Neidio i'r prif gynnwy

Mae canlyniadau Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos i'r Diwydiant yng Nghymru gael Pasg gwych

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nododd 37% o fusnesau eu bod wedi gweld cynnydd mewn ymwelwyr, gyda 42% yn nodi yr un nifer o ymwelwyr â 2016. Roedd atyniadau a gweithgareddau yn perfformio'n arbennig o dda, gyda 57% yn croesawu mwy o ymwelwyr na'r Pasg y llynedd.


Roedd safleoedd carafanau a gwersylla hefyd yn gwneud yn dda, gyda 46% ohonynt yn gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr o gymharu â'r un cyfnod yn 2016.


Mae rhan fwyaf y sectorau wedi gwneud mwy o elw hyd yn hyn yn 2017, o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Yn gyffredinol, gwelodd 34% o fusnesau gynnydd mewn elw, gyda 41% yn nodi yr un elw â'r llynedd.   

Gyda Pasg llwyddiannus fel sylfaen da ar gyfer y flwyddyn, mae'r haf yn argoeli'n dda, gyda 67% o fusnesau yn disgwyl gweld mwy neu yr un faint o ymwelwyr â'r llynedd yn ystod y tymor prysur.  

Mae rhan fwyaf (85%) o'r ymatebwyr yn hyderus ynghylch sut y bydd eu busnes yn perfformio dros yr haf. Mae hyn wedi bod yn haws gan i nifer nodi cynnydd yn eu harchebion ymlaen llaw.  Dywedodd rhai o'r sector llety â gwasanaeth eu bod yn llawn, gydag archebion ymlaen llaw yn lle y tueddiad i archebu funud olaf fel yn y blynyddoedd diwethaf.  

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Dwi wrth fy modd bod y diwydiant yn teimlo'n hyderus ynghylch y tymor i ddod a bod y cyfuniad o dywydd braf a Phasg hwyr wedi rhoi hwb i'r ymdrechion i ddenu ymwelwyr i Gymru ac arweiniodd at gynnydd mewn ymwelwyr yn ystod Pasg eleni.   Mae cynnydd mewn archebion ymlaen llaw hefyd yn rhoi hyder i'r diwydiant dros y misoedd nesaf ac mae'n dangos bod pobl yn ymrwymo i'w gwyliau yng Nghymru yn gynt nag yn y blynyddoedd blaenorol.  Mae'r diwydiant  ymwelwyr yng Nghymru mewn sefyllfa gref. Yn 2016, roedd cynnydd yng nghyfanswm yr ymweliadau â Chymru - gan ystyried ymweliadau dydd gan dwristiaid, ymwelwyr rhyngwladol yn ogystal ag ymweliadau dros nos o weddill Prydain - sy'n fwy na'r blynyddoedd llwyddiannus diwethaf.    Byddwn yn parhau gyda'n gwaith o hyrwyddo yn ystod yr haf wrth inni ddathlu 'Blwyddyn Chwedlau' Cymru".