Pasiwyd Bil a fydd yn cyflwyno'r dreth Gymreig newydd gyntaf mewn bron 800 mlynedd - y dreth trafodiadau tir - gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, mae pasio’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yn gam arwyddocaol ar gyfer datganoli yng Nghymru.
Bydd y dreth trafodiadau tir, a fydd yn disodli treth dir y dreth stamp, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018. Bydd y cyllid sy’n cael ei godi’n helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Bydd y dreth yn daladwy wrth brynu neu brydlesu adeilad neu dir dros bris penodol, ac mae'n cynnwys cyfradd uwch ar gyfer eiddo preswyl ychwanegol - mae'r gyfradd uwch wedi bod yn daladwy yng Nghymru drwy dreth dir y dreth stamp ers mis Ebrill 2016.
Yn ystod 2015-16, codwyd £153m drwy dreth dir y dreth stamp yng Nghymru, gydag ychydig llai na 59,000 o drafodiadau. Disgwylir i hyn godi i £263m erbyn 2018-19.
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyhoeddi cyfraddau a bandiau'r dreth trafodiadau tir erbyn 1 Hydref, ac fe fydd y rheoliadau yn cael eu gosod ar ôl Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.
Gan groesawu gweld y Bil yn cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd yr Athro Drakeford:
"Dyma garreg filltir arwyddocaol ar gyfer datganoli - am y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd bydd gan Gymru ei threthi ei hun.
"Dyma dreth sy'n effeithio ar nifer fawr ohonom ni. Pan fydd yn gyfraith, bydd y Bil yn ein galluogi i gyflwyno treth trafodiadau tir yn lle treth dir y dreth stamp. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru'n parhau i elwa ar y cyllid sy'n cael ei godi gan y dreth bwysig hon.
"Fe wnaethon ni ymgynghori'n eang wrth ddatblygu'r dreth, a dysgu o brofiadau'r Alban. Mae'r dreth newydd yn rhoi cysondeb a sicrwydd i fusnesau ac yn helpu pobl sy'n prynu cartrefi i fynd drwy'r broses yn esmwyth. Ar ben hynny, rydyn ni wedi llwyddo i wneud nifer o welliannau i'r dreth er mwyn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau Cymru."
Mae'r dreth trafodiadau tir yn un o ddwy dreth i'w datganoli i Gymru ym mis Ebrill 2018 - bydd y dreth dirlenwi yn cael ei disodli gan y dreth gwarediadau tirlenwi. Mae'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn cael ei ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd.
Ychwanegodd yr Athro Drakeford:
"Bydd datganoli pwerau trethu ymhen blwyddyn yn newid natur datganoli yng Nghymru. Bydd yn gosod cyfrifoldeb newydd ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn rhoi cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus Cymru."
Disgwylir i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol (gan droi'r Bil yn Ddeddf) ym mis Mai 2017.