl pwnc yr asesiad a grŵp blwyddyn

Mae'r adran hon o'r adroddiad yn cymharu cyrhaeddiad disgyblion mewn grŵp blwyddyn penodol dros sawl blwyddyn academaidd. Er enghraifft, mae'n cymharu cyrhaeddiad disgyblion Blwyddyn 3 yn yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn 2018/19, 2020/21, 2021/22, a 2022/23. Felly, ar gyfer grŵp blwyddyn benodol, mae gwahanol garfannau o blant yn cael eu cynnwys yn y set ddata ar adegau gwahanol. 

At ddibenion yr adroddiad hwn rydym yn cyfleu cyrhaeddiad cyfartalog uwch neu is yn ôl misoedd, er mwyn inni wneud cymariaethau ar lefel genedlaethol. Rydym yn gwneud hynny fel ei bod yn haws deall y patrymau, ac oherwydd natur yr asesiadau - gan nad oes gan yr asesiadau ddull graddio ar raddfa gyffredin sy'n debyg i'r math o ddull a ddefnyddir ar gyfer arholiadau, er enghraifft.  Sylwch ein bod yn crynhoi'r holl ddata i'r mis agosaf ac mewn rhai achosion bydd hyn yn golygu efallai na fydd cyfanswm a ddangosir yn cyfateb i swm y ffigurau sy'n ffurfio'r cyfanswm hwnnw. Wrth ddehongli’r ffigurau yn yr adroddiad hwn, mae’n bwysig cofio bod gan ddysgwyr iau gyfradd uwch o gynnydd o flwyddyn i flwyddyn, mewn termau absoliwt, na dysgwyr hŷn (ceir rhagor o wybodaeth yn yr atodiad technegol). 

Yn natganiad Tachwedd 2023 cafodd blwyddyn gyntaf gweithredu pob asesiad ei defnyddio fel y flwyddyn gyfeirio ar gyfer cyfrifo cynnydd mis arferol ym mhob pwnc. Ar gyfer yr adroddiad hwn, rydym yn defnyddio 2022/23 fel blwyddyn gyfeirio gyson ar draws pob pwnc. Mae hyn yn creu pwynt cyfeirio cyffredin i archwilio gwahaniaethau demograffig yn ôl pwnc, sy'n ffactor pwysig o ystyried cyflwyno'r asesiadau gwahanol cyn / ar ôl y pandemig. O ganlyniad, bydd y siartiau isod yn ymddangos yn wahanol i'r rhai yn adroddiad mis Tachwedd oherwydd bod y cyfrifiadau yn defnyddio 2022/23 fel y flwyddyn gyfeirio o hyn allan. A hynny, ar gyfer cyfrifo cynnydd mis arferol ac fel meincnod o'r gwahaniaeth rhwng blynyddoedd. Er bod ychydig o amrywiad (o ddim mwy na mis) yn y prif bwyntiau a nodir o dan y siartiau, mae'r negeseuon allweddol ynghylch newidiadau mewn cyrhaeddiad yn aros yr un fath â datganiad Tachwedd 2023.

Mae'r effaith ar ddysgu yn ystod ac ar ôl y pandemig wedi bod yn destun sawl astudiaeth yn y DU ac yn rhyngwladol – gweler adran dystiolaeth y ddogfen y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn. Mae'r patrymau a welir yng Nghymru yn debyg i ganfyddiadau'r ymchwil mewn gwledydd eraill. 

Mae nodyn ar ddehongli'r ffigurau yn yr adran hon i'w gweld mewn dogfen y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn. Mae'r ffigurau'n dangos patrymau mewn cyrhaeddiad cyfartalog ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y daenlen ategol.

Yn yr adrannau canlynol, rhestrir yr asesiadau yn y drefn y cawsant eu cyflwyno mewn ysgolion yng Nghymru. Dylid nodi bod yr adroddiad hwn yn dangos patrymau dros gyfnod cymharol fyr ers cyflwyno'r asesiadau personol, ac y bydd angen data rhagor o flynyddoedd i lunio barn ar dueddiadau tymor hwy. Roedd nifer llai o ddysgwyr wedi gwneud asesiadau yn ystod 2020/21, yn sgil y tarfu parhaus ar addysg oherwydd y pandemig y flwyddyn honno. Felly, gallai honno fod yn ffactor i'w hystyried ymhellach unwaith y bydd data rhagor o flynyddoedd ar gael ar dueddiadau.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Mae'r asesiad Rhifedd yn cael ei gyflawni mewn dwy ran. Mae asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn canolbwyntio ar ffeithiau a gweithdrefnau rhifyddol – sef yr 'adnoddau' rhifyddol sydd eu hangen i gymhwyso rhifedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae'n cael ei gyflawni bob blwyddyn gan bob disgybl ym Mlynyddoedd 2 i 9. Cyflwynwyd yr asesiad hwn ym mlwyddyn academaidd 2018/19 a hwn yw'r unig asesiad y mae data ar gael ar ei gyfer cyn ac ar ôl y tarfu a achosir gan COVID-19.

Ffigur 1: Rhifedd (Gweithdrefnol): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19, 2020/21 a 2021/22 o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2018/19, 2020/21 a 2021/22. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23 (dynodir perfformiad 2022/23 gan y llinell sero ar y graff).  Sylwch nad yw 2019/20 wedi'i chynnwys oherwydd nad oes digon o ddata yn y flwyddyn yr effeithiwyd arni fwyaf gan bandemig COVID-19.

Prif bwyntiau
  • O ran Rhifedd (Gweithdrefnol), dangosodd disgyblion gyrhaeddiad is yn gyffredinol yn 2020/21 nag a wnaeth disgyblion yn 2018/19. Ar gyfartaledd, roedd hyn yn cyfateb i wahaniaeth o dri mis o ran cyrhaeddiad is yn 2020/21 o'i gymharu â disgyblion yn 2018/19. Efallai y gellir priodoli hyn i effaith pandemig COVID-19, a gafodd effeithiau tebyg yn rhyngwladol.
  • Nid oedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 o'i gymharu â 2018/19 yr un fath i bob grŵp blwyddyn; roedd y gwahaniaeth yn fwy i ddisgyblion iau. Yn 2020/21 roedd cyrhaeddiad disgyblion ym Mlynyddoedd 2 a 3 saith mis yn is o'i gymharu â disgyblion Blynyddoedd 2 a 3 yn 2018/19; roedd cyrhaeddiad disgyblion ym Mlynyddoedd 4 i 7 bedwar mis yn is o'i gymharu â disgyblion yn 2018/19. I'r gwrthwyneb, yn 2020/21 roedd cyrhaeddiad disgyblion ym Mlynyddoedd 8 a 9 dri mis yn uwch o'i gymharu â disgyblion ym Mlynyddoedd 8 a 9 yn 2018/19. Mae hyn yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio'n fwy negyddol ar ddisgyblion iau, tra bo'r disgyblion hŷn wedi gallu rheoli'r newid yn y sefyllfa ddysgu yn well.
  • Yn 2021/22, roedd y cyrhaeddiad cyfartalog yn parhau i fod yn debyg i'r hyn a welwyd yn 2020/21, ar draws pob grŵp blwyddyn. Mae hyn yn gyson â'r patrwm o fân newidiadau dros amser y gellir eu disgwyl heb ddylanwadau allanol sylweddol.
  • Yn 2022/23 roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 5 yn debyg iawn i'r hyn a welwyd yn 2021/22, neu'n uwch na hynny. Fodd bynnag, ar gyfer Blynyddoedd 6 i 9, roedd y cyrhaeddiad cyfartalog un mis yn is o'i gymharu â 2021/22. Roedd y patrwm yn gyson ar draws pob grŵp blwyddyn, gan symud yn raddol o gyrhaeddiad tebyg i ychydig yn uwch yn 2022/23 ar gyfer disgyblion iau i gyrhaeddiad is ar gyfer disgyblion hŷn, mewn modd systematig.

I grynhoi, ar gyfer y rhan fwyaf o'r grwpiau blwyddyn yn 2022/23 roedd cyrhaeddiad disgyblion mewn Rhifedd (Gweithdrefnol) yn is nag yr oedd yn 2018/19, sef gwahaniaeth cyfartalog o bedwar mis. Roedd cyrhaeddiad Blynyddoedd 2 i 3 tua saith mis yn is, ar gyfer Blynyddoedd 4 i 7 roedd y cyrhaeddiad tua phedwar mis yn is, ac ar gyfer Blwyddyn 8 roedd y cyrhaeddiad hanner mis yn is. I'r gwrthwyneb, roedd cyrhaeddiad disgyblion Blwyddyn 9 ddau fis yn uwch o'i gymharu â disgyblion Blwyddyn 9 yn 2018/19.

Darllen (Cymraeg)

Mae'r asesiadau personol ar gyfer Darllen (Cymraeg) yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae disgyblion yn deall testun yn Gymraeg ac a ydynt yn gallu llunio barn am yr hyn y maent yn ei ddarllen. Mae asesiad Darllen (Cymraeg) yn cael ei gwblhau yn flynyddol gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynwyd yr asesiad ym mlwyddyn academaidd 2019/20. Ond nid oedd digon o ddata ar gael ar gyfer y flwyddyn honno oherwydd y tarfu a achoswyd gan bandemig y coronafeirws. Felly nid yw 2019/20 wedi'i gynnwys yn y dadansoddiad hwn.

Ffigur 2: Darllen (Cymraeg): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 a 2021/22 o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Darllen (Cymraeg) y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2020/21 a 2021/22. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23 (dynodir perfformiad 2022/23 gan y llinell sero ar y graff). Nid oes digon o ddata ar gyfer 2019/20, y cyfnod yr effeithiwyd arno fwyaf gan y tarfu yn sgil pandemig COVID-19; felly, dim ond data ar gyfer y tair blynedd ddilynol sy'n cael eu defnyddio.

Prif bwyntiau
  • Yn 2021/22, roedd cyrhaeddiad disgyblion yn is ar gyfartaledd ar gyfer Darllen (Cymraeg) o'i gymharu â disgyblion yn 2020/21. Roedd y gwahaniaeth yn cyfateb i bum mis ar gyfartaledd ar draws pob grŵp blwyddyn. 
  • Roedd gostyngiad pellach mewn cyrhaeddiad rhwng 2021/22 a 2022/23, sy'n cyfateb i gyrhaeddiad saith mis yn is ar gyfartaledd. Felly mae'n ymddangos bod hyn yn adlewyrchu tuedd gyson ar i lawr dros y cyfnod y mae data ar gael ar ei gyfer.
  • Mae'r ddau batrwm hyn yn gyson o ran y cyfeiriad ar draws grwpiau blwyddyn. Felly, gallwn fod yn weddol hyderus na ellir eu priodoli i'r mân newid a ddisgwylir dros amser yn unig. 
  • Mae maint y gostyngiad mewn cyrhaeddiad o 2020/21 i 2022/23 yn cynyddu wrth i oedran y disgybl gynyddu, hynny yw mae'r gwahaniaeth yn fwy i Flwyddyn 6 nag yw i Flwyddyn 2, ac mae'n fwy i Flwyddyn 9 nag yw i Flwyddyn 6.

I grynhoi, yn 2022/23 roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion ar gyfer Darllen (Cymraeg) yn is nag yr oedd yn 2020/21, sy'n cyfateb i gyrhaeddiad 12 mis yn is.

Darllen (Saesneg)

Mae'r asesiadau personol ar gyfer Darllen (Saesneg) yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae disgyblion yn deall testun yn Saesneg ac a ydynt yn gallu llunio barn am yr hyn y maent yn ei ddarllen. Mae asesiad Darllen (Saesneg) yn cael ei gwblhau yn flynyddol gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 sy'n dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. I ddisgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r asesiad personol Darllen (Saesneg) yn ddewisol ym Mlynyddoedd 2 a 3 ac yn orfodol ym Mlynyddoedd 4 i 9. Cafodd yr asesiad ar-lein Darllen (Saesneg) ei gyflwyno ym mlwyddyn academaidd 2019/20, ond nid oedd digon o ddata ar gael ar gyfer y flwyddyn honno oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19.

Ffigur 3: Darllen (Saesneg): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 a 2021/22 o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Darllen (Saesneg) y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2020/21 a 2021/22.  Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23 (dynodir perfformiad 2022/23 gan y llinell sero ar y graff).  Sylwch, er bod yr asesiadau Darllen wedi'u cyflwyno yn 2019/20, nid oes digon o ddata ar gyfer y flwyddyn gyntaf honno, sef y cyfnod yr effeithiwyd arno fwyaf gan y tarfu oherwydd COVID-19; felly, dim ond data ar gyfer y tair blynedd ddilynol sy'n cael eu defnyddio.

Prif bwyntiau
  • Yn 2021/22, roedd cyrhaeddiad Darllen (Saesneg) yn debyg i 2020/21. 
  • Yna rhwng 2021/22 a 2022/23 bu newid; dangosodd disgyblion yn 2022/23 gyrhaeddiad dri mis yn is ar gyfartaledd ar draws pob grŵp blwyddyn o'u cymharu â disgyblion yn 2021/22. 
  • Roedd y newid hwn yn 2022/23 yn gyson o ran y cyfeiriad ar draws grwpiau blwyddyn. Felly gallwn fod yn weddol hyderus na ellir eu priodoli i'r mân newidiadau a ddisgwylir dros amser yn unig.

I grynhoi, yn 2022/23 roedd cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion mewn Darllen (Saesneg) yn is nag yr oedd yn 2020/21. Ac roedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn cyfateb i bedwar mis yn is.

Rhifedd (Rhesymu)

Mae'r asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) yn canolbwyntio ar ba mor dda y gall disgyblion ddefnyddio a chymhwyso'r hyn y maent yn ei wybod i ddatrys problemau rhifyddol. Mae'n cael ei gyflawni gan ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9. Hwn oedd yr asesiad olaf i'w roi ar waith fel rhan o'r dull fesul cam o gyflwyno'r asesiadau, ac mae'r data ar gael ar gyfer dwy flynedd yn unig: 2021/22 a 2022/23.

Ffigur 4: Rhifedd (Rhesymu): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22 o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Rhifedd (Rhesymu) y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2021/22 (mae perfformiad 2022/23 yn cael ei ddynodi gan y llinell sero ar y graff).  Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23.

Prif bwyntiau
  • Yn 2022/23 dangosodd disgyblion gyrhaeddiad uwch mewn Rhifedd (Rhesymu), ar gyfartaledd ac ar draws pob grŵp blwyddyn, o'u cymharu â disgyblion yn yr un grwpiau blwyddyn yn 2021/22, sy'n cyfateb i saith mis o wahaniaeth mewn cyrhaeddiad.
  • Mae'r patrwm hwn yn gyson o ran y cyfeiriad ar draws grwpiau blwyddyn. Felly gallwn fod yn weddol hyderus na ellir ei briodoli i'r mân newidiadau a ddisgwylir dros amser yn unig.
  • Gellir priodoli hyn i'r ffaith bod y disgyblion yn dod yn fwy cyfarwydd â'r mathau newydd o gwestiynau yn yr asesiadau Rhifedd (Rhesymu), gan mai 2022/23 yw'r ail flwyddyn iddynt gael eu defnyddio. Mae tystiolaeth o dreialu'r asesiadau hyn yn gynnar yn awgrymu y gallai hynny fod yn digwydd. 
  • O ystyried y posibilrwydd hwn a'r maint cyfyngedig o ddata sydd ar gael ar gyfer Rhifedd (Rhesymu), byddem yn cymell gofal rhag dehongli'r ffigur hwn fel adlewyrchiad o duedd ehangach a fydd yn dod i'r amlwg dros gyfnod hirach.

Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl rhyw

Mae'r rhan hon o'r adroddiad yn dadansoddi'r cyrhaeddiad a ddangosir yn yr adran uchod yn ôl rhyw. Mae'n cymharu'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad, sy'n cael ei ddynodi mewn 'misoedd', a gyflawnir gan wrywod a benywod ym mhob blwyddyn academaidd, ar gyfer grwpiau blwyddyn penodol. Gallwch weld enghraifft o'r modd y mae cyrhaeddiad yn cael ei ddadansoddi yma mewn dogfen y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn. 

Mae'r ffigurau isod yn dangos patrymau ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9 mewn perthynas â phob un o'r pynciau; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y set ddata ategol. Mae pob siart yn dangos y blynyddoedd yr oedd pob asesiad ar waith, ac eithrio blwyddyn 2019/20 am nad oedd digon o ddata ar ei chyfer oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ffigur 5: Rhifedd (Gweithdrefnol) Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2022/23 rhwng benywod a gwrywod, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad rhwng benywod a gwrywod mewn Rhifedd (Gweithdrefnol), ar gyfer y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad benywod llai cyrhaeddiad gwrywod (a dynodir y gwahaniaeth mewn misoedd).  Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod y benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod, a'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod y gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod.

Prif bwyntiau
  • Yn yr asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol), mae gwrywod yn perfformio'n well na benywod, ac mae'n ymddangos bod y bwlch yn ehangu'n gyson dros amser ar draws pob grŵp blwyddyn, o bedwar mis ar gyfartaledd yn 2018/19 i wyth mis yn 2022/23. Mae'r bwlch ar ei ehangaf rhwng 2018/19 a 2020/21, er bod y rheswm am hwnnw yn debygol o fod o ganlyniad i bandemig COVID-19, gan fod cyfnod o ddwy flynedd rhwng y pwyntiau mesur yma.  Mae cynnydd sylweddol hefyd yn y gwahaniaeth cyfartalog rhwng gwrywod a benywod ym Mlwyddyn 9 yn 2022/23 o'i gymharu â 2021/22, o 8 mis i 11 mis.
  • Gwelir bod patrwm cyffredinol o ran maint y bwlch rhwng gwrywod a benywod yn cynyddu wrth i oedran disgyblion gynyddu, a'r gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod yn raddol fwy o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 9.

Darllen (Cymraeg)

Ffigur 6: Darllen (Cymraeg): Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 i 2022/23 rhwng benywod a gwrywod, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad rhwng benywod a gwrywod mewn Darllen (Cymraeg), ar gyfer y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad benywod llai cyrhaeddiad gwrywod (a dynodir y gwahaniaeth mewn misoedd). Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod y benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod, a'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod y gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod.

Prif bwyntiau
  • Mae'r benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod yn yr asesiad hwn, ar gyfer pob grŵp blwyddyn, ac ym mhob blwyddyn academaidd y mae data ar gael ar eu cyfer.
  • Mae'r graddau y mae benywod yn perfformio'n well na gwrywod yn cynyddu'n raddol wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, ac mae'r graddau y mae'r benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod yn cynyddu'n raddol o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 9.
  • Er bod bwlch tebyg ar gyfer Blynyddoedd 3 a 6 dros amser, mae Blwyddyn 9 yn dangos bwlch sylweddol eang yn y gwahaniaeth rhwng benywod a gwrywod dros amser, o 17 mis yn 2020/21 i 28 mis yn 2022/23.

Darllen (Saesneg)

Ffigur 7: Darllen (Saesneg): Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 i 2022/23 rhwng benywod a gwrywod, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng benywod a gwrywod mewn Darllen (Saesneg), ar gyfer y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad benywod llai cyrhaeddiad gwrywod (a dynodir y gwahaniaeth mewn misoedd). Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod y benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod, a'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod y gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod.

Prif bwyntiau
  • Mae'r benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod yn yr asesiad hwn, ar gyfer pob grŵp blwyddyn, ac ym mhob blwyddyn academaidd y mae data ar gael ar eu cyfer.
  • Mae'n ymddangos bod y bwlch rhwng benywod a gwrywod yn tyfu'n fwy wrth i blant fynd yn hŷn, ac mae'r benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod yn raddol o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 9. 
  • Ar gyfer Darllen (Saesneg) mae'r bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng benywod a gwrywod wedi aros yn weddol gyson o ran maint ar gyfer pob grŵp blwyddyn dros amser.

Rhifedd (Rhesymu)

Ffigur 8: Rhifedd (Rhesymu): Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22 i 2022/23 rhwng benywod a gwrywod, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng benywod a gwrywod mewn Rhifedd (Rhesymu), ar gyfer y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad benywod llai cyrhaeddiad gwrywod (a dynodir y gwahaniaeth mewn misoedd). Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod y benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod, a'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod y gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod.

Prif bwyntiau
  • Mae'r gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod yn yr asesiad hwn, ar gyfer pob grŵp blwyddyn, ac ym mhob blwyddyn academaidd y mae data ar gael ar eu cyfer.
  • Mae'n ymddangos bod gwrywod yn perfformio'n well na benywod wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, ac mae'r bwlch rhwng y ddau ryw yn cynyddu'n raddol o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 9.
  • Ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) mae'r bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng benywod a gwrywod yn aros yn weddol gyson o ran maint ar gyfer pob grŵp blwyddyn, ers cyflwyno'r asesiad hwn. Ond, gan mai dim ond dwy flynedd o ddata sydd ar gael, mae'n anodd dirnad tueddiadau.
I grynhoi
  • O ran Darllen (Cymraeg a Saesneg) mae'r gwahaniaeth o blaid benywod, ac o ran Rhifedd mae'r gwahaniaeth o blaid gwrywod, ac felly y mae'r duedd mewn asesiadau o'r fath mewn llawer o wledydd. Mae'r gwahaniaeth ychydig yn fwy mewn Darllen na Rhifedd, ar gyfartaledd, sy'n cyfateb i wahaniaeth o 11 mis a gwahaniaeth o 6 mis yn y drefn honno, ar draws pob grŵp blwyddyn a blwyddyn academaidd y mae data ar gael ar eu cyfer.
  • Ar draws pob pwnc, gwelir gwahaniaeth mwy ar gyfer dysgwyr hŷn o'u cymharu â rhai iau: sef gwahaniaeth o un mis, dau fis a phum mis ar gyfartaledd ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9 yn y drefn honno. Dros y blynyddoedd academaidd y mae gennym ddata ar eu cyfer, mae'r tueddiadau yn amrywio rhywfaint rhwng pob pwnc.

Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim

Mae'r rhan hon o'r datganiad yn dadansoddi'r cyrhaeddiad a ddangosir yn y rhan gyntaf yn ôl bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (FSM), ac yn adrodd mewn unedau o 'fisoedd' y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys a disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Gwneir hyn ym mhob blwyddyn academaidd, ar gyfer grwpiau blwyddyn penodol.  Gallwch weld enghraifft o'r modd y mae cyrhaeddiad yn cael ei ddadansoddi mewn dogfen y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn. 

Gall disgyblion fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth, neu drwy’r cynllun gwarchodaeth drosiannol, neu’r polisi prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Ar gyfer y datganiad hwn dim ond disgyblion sy’n gymwys os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth y byddwn yn eu cynnwys.

Mae'r ffigurau isod yn dangos patrymau yn y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9 ym mhob pwnc; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y set ddata ategol. Mae pob siart yn dangos y blynyddoedd yr oedd pob asesiad ar waith, ac eithrio blwyddyn 2019/20 am nad oedd digon o ddata ar ei chyfer oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ffigur 9: Rhifedd (Gweithdrefnol): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2022/23 rhwng disgyblion sy'n gymwys (eFSM) ac nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng disgyblion eFSM a disgyblion nFSM mewn Rhifedd (Gweithdrefnol), ar gyfer y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad disgyblion nFSM llai cyrhaeddiad disgyblion eFSM, mewn misoedd. Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod disgyblion nFSM yn perfformio'n well na disgyblion eFSM, ac mae'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod disgyblion eFSM yn perfformio'n well na disgyblion nFSM.

Prif bwyntiau
  • Ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol), ar gyfer pob grŵp blwyddyn ac ym mhob blwyddyn academaidd y mae data ar gael ar eu cyfer, mae'r disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn perfformio'n well na'r disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Mae'n ymddangos bod y bwlch hwn yn cynyddu o ran maint wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, ac mae'r disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn perfformio'n well na'r rhai sy'n gymwys o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 9.
  • Ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol) mae'r gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys yn gymharol sefydlog. Mae'n ymddangos bod y cynnydd bach a welwyd dros y blynyddoedd academaidd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan bandemig COVID-19 yn dechrau culhau o 2021/22 i 2022/23. Serch hynny, mae'r bwlch ychydig yn fwy nag ydoedd cyn COVID-19, sef cyrhaeddiad o 19 mis ar gyfartaledd ar draws pob grŵp blwyddyn yn 2022/23 o'i gymharu â 18 mis yn 2018/19.

Darllen (Cymraeg)

Ffigur 10: Darllen (Cymraeg): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 i 2022/23 rhwng disgyblion sy'n gymwys (eFSM) a disgyblion nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng disgyblion eFSM a disgyblion nFSM mewn Darllen (Cymraeg), ar gyfer y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad disgyblion nFSM llai cyrhaeddiad disgyblion eFSM, mewn misoedd.  Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod disgyblion nFSM yn perfformio'n well na disgyblion eFSM, ac mae'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod disgyblion eFSM yn perfformio'n well na disgyblion nFSM.

Prif bwyntiau
  • Ar gyfer pob grŵp blwyddyn ac ym mhob blwyddyn academaidd y mae data ar gael ar gyfer Darllen (Cymraeg), mae disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn perfformio'n well na disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Mae'n ymddangos bod y bwlch hwn yn cynyddu o ran maint wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn, ac mae'r disgyblion nad ydynt yn gymwys yn perfformio'n well na'r rhai sy'n gymwys yn raddol fwy o Flwyddyn 2 hyd at Flwyddyn 9.
  • Ar gyfer Darllen (Cymraeg), mae'r gwahaniaeth yn fwy dros amser, a gwelwyd gwahaniaeth o 31 mis ar gyfartaledd yn 2022/23 o'i gymharu â 27 mis yn 2020/21. Mae'n ymddangos bod blwyddyn 2021/22 yn allanolyn o ran yr anghysondeb o beidio â dilyn y duedd gynyddol dros amser. Yn hytrach, mae'r flwyddyn honno’n dangos tueddiadau gwahanol ar gyfer Blynyddoedd 3 a 6 o’u cymharu â Blwyddyn 9.

Darllen (Saesneg)

Ffigur 11: Darllen (Saesneg): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 i 2022/23 rhwng disgyblion cymwys (eFSM) a disgyblion nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng disgyblion eFSM a disgyblion nFSM mewn Darllen (Saesneg), ar gyfer y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad disgyblion nFSM llai cyrhaeddiad disgyblion eFSM mewn misoedd.  Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod disgyblion nFSM yn perfformio'n well na disgyblion eFSM, ac mae'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod disgyblion eFSM yn perfformio'n well na disgyblion nFSM.

Prif bwyntiau
  • Ar gyfer pob grŵp blwyddyn ac ym mhob blwyddyn academaidd y mae data ar gael ar gyfer Darllen (Saesneg), mae disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (nFSM) yn perfformio'n well na'r disgyblion sy'n gymwys (eFSM).
  • Mae'r gwahaniaeth wedi aros yn sefydlog ers 2020/21. Y cyfartaledd cyffredinol ar gyfer bob blwyddyn oedd tua 21 mis o wahaniaeth.

Rhifedd (Rhesymu)

Ffigur 12: Rhifedd (Rhesymu): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22 i 2022/23 rhwng disgyblion sy'n gymwys (eFSM) ac nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad rhwng disgyblion eFSM a disgyblion nFSM mewn Rhifedd (Rhesymu), ar gyfer y garfan o ddisgyblion a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad disgyblion nFSM llai cyrhaeddiad disgyblion eFSM, mewn misoedd.   Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod disgyblion nFSM yn perfformio'n well na disgyblion eFSM, ac mae bariau i'r chwith o sero yn dangos bod disgyblion eFSM yn perfformio'n well na disgyblion nFSM.

Prif bwyntiau
  • Ar gyfer pob grŵp blwyddyn ac ym mhob blwyddyn academaidd y mae data ar gael ar gyfer Rhifedd (Rhesymu), mae disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (nFSM) yn perfformio'n well na'r disgyblion sy'n gymwys (eFSM).
  • Yn ystod y ddwy flynedd y mae gennym ddata ar gyfer Rhifedd (Rhesymu), mae Blwyddyn 3 yn weddol sefydlog, ond mae gwahaniaethau mwy ar gyfer y ddau grŵp blwyddyn arall a ddangosir.  Ar gyfartaledd ar draws pob grŵp blwyddyn mae'r bwlch yn llai yn gyffredinol yn 2022/23 nag yn 2021/22 -  y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yw 22 mis a 25 mis ym mhob blwyddyn yn y drefn honno.
I grynhoi
  • Ar gyfer pob pwnc, mae'r bwlch cyrhaeddiad o blaid dysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (nFSM).  Mae hwn yn duedd hirsefydlog ledled y Deyrnas Unedig (DU). 
  • Mae maint y bwlch rhwng disgyblion nFSM a disgyblion eFSM yn fwy cyson ar draws pynciau na'r gwahaniaeth rhwng gwrywod a benywod, ond mae'n amrywio ychydig. Dangosir cyfartaleddau o 21 mis, 29 mis, 24 mis ac 19 mis ar gyfer y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad ar gyfer Darllen (Saesneg), Darllen (Cymraeg), Rhifedd (Rhesymu), a Rhifedd (Gweithdrefnol) yn y drefn honno, h.y. ar draws pob grŵp blwyddyn a blwyddyn academaidd.
  • Ar draws pob pwnc, yn nodweddiadol gwelir bod gwahaniaeth mwy rhwng disgyblion nFSM ac eFSM sy'n hŷn o'u cymharu â disgyblion iau. Y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad a ddynodir mewn misoedd yw:  14 mis, 25 mis a 30 mis ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9 yn y drefn honno. (Yr eithriad i hynny yw Rhifedd (Rhesymu), lle gwelir bwlch o 28 mis ar gyfer Blwyddyn 9, sydd ychydig yn llai na'r bwlch o 30 mis ar gyfer Blwyddyn 6.) Er hynny, oherwydd bod llai o newid absoliwt mewn cyrhaeddiad wrth i ddysgwyr fynd yn hŷn, mae hyn yn debygol o adlewyrchu'r gwahaniaeth tebyg ar lefel absoliwt rhwng disgyblion nFSM ac eFSM ar draws grwpiau blwyddyn – gweler yr adran dechnegol i gael eglurhad. 
  • Dros y blynyddoedd academaidd y mae gennym ddata ar eu cyfer, mae'r tueddiadau yn amrywio rhywfaint rhwng pob pwnc.

Rhagor o wybodaeth

Dyma'r ail ddatganiad ar ddarllen a rhifedd sy'n seiliedig ar ddata ar lefel genedlaethol o asesiadau personol. Y bwriad yw y bydd datganiadau yn cael eu gwneud yn flynyddol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Datganiad am gymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol

Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cyn belled ag y bo modd yn ystod y gwaith o'u llunio.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u datblygu'n gyflym ac wedi’u cyhoeddi cyn gynted â
phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a
rhifedd ein disgyblion iau, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws
(COVID-19). Nid yw wedi bod yn bosibl bodloni'r gofynion canlynol ar gyfer ystadegau swyddogol eto:

  • Cafodd y cyhoeddiad ynghylch rhyddhau’r ystadegau hyn ei wneud tair mis ymlaen llaw.
  • Ni fu cyfle i ymgysylltu â defnyddwyr nag ydynt yn gweithio yn y sector addysg i ddeall yr hyn sydd ei angen arnynt o'r ystadegau hyn.

Ers cyhoeddi’r ystadegau hyn ym mis Tachwedd 2023 rydym wedi:

  • Ymgysylltu â defnyddwyr allweddol yn y sector addysg i ddeall yr hyn sydd ei angen arnynt o'u hystadegau ac i sicrhau bod y cyflwyniad a'r sylwebaeth yn gwneud yr ystadegau'n ddefnyddiol ac yn hygyrch.

Rydym felly wedi cymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Office for Statistics Regulation) yn wirfoddol fel a ganlyn.

Hygrededd

Mae'r data wedi cael eu tynnu o systemau gweithredol a'u rhoi mewn tablau gan gontractwyr allanol sydd â phrofiad helaeth o ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth o'r fath, ac maent yn cynnwys ystadegwyr proffesiynol. Cafodd y datganiad ei gynhyrchu ar sail cyngor gan ystadegwyr sy'n gweithio dan
oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.

Er nad yw cyhoeddi'r tablau hyn wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw yn yr un modd ag
ystadegau swyddogol, maent wedi cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu
defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser
ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Dyma'r flwyddyn gyntaf y mae data lefel genedlaethol ar gael i'w cymharu ar hyd cyfres amser ar gyfer pob pwnc asesu. 

Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Rydym wedi sefydlu proses lywodraethu drylwyr gyda'r contractwr i sicrhau bod y data'n cael eu rheoli a'u hadolygu'n ddiogel cyn eu rhyddhau.

Ansawdd

Mae'r data yn y datganiad hwn yn deillio o'r asesiadau personol addasol ar lein a gyflawnir yn flynyddol gan bob disgybl ym Mlynyddoedd 2 i 9. Mae hyn wedi'i baru â data demograffig am ddisgyblion o'n cyfrifiad ysgolion blynyddol. Mae'r ddwy ffynhonnell yn deillio o ysgolion, ac yn cael eu dilysu'n helaeth yn yr ysgolion unigol a phan fyddwn yn derbyn y data. Ystyrir bod y ffynonellau data hyn o ansawdd digonol i gefnogi'r dadansoddiad hwn. Cefnogir pob cam wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn gan ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio i'r contractwr a'r ystadegwyr o Grŵp Ystadegol y Llywodraeth.

Mae ein hoffer a'n prosesau casglu data wedi'u teilwra a'u mireinio i ddiwallu
gofynion yr asesiadau hyn. Defnyddiwyd technegau a phecynnau ystadegol
sefydledig a phrofedig i sicrhau bod y dadansoddiad yn un cadarn.

Sicrhawyd ansawdd yr holl ddata cyn eu cyhoeddi.  Mae'r dadansoddiad wedi'i wirio gan ddadansoddwyr annibynnol, ac mae'r holl allbynnau wedi mynd trwy sawl cam adolygu.

Gwerth

Erbyn haf 2023 aseswyd disgyblion yng Nghymru am yr ail flwyddyn mewn rhifedd (rhesymu), gan nodi'r pwynt lle roedd o leiaf dwy flynedd o ddata ar gyfer pob un o'r pedwar maes sy'n cael eu hasesu. Roedd hyn yn darparu digon o ddata i allu cyflwyno darlun cenedlaethol cadarn. Rydym wedi cyhoeddi'r datganiad hwn cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19), yn enwedig ymhlith ein disgyblion ieuengaf.

Mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi mewn fformat "Open Document Spreadsheet" hygyrch y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae’r data'n cael eu cyflwyno'n glir ym mhob tabl, ac mae’r daenlen hefyd yn cynnwys dalen eglurhaol sy’n rhestru pob tabl. Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Mae'r data yn y datganiad hwn yn cael eu tynnu'n uniongyrchol o wybodaeth sydd ar gael i ysgolion, disgyblion ac athrawon ar ôl cwblhau'r asesiadau ar-lein. Nid yw hyn yn rhoi unrhyw faich ychwanegol ar ddisgyblion, athrawon, ysgolion nac awdurdodau lleol.

Dyma'r ail ddatganiad o gyfres o ddatganiadau blynyddol ar ystadegau swyddogol sydd ar y gweill. Yn dilyn y datganiad hwn, byddwn yn ymgynghori â defnyddwyr allweddol ar gynnwys, amseriad a hygyrchedd y datganiad hwn. Byddwn yn defnyddio'r adborth hwnnw i wella datganiadau dilynol.

Ansawdd

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum agwedd ar ansawdd, sef: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb.

Perthnasedd

Pwrpas asesiadau personol yw cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd mewn darllen a rhifedd trwy roi adborth i ddisgyblion, ysgolion, rhieni a gofalwyr ar sgiliau a chynnydd. Ar lefel genedlaethol, gall data dienw o asesiadau personol hefyd ddarparu gwybodaeth am batrymau cyrhaeddiad a gwahaniaethau demograffig a allai helpu i gefnogi dealltwriaeth o dueddiadau addysgol yng Nghymru dros amser.

Cywirdeb

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r cyflenwr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r asesiadau personol ar-lein er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael eu dilysu cyn cyhoeddi tablau. Mae'r broses yn cynnwys sawl cam awtomatig lle caiff y data eu dilysu a'u gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr, er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel. 

Mae rhagor o wybodaeth am natur a gweinyddiaeth yr asesiadau personol i'w gweld ar dudalennau asesiadau personol Cymru gwefan Llywodraeth Cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r canlyniadau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Cafodd yr asesiadau a drafodir yn y datganiad hwn eu cynnal hyd at ddiwedd tymor haf 2023.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff gwybodaeth am y Datganiad Ystadegol hwn ei rhyddhau cyn i’r datganiad gael ei gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Mae Taenlen Open Document yn cyd-fynd ag ef.

Cymaroldeb

Mae'r asesiadau personol wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion disgyblion ac athrawon yng Nghymru ac ni ellir eu cymharu â data asesu ar gyfer gwledydd eraill e.e. Tasgau Asesu Safonol (TASau) yn Lloegr.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni nodau Llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron
y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
 
Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 47/2024