Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion a methodoleg yr ymchwil

Mae Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol ar i bawb sy’n gwerthu nwyddau yng Nghymru neu sy’n dosbarthu nwyddau i bobl yng Nghymru (gwerthwyr) i godi tâl o 5 ceiniog fan leiaf am bob bag siopa untro a roddir.  Codir y tâl yn y man gwerthu, am nwyddau a werthir mewn siop a nwyddau a ddosberthir. Nid oes tâl gorfodol ar hyn o bryd ar fathau eraill o fagiau siopa (e.e. ‘bagiau gydol oes’) sydd wedi’u gwneud o blastig neu ddefnydd arall.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (EWA 2016) yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i estyn y tâl isaf presennol am fagiau siopa untro i fathau eraill o fagiau siopa, os bydd eu defnydd yn codi i lefelau sy'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r pwerau hyn eto. 

Wrth ddatblygu’r ddarpariaeth hon, cynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol i bennu’r pris gorau ar gyfer y tâl hwn pe bai'n cael ei estyn i fathau eraill o fagiau siopa. Cyfrifwyd y prisiau a gynigiwyd serch hynny ar sail y costau amgylcheddol a chymdeithasol heb ystyried faint y byddai defnyddwyr yn barod i’w dalu am y bagiau gwahanol. Felly, nid yw'n glir a fyddai'r prisiau a gynigir yn ddigon i newid ymddygiad defnyddwyr. At hynny, gan i’r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi yn 2015, mae'n debygol bod prisiau gwahanol fagiau siopa yn yr holl archfarchnadoedd wedi newid ers hynny.

Nod yr ymchwil hon oedd nodi'r pris uchaf y byddai defnyddwyr yn barod i'w dalu am wahanol fathau o fagiau siopa, ac yna i ddefnyddio'r wybodaeth ochr yn ochr ag ymchwil bellach, a'r ymchwil yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, i ystyried prisiau posibl ar gyfer pob math o fagiau siopa.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil hwn trwy arolwg ar-lein gan Beaufort Research ym mis Chwefror 2021.

Prif ganfyddiadau a chasgliadau

Parodrwydd i dalu am wahanol fathau o fagiau

Yn achos pob un o'r chwe math o fagiau siopa, roedd y pris cyfartalog mwya yr oedd cyfranogwyr yn barod i'w wario yn gyson is na'r pris cyfartalog y byddai cyfranogwyr yn gwrthod ei dalu i brynu bag oherwydd ei fod yn rhy ddrud.

Cafwyd yr ymatebion mwyaf pendant ynghylch bagiau siopa untro; y pris canolrif uchaf yr oedd cyfranogwyr yn fodlon ei wario oedd £0.05, dyna oedd dewis dros hanner yr ymatebwyr. Byddai'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr (64%) yn gwrthod prynu bag siopa untro pe bai'n £0.20 neu'n uwch. Mae hyn yn awgrymu bod pris presennol bagiau siopa untro yn cael ei ystyried yn dderbyniol ymhlith y cyhoedd, a phe bai’n cynyddu, efallai y byddai llai o bobl yn eu prynu.

Yn achos bagiau plastig gydol oes, y pris canolrif uchaf yr oedd cyfranogwyr yn barod i'w wario oedd £0.20. Y pris canolrif yr oedd cyfranogwyr yn credu fyddai'n rhy ddrud iddynt oedd £0.50. Roedd yr ymatebion yn fwy amrywiol nag ar gyfer bagiau siopa untro, heb yr un increment 10 ceiniog yn cael mwyafrif yr ymatebion.

Y pris canolrif uchaf yr oedd cyfranogwyr yn fodlon ei wario am fagiau cotwm a'r tri math o fag gydol oes cryfder ychwanegol (plastig, cynfas a defnydd) oedd £1. Y categori pris y gwnaeth y ganran uchaf o ymatebwyr ei ddewis oedd £1 i £1.40 (30%) ar gyfer y pedwar math o fag. Fodd bynnag, dylid nodi bod cyfranogwyr wedi dewis opsiynau prisiau ar draws yr ystod ar gyfer pob un o'r bagiau hyn, heb yr un opsiwn neu glwstwr prisiau yn ddewis i fwyafrif y cyfranogwyr.

Yn achos yr holl fagiau gydol oes cryfder ychwanegol, y pris canolrif fyddai’n eu gwneud yn rhy ddrud i’w prynu oedd £1.50 ar gyfer y mathau plastig, £1.70 ar gyfer rhai defnydd ac £1.80 ar gyfer bagiau cynfas. Ar gyfer bagiau cotwm, y pris canolrif a oedd ym marn y cyfranogwyr yn rhy ddrud oedd £1.19. 

Cafwyd yr amrywiaeth fwyaf yn yr ymatebion i’r pris yr oedd cyfranogwyr yn barod i'w dalu (a'i ystyried yn rhy ddrud) am y tri bag gydol oes cryfder ychwanegol (plastig, defnydd a chynfas). Mae hyn yn dangos diffyg consensws ac ansicrwydd ymhlith cyfranogwyr ynghylch faint yw gwerth y mathau hyn o fagiau.

Roedd rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau oed a rhyw yn yr ymatebion i rai bagiau gydol oes cryfder ychwanegol. Er enghraifft, roedd y grŵp oed 55 i 64 yn barod i dalu mwy na grwpiau oed eraill am fagiau cynfas a defnydd gydol oes cryfder ychwanegol. Hefyd, roedd menywod yn barod i dalu mwy am fagiau cynfas a defnydd gydol oes cryfder ychwanegol na dynion. Gallai dadansoddiad demograffig manylach fod o fudd mewn ymchwil yn y dyfodol.   

'Yr amgylchedd' oedd y rheswm a roddwyd gan y ganran uchaf o gyfranogwyr (74%) am y rheswm dros ddod â’u bagiau siopa eu hunain i’r archfarchnad yn hytrach na phrynu un.  Y dewis nesaf, yn ail agos oedd arbed arian ar 69%. Cafodd yr holl resymau eraill sgôr is na 50% gan yr holl gyfranogwyr.

Newidiadau yn y defnydd o fagiau siopa ers dechrau pandemig COVID-19

Gofynnwyd i'r cyfranogwyr sut y maent wedi bod yn siopa am fwyd ers dechrau'r pandemig. Mae tua hanner yr ymatebwyr (49%) wedi bod yn mynd i’r siopau, mae tua thraean (30%) wedi bod yn mynd i’r siopau a siopa ar-lein, mae 18% wedi bod yn siopa ar-lein/clicio a chasglu yn unig, ac mae gan leiafrif bach iawn rywun yn siopa drostyn nhw (2%).

O'r cyfranogwyr hynny sydd wedi bod yn mynd i’r siopau i siopa am eu bwyd ers dechrau’r pandemig, mae'r mwyafrif yn defnyddio'r un nifer (47%) neu lai (45%) o fagiau untro nag yr oeddynt cyn y pandemig. Dim ond lleiafrif bach (5%) sy'n defnyddio mwy o fagiau untro.

Gofynnwyd i’r rheini a ddywedodd eu bod yn defnyddio llai neu fwy o fagiau untro, roi'r prif reswm dros hynny. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd rhesymau amgylcheddol (33%). Roedd ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy tebygol o ddewis 'Er hwylustod/rhwyddineb' fel eu prif reswm dros newid eu defnydd o fagiau. Roedd gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol hefyd rhwng grwpiau oed i’r ymateb 'Ddim yn defnyddio bagiau untro' gyda'r rhai yng ngrŵp oed 55+ yn fwy tebygol o ddewis yr opsiwn hwn.

Casgliadau

Dangosodd yr ymchwil bod ymatebion yr ymatebwyr i’r cwestiwn faint y byddent yn barod i’w dalu am wahanol fathau o fagiau siopa a’r pris a fyddai’n gwneud y bag yn rhy ddrud i’w brynu, yn amrywio. Roedd yr ymatebion yn fwy amrywiol ar gyfer y gwahanol fathau o fagiau gydol oes cryfder ychwanegol ac yn llai amrywiol ar gyfer y bagiau siopa untro a’r bagiau plastig gydol oes. Gwelwyd peth gwahaniaeth yn y parodrwydd i dalu hefyd yn ôl oed a rhyw.  Gyda’i gilydd, mae’r amrywiaeth hon yn awgrymu bod pobl yn ystyried prisiau bagiau mewn ffordd wahanol ac felly mae’n bosibl na fyddai tâl statudol yn cael yr un effaith ar ddewisiadau prynu pawb.

Roedd yr amgylchedd yn rheswm cyffredin dros ailddefnyddio bag yn lle prynu un newydd. Mae hyn yn awgrymu nad yw pris bag o reidrwydd yn ystyriaeth wrth benderfynu a ddylid prynu bag siopa neu beidio.

Gallai ymchwil yn y dyfodol archwilio ffactorau eraill, yn ogystal â'r pris, a allai annog ailddefnyddio bagiau siopa.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Emily Wolstenholme, Lucy Campbell ac Isabella Malet-Lambert

Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, nid o reidrwydd barn Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Aimee Marks
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 71/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-711-3

Image
GSR logo