Heddiw, ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, mae Llywodraeth Cymru yn galw ar ddynion i sefyll o blaid rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn, sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod, hefyd yn lansio 16 Diwrnod o Weithredu, ymgyrch fyd-eang i roi terfyn ar drais ar sail rhywedd.
Yng Nghymru, rhwng 2018 a 2023, cynyddodd nifer yr achosion o drais a gofnodwyd yn erbyn menywod a merched 37%. Mae o leiaf un o bob 12 menyw yn profi trais gan ddynion bob blwyddyn, er bod y gwir niferoedd yn debygol o fod yn llawer uwch.
Mae ymgyrch 'Iawn' Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â dynion ifanc a bechgyn ledled Cymru ynghylch parch ac atebolrwydd. Mae'r ymgyrch yn mynd i'r afael â materion fel gasleitio a rheolaeth drwy orfodaeth, ac yn defnyddio rôl-fodelau cadarnhaol i hyrwyddo cydberthnasau iach, llawn parch. Drwy gyrraedd dros 95% o ddynion ifanc yng Nghymru - mwy na 380,000 o bobl - gallwn herio diwylliannau niweidiol a chreu cymdeithas lle gall menywod deimlo'n ddiogel.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
"Mae gan bob menyw yr hawl i fyw heb ofn, trais a chamfanteisio. Nid yw trais yn erbyn menywod a merched yn anochel - mae modd ei atal.
"Mae ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cynnwys ymrwymiad i roi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal, gan annog newid ymddygiad ymhlith y rhai sydd mewn perygl o fynd ymlaen i ymddwyn yn ymosodol.
"Mae ymgyrch 'Iawn' yn annog dynion 18-34 oed yng Nghymru i ddysgu am drais ar sail rhywedd ac i feddwl am eu hymddygiad eu hunain. Nid lle menywod yw newid eu hymddygiad; mater i ddynion a bechgyn yw ystyried y materion hyn eu hunain a gwneud newidiadau."
Eleni, mae Iawn wedi partneru gyda'r Rhuban Gwyn i lansio canllaw Ffrind Iawn, sy'n cynnig camau ymarferol i ddynion ifanc i gefnogi menywod a herio ymddygiadau niweidiol. Mae'r canllaw yn pwysleisio pŵer pethau bach bob dydd, fel herio iaith amhriodol a gwrando ar brofiadau menywod.
Dechreuodd Cal Roberts, 35 oed, o Fagillt yn Sir y Fflint, sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewn perthynas iach pan ddechreuodd ymwneud ag ymgyrch Iawn. Mae'n gwneud ymdrech ymwybodol bob amser nawr i asesu ei ymddygiad tuag at ei bartner presennol, ar ôl profi cyfnod yn ei fywyd pan, mae'n cyfaddef, nad oedd ei ymddygiad o fewn ei gydberthnasau rhamantus yn iach.
Dywedodd:
"Mae deall nodweddion perthynas iach yn allweddol i'n helpu i adnabod ymddygiadau fel casineb a dirmyg at fenywod, gasleitio neu fomio â chariad - pethau na fyddai rhywun efallai wedi sylweddoli eu bod yn niweidiol. Pan ydych chi'n gwybod pa mor niweidiol yw'r ymddygiadau hyn, gallwch ddechrau eu herio a sicrhau nad ydych chi'n cyfrannu at y broblem.
"Pe bai Iawn wedi bod o gwmpas pan oeddwn i yn fy 20au, dw i'n meddwl y byddai fy mhroblemau wedi eu datrys yn gynt o lawer ac wedi gwneud imi fynd i'r afael â fy ymddygiad yn llawer cynt.
"Mae angen i bob un ohonon ni ddeall y gallwn ni gyfrannu at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, a bod yn rhaid inni wneud hynny. Dyma sut rydyn ni'n dechrau gwneud newidiadau gwirioneddol a pharhaol. Mae'r cyfan yn dechrau gydag un weithred, un sgwrs - ac mae'n gwneud byd o wahaniaeth."
I ddysgu mwy am beth y gallwch chi ei wneud, ewch i Iawn.
Gall menywod gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn, sydd ar gael 24 awr y dydd, am gymorth a chyngor:
- Rhif ffôn am ddim: 0808 8010 800
- Neges destun: 0786 007 7333
- Ebost: info@livefearfreehelpline.wales
- Sgwrsio byw: drwy'r wefan
Os ydych mewn perygl uniongyrchol ac nad yw'n ddiogel ichi siarad, ffoniwch 999 ac yna 55 i dynnu sylw'r heddlu.