Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru): naratif ar y cyd
Mae CaSP Cymru wedi datblygu naratif a rennir ar gyfer gwydnwch morol yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i sefydlu tir cyffredin i gyfranogwyr wneud cynnydd ar fater.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Tuag at Wytnwch Morol yng Nghymru
Yn dilyn pandemig COVID-19, daeth rhanddeiliaid morol a physgodfeydd, sef Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol ynghyd i ystyried y ffordd orau o gefnogi camau datblygu cynaliadwy i helpu cymunedau arfordirol i adfer, ac i gyflawni ein gweledigaeth o foroedd Cymru sy'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.
Mae ein harfordiroedd a'n moroedd yn cyfrannu'n sylweddol at ein bywydau a'n lles. Mae Parth Morol Cymru yn dyblu maint Cymru. Gan ein bod yn genedl arfordirol, mae ein harfordiroedd, ein moroedd a'n treftadaeth pysgota yn rhan hanfodol o'n diwylliant a'n hiaith. Yn y bôn, mae ein moroedd yn fannau anhygoel, yn gartref i amrywiaeth o gynefinoedd hynod ddiddorol a chreaduriaid môr bendigedig. Mae adnoddau naturiol ac ecosystemau'r môr yn darparu bioamrywiaeth, ynni adnewyddadwy, protein iach, storio carbon, deunydd adeiladu, ac yn cefnogi pysgota a dyframaethu, twristiaeth, hamdden ac ysbrydoliaeth ddiwylliannol yn ogystal â manteision iechyd a chysylltedd byd-eang.
Mae ecosystemau morol gwydn, sy’n cael eu cynnal gan gynefinoedd a rhywogaethau ffyniannus, yn hanfodol i natur ac adferiad economaidd-gymdeithasol. Mae'r manteision gwell y byddem yn eu gweld o gynefinoedd sydd wedi'u hadfer a'u hadennill yn cynnwys cynhyrchu mwy o bysgod a physgod cregyn, gwell amddiffyniad arfordirol, rhagor o gyfleoedd i fusnesau cynaliadwy, a mwy o gapasiti ar gyfer addasu i newid yn yr hinsawdd.
Mae'r ecosystemau hyn a'r buddion y maen nhw'n eu rhoi o dan bwysau oherwydd ein defnydd cynyddol o adnoddau naturiol, llygredd a newid yn yr hinsawdd. Hefyd, ni allwn wadu'r angen i symud i ffwrdd o losgi tanwydd ffosil ar gyfer ynni a thuag at fathau adnewyddadwy o ynni y gellir ei gynhyrchu’n helaeth o'n moroedd. Mae'n hanfodol bod y ffordd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol yng Nghymru yn parchu'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan gydbwyso'r cyfleoedd â'r effeithiau ar fioamrywiaeth a chymunedau.
Yng Nghymru, mae gennym lawer o ddulliau gweithredu presennol, pobl a phrosiectau sy'n ceisio cefnogi ecosystemau morol a'r buddion a gawn ganddynt. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy, ac mae angen i ni ei wneud yn gyflymach, gan ddefnyddio ein hadnoddau yn effeithiol. Mae tri maes gwaith wedi'u nodi i gyflymu a galluogi gweithredu dros ein hamgylchedd, economi, lles cymdeithasol a diwylliannol:
- Llythrennedd Morol - meithrin dealltwriaeth o’r ffordd mae pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn cysylltu ag arfordiroedd a moroedd Cymru, effaith ein gweithredoedd cyfunol ac unigol ar iechyd y cefnfor a sut mae iechyd y cefnfor yn effeithio ar ein bywydau bob dydd, gan arwain at welliannau o ran sut rydym yn rheoli a defnyddio ein harfordiroedd a’n moroedd;
- Buddsoddi Cynaliadwy – bydd sicrhau mathau arloesol a thymor hwy o gyllid cyhoeddus, preifat a chyfun yn helpu i gyflawni amcanion allweddol, megis adfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig a thrawsnewid systemau economaidd-gymdeithasol;
- Cynyddu Capasiti – galluogi cydweithio a chydgynhyrchu i annog gweithredu wedi’i gydlynu, yn lleol o fewn ein cymunedau, yn genedlaethol ac yn drawsffiniol, i ymateb i anghenion ac amodau sy’n newid wrth i’r pwysau ar ein harfordiroedd a moroedd gynyddu.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd aelodau’r bartneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd, a chyda partneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau lleol, i nodi a chyflawni rhaglen waith sy’n seiliedig ar y tair thema fel sail i’n gweledigaeth a’n huchelgeisiau ar gyfer arfordiroedd a moroedd gwydn.