Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cadarnhau heddiw bod Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan i ddod i ben ar unwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud y penderfyniad hwn yn seiliedig ar asesiad risg milfeddygol wedi'i ddiweddaru a gynhaliwyd gan Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a benderfynodd bod y risg o'r clefyd yn dod i'r wlad drwy adar gwyllt wedi lleihau o Uchel i Isel.  Felly hefyd, mae'r risg i ddofednod hefyd yn Isel.

Cyflwynwyd y Parth Atal ar 25 Ionawr i leihau'r risg o haint yn dilyn tri canfyddiad ar wahân yn Lloegr o ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N6 mewn Adar Gwyllt.

Yng Nghymru, dim ond un achos gafwyd mewn adar gwyllt eleni.  Ni fu unrhyw achosion o ffliw adar H5N6 mewn dofednod yn y DU eleni ac mae'r sector dofednod yn cadw ei statws OIE rhydd o glefydau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

"Ym mis Ionawr, cafwyd datganiad gennyf bod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw Adar mewn ymateb i achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N6 yn Lloegr.  Roedd hwn yn fesur gofalus i leihau'r risg o heintio dofednod yma yng Nghymru.

"Rydym wedi bod yn monitro'r sefyllfa ers hynny ac mae'r asesiad risg diweddaraf gan APHA wedi dod i'r casgliad bod y risg wedi gostwng o Uchel i Isel ar gyfer adar gwyllt ac mae'r risg i ddofednod hefyd yn Isel.

"Yn seiliedig ar y cyngor milfeddygol hwn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan yn dod i ben ar unwaith.  Rwyf yn siŵr y bydd croeso mawr i'r newydd hwn ond mae'n bwysig cofio bod ffliw adar yn parhau'n fygythiad cyson a real iawn i'n dofednod ac adar caeth eraill."

Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:

“Hoffwn bwysleisio'n gryf bod angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill barhau i fod yn wyliadwrus a chadw llygad am arwyddion o'r clefyd a pharhau i ddefnyddio'r arferion bioddiogelwch gorau un.  

“Os bydd unrhyw un yn amau bod adar yn dioddef o'r clefyd, dylai gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith.  Hefyd, gall pob un ohonom chwarae rhan drwy barhau i fod yn wyliadwrus a chysylltu â llinell gymorth y DU os ydych yn dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw.

“Hoffwn hefyd atgoffa'r rheini sy'n cadw 50 neu fwy o ddofednod fod yn rhaid iddynt gofrestru eu heidiau ar y Gofrestr Ddofednod a byddwn yn annog yn gryf i bawb sy'n cadw dofednod, gan gynnwys y rheini sydd â llai na 50 o adar, i gofrestru. Bydd hynny'n sicrhau y gellir cysylltu â hwy ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw adar, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid yn gyflym a lleihau'r perygl o heintio.”

Mae gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru .

Cysylltwch â llinell gymorth y DU ar 03459 335577 os fyddwch yn canfod unrhyw adar gwyllt marw.