Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas Grŵp Cynghori ar Bysgodfeydd Morol Cymru a sut y bydd yn gweithio.

Cyflwyniad

Diben y ddogfen hon yw amlinellu swyddogaeth, cyfansoddiad, cyfrifoldebau a threfniadau gweithredu Partneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru (PMacA Cymru).

Mae PMacA Cymru wedi disodli hen Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol, a ffurfiwyd yn 2014 i gynnig cyngor strategol cyffredinol wrth i'r Cynllun Pontio Morol gael ei ddatblygu. 

Mae'r grŵp bellach yn bartneriaeth o randdeiliaid sydd wedi ymrwymo i gydweithio i wireddu'n gweledigaeth gyffredin fel y'i hamlinellir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru ac yn benodol yn y Naratif ar y Cyd. Gweler Atodiad A. 

Diben a nodau lefel uchel

Mae'r Bartneriaeth yn dod ag ystod eang o grwpiau buddiant strategol ynghyd i hwyluso cydweithio ar draws y sector morol ac arfordirol er mwyn cyflawni'r nodau isod: 

  1. Sicrhau ymgysylltu effeithiol ac ystyrlon wrth wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein moroedd yn lân ac yn iach, eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy a'u bod yn fioamrywiol. 
  2. Parhau i gadw golwg ar yr hyn sy'n cael ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru a’r bartneriaeth ehangach, a rhannu gwybodaeth ar draws eu rhwydweithiau rhanddeiliaid. 
  3. Canolbwyntio ar dri cham galluogi ar bob lefel er mwyn helpu i ddefnyddio'n hecosystemau a’n hadnoddau morol mewn ffyrdd cynaliadwy, a gwella’r manteision y maent yn eu cynnig:
  • llythrennedd cefnforol: meithrin dealltwriaeth o sut y mae pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn cysylltu ag arfordiroedd a moroedd Cymru, yr effaith y mae'r hyn yr ydym yn ei wneud ar y cyd ac yn unigol yn ei chael ar iechyd cefnforoedd, a sut mae iechyd cefnforoedd yn effeithio ar ein bywydau bob dydd, gan arwain at welliannau o ran sut rydym yn rheoli ac yn defnyddio'n harfordiroedd a'n moroedd
  • buddsoddiad cynaliadwy: bydd sicrhau mathau arloesol a mwy hirdymor o gyllid cyhoeddus, preifat a chyfunol yn helpu i gyflawni'r amcanion allweddol, gan gynnwys adfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig a thrawsnewid systemau economaidd-gymdeithasol
  • meithrin gallu: hwyluso cydweithio a chydgynhyrchu er mwyn hyrwyddo ffyrdd cydgysylltiedig o weithredu, yn lleol yn ein cymunedau, yn genedlaethol, ac ar draws ffiniau, i ymateb i anghenion ac amodau a fydd yn newid wrth i'r pwysau ar ein harfordiroedd a'n moroedd gynyddu

Amcan ac allbynnau

Bydd y Bartneriaeth yn gweithio gyda'i gilydd, a chyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau lleol, i weithredu ar y tair thema hyn drwy raglen waith a fydd yn seiliedig ar ein gweledigaeth a'n huchelgais i sicrhau bod ein harfordiroedd a'n moroedd yn gydnerth. 

Bydd y Bartneriaeth yn cydweithio i nodi, i hwyluso ac i gymryd camau gweithredu a sicrhau allbynnau a fydd yn cyflawni'r diben a'r nodau lefel uchel.

Dyma rai o'r allbynnau hynny:

  • datblygu a chreu strategaeth a chynllun gweithredu i Gymru ar Lythrennedd Cefnforol a fydd yn canolbwyntio ar feithrin a gwella dealltwriaeth o bwysigrwydd ein moroedd ac o ba mor bwysig yw stiwardiaeth ohonynt
  • datblygu model ariannu hirdymor er mwyn helpu i  gymryd camau a fydd yn meithrin cryfder ecosystemau a sectorau morol ac arfordirol
  • datblygu a chyflwyno model hyblyg ar gyfer cysylltu ac ymwneud â chymunedau arfordirol mewn ffordd ystyrlon ar y lefel leol, er mwyn nodi'r effeithiau ar gymunedau, ac atebion, prosiectau a chyfleoedd o'r gwaelod i fyny, a nodi'r dystiolaeth fydd ei hangen er mwyn hwyluso datblygu cynaliadwy

Bydd y Bartneriaeth hefyd yn ceisio cyflawni'r argymhellion yn y Archwiliad Dwfn o Fioamrywiaeth y nodwyd eu bod yn berthnasol i'r amgylchedd morol.

Bydd y Bartneriaeth yn rhannu gwybodaeth am weithgareddau yn yr amgylchedd morol, ac yn mynd ati yn ôl y gofyn i roi adborth, i gyflwyno sylwadau ac i roi cyngor am bolisïau perthnasol Llywodraeth Cymru.

Llywodraethu a ffyrdd o weithio

Y Bartneriaeth yw’r prif grŵp rhanddeiliaid morol ar gyfer Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth yn Llywodraeth Cymru. Yr Is-adran honno fydd yn darparu’r Ysgrifenyddiaeth, ac yn monitro ac yn cofnodi’r cynnydd a fydd yn cael ei wneud ar y nodau, yr amcanion a’r allbynnau. 

Mae'r grŵp yn cael ei arwain gan Gadeirydd a benodir yn gyhoeddus, a fydd yn adrodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Bydd y Bartneriaeth yn gweithredu yn unol â'r pum ffordd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: cydweithio, integreiddio, cynnwys, edrych ar yr hirdymor, ac atal.

Yr aelodaeth

Nod yr aelodaeth yw:

  • bod mor gynhwysol â phosibl, gan sicrhau cynrychiolaeth briodol i bawb sydd â buddiant yn ardal forol Cymru ( sectorau busnes e.e. ynni, pysgota, cymunedau, grwpiau amgylcheddol, llywodraeth leol, hamdden)
  • sicrhau cydbwysedd rhwng y grwpiau buddiant a chwmpas daearyddol gan sicrhau ar yr un pryd nad yw’r grŵp yn rhy fawr

Rhagwelir mai Cymru gyfan fydd ardal ddaearyddol neu gylch gwaith aelodau craidd y Bartneriaeth, neu y bydd yr aelodau craidd hynny'n cynrychioli maes arbenigol ar y lefel genedlaethol. Caiff cynrychiolwyr o blith rhanddeiliaid ehangach, y tu allan i aelodaeth graidd y bartneriaeth, eu hannog i fod yn aelodau o weithgorau neu grwpiau gorchwyl a gorffen.

Mae rhestr o'r aelodau cyfredol i'w gweld yn Atodiad B.

Rhaid i'r aelodau:

  • gynrychioli safbwyntiau rhanddeiliaid yng Nghymru ac yn eu sector, gan wyntyllu unrhyw faterion sy'n codi 
  • rhoi a lledaenu gwybodaeth allweddol i rwydweithiau rhanddeiliaid
  • mynd ati i gyflawni nodau, amcanion ac allbynnau'r Bartneriaeth ym mha ffordd bynnag y gallant

Cyfarfodydd

Cynhelir cyfarfodydd partneriaeth lawn PMacA Cymru dair gwaith y flwyddyn, ym misoedd Chwefror, Mehefin a Hydref.  Bydd y cyfarfodydd yn gyfuniad o gyfarfodydd ar-lein a chyfarofdydd wyneb yn wyneb.

Gweithgorau

Sefydlwyd Gweithgorau i ddatblygu'r tair thema gweithredu sy'n cael eu hamlinellu yn yr adran Diben a Nodau uchod. Bydd grwpiau'n cael eu cadeirio a'u rhedeg gan aelodau'r Bartneriaeth, a fydd yn adrodd yn ôl i'r grŵp llawn. 

Caiff grwpiau benderfynu pa mor aml y byddant yn cynnal eu cyfarfodydd, ond bydd disgwyl iddynt gyfarfod o leiaf unwaith rhwng pob cyfarfod o'r Bartneriaeth lawn.

Dyma'r grwpiau presennol:

  • y Gweithgor ar Llythrennedd Cefnforol, sy'n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru
  • y Gweithgor ar Fuddsoddiad Cynaliadwy, sy'n cael ei arwain gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol
  • y Gweithgor Meithrin Gallu, sy'n cael ei arwain gan Gadeirydd presennol PMacA Cymru
  • y Grŵp Arbenigol ar Fioamrywiaeth Forol, sy'n cael ei gynnull gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Bydd Grŵp Rheoli a fydd yn cynnwys y Cadeirydd, yr Ysgrifenyddiaeth ac arweinwyr y Gweithgorau yn cyfarfod hefyd i oruchwylio Cynllun Cyflawni PMacA  Cymru.

Y grwpiau gorchwyl a gorffen

Ceir sefydlu Grwpiau Gorchwyl a Gorffen am gyfnod diffiniedig i ymgymryd â thasg benodol, a byddant yn cael eu diddymu unwaith y bydd y dasg wedi'i chwblhau. Enghreifftiau o'r rhain yw'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gronfa Forol, o dan y Gweithgor Buddsoddiad Glas.

Atodiad A: naratif ar y cyd

Tuag at Wytnwch Morol yng Nghymru

Yn dilyn pandemig COVID-19, daeth rhanddeiliaid morol a physgodfeydd, sef Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol ynghyd i ystyried y ffordd orau o gefnogi camau datblygu cynaliadwy i helpu cymunedau arfordirol i adfer, ac i gyflawni ein gweledigaeth o foroedd Cymru sy'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.

Mae ein harfordiroedd a'n moroedd yn cyfrannu'n sylweddol at ein bywydau a'n lles. Mae Parth Morol Cymru yn dyblu maint Cymru. Gan ein bod yn genedl arfordirol, mae ein harfordiroedd, ein moroedd a'n treftadaeth pysgota yn rhan hanfodol o'n diwylliant a'n hiaith. Yn y bôn, mae ein moroedd yn fannau anhygoel, yn gartref i amrywiaeth o gynefinoedd hynod ddiddorol a chreaduriaid môr bendigedig. Mae adnoddau naturiol ac ecosystemau'r môr yn darparu bioamrywiaeth, ynni adnewyddadwy, protein iach, storio carbon, deunydd adeiladu, ac yn cefnogi pysgota a dyframaethu, twristiaeth, hamdden ac ysbrydoliaeth ddiwylliannol yn ogystal â manteision iechyd a chysylltedd byd-eang.

Mae ecosystemau morol gwydn, sy’n cael eu cynnal gan gynefinoedd a rhywogaethau ffyniannus, yn hanfodol i natur ac adferiad economaidd-gymdeithasol. Mae'r manteision gwell y byddem yn eu gweld o gynefinoedd sydd wedi'u hadfer a'u hadennill yn cynnwys cynhyrchu mwy o bysgod a physgod cregyn, gwell amddiffyniad arfordirol, rhagor o gyfleoedd i fusnesau cynaliadwy, a mwy o gapasiti ar gyfer addasu i newid yn yr hinsawdd. 

Mae'r ecosystemau hyn a'r buddion y maen nhw'n eu rhoi o dan bwysau oherwydd ein defnydd cynyddol o adnoddau naturiol, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Hefyd, ni allwn wadu'r angen i symud i ffwrdd o losgi tanwydd ffosil ar gyfer ynni a thuag at fathau adnewyddadwy o ynni y gellir ei gynhyrchu’n helaeth o'n moroedd. Mae'n hanfodol bod y ffordd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol yng Nghymru yn parchu'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan gydbwyso'r cyfleoedd â'r effeithiau ar fioamrywiaeth a chymunedau.

Yng Nghymru, mae gennym lawer o ddulliau gweithredu presennol, pobl a phrosiectau sy'n ceisio cefnogi ecosystemau morol a'r buddion a gawn ganddynt. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy, ac mae angen i ni ei wneud yn gyflymach, gan ddefnyddio ein hadnoddau yn effeithiol.  Mae tri maes gwaith wedi'u nodi i gyflymu a galluogi gweithredu dros ein hamgylchedd, economi, lles cymdeithasol a diwylliannol:

  • llythrennedd morol: meithrin dealltwriaeth o’r ffordd mae pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn cysylltu ag arfordiroedd a moroedd Cymru, effaith ein gweithredoedd cyfunol ac unigol ar iechyd y cefnfor a sut mae iechyd y cefnfor yn effeithio ar ein bywydau bob dydd, gan arwain at welliannau o ran sut rydym yn rheoli a defnyddio ein harfordiroedd a’n moroedd
  • buddsoddi cynaliadwy – bydd sicrhau mathau arloesol a thymor hwy o gyllid cyhoeddus, preifat a chyfun yn helpu i gyflawni amcanion allweddol, megis adfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig a thrawsnewid systemau economaidd-gymdeithasol
  • cynyddu capasiti – galluogi cydweithio a chydgynhyrchu i annog gweithredu wedi’i gydlynu, yn lleol o fewn ein cymunedau, yn genedlaethol ac yn drawsffiniol, i ymateb i anghenion ac amodau sy’n newid wrth i’r pwysau ar ein harfordiroedd a moroedd gynyddu

Dros y tair blynedd nesaf, bydd aelodau’r bartneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd, a chyda partneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau lleol, i nodi a chyflawni rhaglen waith sy’n seiliedig ar y tair thema fel sail i’n gweledigaeth a’n huchelgeisiau ar gyfer arfordiroedd a moroedd gwydn. 

Atodiad B: aelodaeth

Dyframaeth     

  • Bangor Mussels 
  • Aquaculture Industry Wales 

Agregau     

  • Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain
  • Seabed Users and Developers Group

Cymunedau arfordirol / grwpiau cymunedol  

  • Cragen Llŷn a Môn     
  • Fforwm Arfordir Sir Benfro 
  • Partneriaeth Pwllheli     
  • Severn Estuary Partnership     
  • Severn Vision     
  • Un Llais Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Pysgota   

  • Seafish 
  • Welsh Fishermen’s Association

Hanes / Archaeoleg    

  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru    

Aml-sector        

  • Ystad y Goron

Gwarchod natur a bioamrywiaeth   

  • Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
  • Y Gymdeithas Cadwraeth Forol  
  • Cyfoeth Naturiol Cymru 
  • RSPB  
  • Cadwch Gymru’n Daclus     
  • Cyswllt Amgylchedd Cymru
  • Ymddiriedolaethau Natur Cymru
  • World Wildlife Fund 

Porthladdoedd a morgludo     

  • British Ports Association 
  • Milford Haven Port Authority