Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau ar gyfer symud merlod lled-fferal neu wyllt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rheolau symud

Rhaid i berchennog ceffyl ofalu bod ganddo ddogfen adnabod neu basbort ar gyfer pob ceffyl. Pan fydd yn gwneud cais am basbort, rhaid rhoi microsglodyn ar yr anifail.

Caiff ceffylau a merlod gwyllt neu led-wyllt aros mewn ardal benodol heb basbort na microsglodyn os:

  • ydynt yn rhan o boblogaeth benodol o ferlod gwyllt neu led-wyllt (er enghraifft, merlod y Carneddau)

Rhanddirymiad yw'n henw ar lacio'r rheolau fel hyn.

Pam mae rhanddirymiad yn bwysig yn yr achos hwn?

Mae merlod lled-fferal yn rhan o'n tirlun, ein diwylliant a'n treftadaeth. Maen nhw'n cynnig buddiannau cadwraethol trwy helpu i ofalu am ecoleg eu hamgylchedd. Mae'r cynefin yn cynnal gwytnwch y brid.

Ond ychydig iawn o werth sydd i'r merlod hyn (yn enwedig yr ebolion gwryw). Felly nid yw'n talu ffordd cael pasbort ar eu cyfer na rhoi microsglodyn.

Mae angen i berchenogion reoli'u gyrroedd, ac mae hynny'n cynnwys cael gwared ar stoc diangen. Mae'r rhanddirymiad hwn yn rhoi'r hawl i berchenogion:

  • gael gwared ar anifeiliaid dros ben heb y gost o gael microsglodion. Byddai'r gost yn fwy na gwerth yr anifail.
  • mynd â merlyn i ladd-dy, cyn belled ag y gall brofi pwy sy'n berchen arno

A ga i wneud cais am randdirymiad?

Os oes gennych geffyl/merlyn lled-fferal yn pori ar dir comin, gallwch ofyn am randdirymiad. Bydd angen ichi ddangos inni:

  • bod gennych gynllun rheoli manwl ar gyfer pob merlyn
  • prawf eich bod yn rhoi'r cynllun ar waith
  • eich bod yn gallu adnabod eich merlyn
  • bod modd olrhain symudiadau'r merlyn

Bydd angen inni allu dangos i'r Comisiwn Ewropeaidd eich bod yn cadw at y Rheoliadau. Yna gallwn gael caniatâd i roi rhanddirymiad.

Pa gyrff sydd wedi cael rhanddirymiad?

Mae'r cyrff canlynol wedi cael rhanddirymiad:

  • Cymdeithas Merlod y Carneddau – ar gyfer merlod y Carneddau yng Ngogledd Eryri. Teip o ferlyn mynydd Cymreig yw merlyn y Carneddau. Gan nad yw eu pedigri'n sicr, dydyn nhw ddim yn cael eu cofnodi yn llyfr y brid.  Mae'r merlod yn perthyn i aelodau Cymdeithas Merlod y Carneddau. Mae ganddynt hawliau pori ar diroedd comin Aber, Llanfairfechan a Llanllechid.
  • Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd Cymru (26 o Gymdeithasau Gwella Merlod), ar nifer o fynyddoedd a thiroedd comin yn y De a'r Canolbarth. Mae'r merlod hyn yn ferlod mynydd Cymreig o waed pur, yn ebolion i'r meirch gorau. Maen nhw'n gymwys i gael eu cofrestru'n llawn â Chymdeithas Merlod a Chobiau Cymru fel Merlod Mynydd Cymreig lled-fferal. Nodir y cymdeithasau unigol a'u hardaloedd isod.

Yr unig ferlod sy'n dod o dan y rhanddirymiad hwn yw'r rhai sy'n dod o dan ofal y cymdeithasau uchod. Rhaid i ferlod ar bob comin arall gadw at ofynion Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009.

O dan y rhanddirymiad, rhaid i bob merlyn:

  • fod yn eiddo i aelod o'r Gymdeithas sydd â hawl i bori'r comin hwnnw
  • fod wedi'i gofnodi ar restrau'r Gymdeithas
  • aros yn yr ardal dan sylw, heb basbort na microsglodyn
  • caiff anifail symud o'r ardal dan sylw
  • heb basbort na microsglodyn

Pan fydd anifail yn symud o'r comin, daw'r rhanddirymiad i ben. Byddai gofyn i'r perchennog wneud cais am basbort a rhoi microsglodyn ar yr anifail, yn unol â'r rheoliadau.

Bydd gofyn i'r perchennog fod wedi rhoi microsglodyn ar ferlyn sy'n cael ei gadw i fagu pan fydd yn gofyn am basbort ar ei gyfer.

Y broses ar gyfer gwerthu merlod

Mae'r Gymdeithas yn cynnal arwerthiant bob blwyddyn. Bydd gan bob merlyn ffurflen gais am basbort wedi'i llenwi a sticer unigryw ar ei grwmp. Rhaid i'r ffurflen gais gynnwys:

  • gwybodaeth am y merlyn
  • manylion y bridiwr/perchennog
  • silwet cyflawn
  • disgrifiad manwl o'r anifail
  • y rhif adnabod unigryw ar ei grwmp Mae hyn yn cysylltu'r merlyn, y sticer a'r ffurflen gais

Cyfrifoldeb y perchennog yw sicrhau:

  • bod y ffurflen gais yn gywir
  • bod ffi'r pasbort wedi'i gynnwys
  • bod y sticer ar y crwmp yn dangos dyddiad yr arwerthiant a'r rhif adnabod
  • bod y sticer ar y crwmp wedi'i osod yn gywir

Ni chaniateir gwerthu merlod sydd heb y papurau adnabod cywir neu sydd ddim yn cael eu hystyried yn ffit.

Os nad yw'r merlyn yn mynd i ladd-dy, bydd angen rhoi microsglodyn arno cyn iddo adael y safle. Y perchennog newydd fydd yn gyfrifol am roi'r microsglodyn. Rhaid i rif y microsglodyn fod yr un un â'r rhif ar y ffurflen gais. Bydd y perchennog newydd yn cael copi o'r ffurflen, fydd yn rhoi'r hawl iddo symud y merlyn i ben ei daith. Bydd y Corff Rhoi Pasbortau (PIO) yn prosesu'r ffurflen gais o fewn 30 niwrnod. Bydd yn anfon y pasbort at y perchennog newydd. Mae'n drosedd symud yr anifail o safle pen y daith gyntaf cyn i'r perchennog gael pasbort.

Caiff ebolion (o dan 12 mis oed) sy'n cael eu gwerthu i'w lladd deithio i'r lladd-dy gan ddefnyddio'r ffurflen gais am basbort a'r sticer ar y crwmp. Rhaid lladd yr ebol cyn pen saith niwrnod ar ôl dyddiad rhoi'r sticer ar ei grwmp.  Mae'n drosedd lladd ebol ar ôl y saith niwrnod hwnnw. Rhaid i'r lladd-dy anfon y sticer i'r PIO iddynt ei gofnodi.

Triniaeth gan filfeddyg

Rhaid adnabod unrhyw ferlyn lled-fferal sy'n cael ei drin â chynnyrch milfeddygol o fewn 30 niwrnod ar ôl y driniaeth.

Rhaid i unrhyw feddyginiaeth a roddir i ferlyn yn ardal y rhanddirymiad ystyried statws y merlyn fel anifail cynhyrchu cig.

Cymdeithasau Gwella a thiroedd comin sy'n dod o dan y rhanddirymiad

Mae Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd Cymru yn cynrychioli'r Cymdeithasau Gwella a'r tiroedd comin canlynol:

  • Cymdeithas Gwella Merlod Aberysgir: Comin Aberysgir
  • Cymdeithas Gwella Merlod y Mynydd Du: Comin y Mynydd Du
  • Cymdeithas Gwella Merlod Blaenafon: Blorens
  • Cymdeithas Gwella Merlod Bannau Brycheiniog: Comin Bannau Brycheiniog
  • Cymdeithas Gwella Merlod Cefn-bryn: Comin Cefn-bryn
  • Cymdeithas Gwella Merlod Cefn Edmwnt: Comin Buckland Manor
  • Cymdeithas Gwella Merlod Cenydd Gŵyr: Comin Cenydd Gŵyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Pontlotyn: Comin Gelli-gaer a Merthyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Twyn-y-Waun: Comin Gelli-gaer a Merthyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Mountain Hare: Comin Gelli-gaer a Merthyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Dowlais: Comin Gelli-gaer a Merthyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Epynt: Comin Epynt, Mynydd Epynt a'r Epynt
  • Cymdeithas Gwella Merlod Cefn Hergest: Cefn Hergest a Bryn Hanter
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llanafan a Llanwrthwl Mynydd Abergwesyn, Drygarn Fawr, Comin Penygenhill, Bryn Rhudd, Bryn Llwyn Madog, Bryn Llysdinam, Comin Llanwrthwl a Chomin Llanfihangel Brynpabuan
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llandyfalle: Bryn Llandyfalle
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llandeilo Graban a Rhiwlen: Bryn Llandeilo
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llangoed: Comin Llangoed
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llan-gors: Mynydd Llan-gors, Cefn Moel, Cathedine Coedcae a Phen-tir
  • Cymdeithas Gwella Merlod Cors Llanrhidian: Cors Llanrhidian (Whitford Burrows i Grofty)
  • Cymdeithas Gwella Merlod Mountain Hare: Comin Mountain Hare
  • Cymdeithas Gwella Merlod Trefil Ddu a Glas: Comin Trefil Ddu
  • Cymdeithas Gwella Merlod Penderyn: Comin Manor Mawr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Pontlotyn: Comin Pontlotyn
  • Cymdeithas Gwella Merlod Trefil: Trefil Las
  • Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd Troed: Comin Mynydd Troed