Cyflwyniad

  1. Ar ôl bod yn aelod o'r UE am dros 40 mlynedd, mae gweithredoedd economaidd a llywodraethu’r DU yn llwyr ynghlwm â'r UE. Er mwyn gweithredu ymadawiad y DU â'r UE, bydd rhaid i lywodraethau greu systemau rheoleiddio newydd a chyfyngu gymaint â phosib ar effeithiau negyddol y newid, gosod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn ei lle a sefydlu prosesau a systemau newydd, gan gynnwys mewn rhai achosion adeiladu seilwaith a systemau TG newydd. Lle bo swyddogaethau rheoleiddiol yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd ar lefel yr UE, bydd angen sicrhau bod systemau ac adnoddau domestig yn eu lle i arfer y swyddogaethau hynny.
  2. Llywodraeth y DU sy'n bennaf gyfrifol am baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE, ac mae'n hanfodol i Lywodraeth Cymru gydlynu ei gwaith paratoi gyda Llywodraeth y DU.
  3. Bydd y Cytundeb Ymadael, os bydd yn cael ei gadarnhau, yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw drefniadau newydd fod yn eu lle erbyn mis Ionawr 2021. Mae'r cyfnod pontio yn cynnig cyfnod mwy realistig ar gyfer datrys unrhyw faterion sy'n codi, er bod graddfa'r gwaith a'r amserlen dan sylw yn parhau i fod yn heriol tu hwnt.
  4. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i rannu manylion eu gwaith paratoi yn systematig, gan gynnwys y gwaith angenrheidiol i roi sylw i ddiffygion mewn deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r UE, a chydweithio â'r gweinyddiaethau datganoledig. Mewn nifer o feysydd, mae'n debyg y byddai manteision i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o systemau ar draws y DU. Gallai cydweithrediad o'r fath helpu i sicrhau hyblygrwydd digonol i bolisïau Cymru ar faterion wedi'u datganoli.
  5. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn yr wythnosau diwethaf, yn arbennig gyda BEIS a DEFRA, y ddwy adran yn Whitehall sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan Brexit. Fodd bynnag, mae bylchau allweddol yn ein gwybodaeth o hyd, a dim digon o rannu profiadau na systemau trawslywodraethol sy'n angenrheidiol ar gyfer cydweithio o ddifrif.

Risgiau

  1. Mae'r peryglon sy'n gysylltiedig â gwaith paratoi (a'r gwaith deddfwriaethol cysylltiedig) yn amrywio ar draws adrannau, ond yn cynnwys peryglon sylweddol o ran:
    • diogelu'r cyhoedd (fel diogelwch bwyd, iechyd anifeiliaid, mynediad at feddyginiaethau)
    • diogelu'r amgylchedd (fel rheoli cemegion)
    • swyddi, ffyniant a'r economi (fel galluogi masnach, cymorth i ffermydd).

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu system fonitro effeithiol ar draws yr Adrannau ac yn ganolog er mwyn sicrhau bod y peryglon hyn yn cael eu rheoli.

Gwaith Llywodraeth Cymru a'r cysylltiad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau trefniadau cadarn, strwythuredig i gysylltu a chydweithio gyda Llywodraeth y DU, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ceisio nodi a, lle bo'n bosib, datblygu gwaith paratoi yn fewnol.
  2. Bydd angen i gryn dipyn o is-ddeddfwriaeth cywiro gael ei rhoi ar waith hefyd cyn i'r DU ymadael â'r UE. Mae ymadawiad y DU â'r UE yn arwain at swm o waith na welwyd ei debyg o'r blaen i ddiwygio deddfwriaeth yn ymwneud â'r UE a cheisio sicrhau bod modd ei weithredu, a bod cysondeb a sicrwydd cyfreithiol drannoeth y diwrnod ymadael.
  3. Mae adrannau unigol o Lywodraeth Cymru wedi bod yn pwyso ar swyddogion cyfatebol yn Whitehall i rannu gwybodaeth a chydweithio ar eu rhaglenni gwaith paratoi, ac wedi cael ymateb anghyson. Ar yr un pryd, mae Tîm y Trefniadau Pontio Ewropeaidd wedi bod yn ceisio agor y drws i rannu gwybodaeth drwy'r Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Yn y pen draw, bydd angen i dimau â chyfrifoldeb cyffredinol dros barodrwydd gweithredol i ymadael â'r UE arwain trafodaethau manwl gydag adrannau polisi Llywodraeth y DU, gan mai dyma lle mae'r cyfrifoldeb a'r wybodaeth fanwl. Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Llywodraeth y DU i weld lle gellid datblygu paratoadau ar sail ehangach, er enghraifft ar draws Cymru a Lloegr, Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig.

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

  1. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weld cysylltiad araf ond cyson gyda swyddogion yn yr Adran Iechyd. Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol cadarnhaol ar feysydd nad ydynt yn ddadleuol, sef trawsblannu organau a bygythiadau i iechyd y cyhoedd, ym mis Tachwedd 2017. Mewn meysydd mwy heriol, fel Gofal Iechyd Cyfatebol, nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth am y cwmpas arfaethedig na'r senarios cynllunio sy'n angenrheidiol i alluogi trafodaeth gynhyrchiol gyda Gweinidogion Cymru. Yn yr un modd, ychydig o wybodaeth a ddaeth i law hyd yma am newidiadau penodol sy'n cael eu cynnig i ddeddfwriaeth, sy'n cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i gynllunio'r newidiadau angenrheidiol.
  2. Mae nifer o arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer pob maes pwysig yn cynnal trafodaethau anffurfiol gyda'r swyddogion polisi cyfatebol yn Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, yn bennaf drwy sianeli cyfathrebu sydd eisoes yn bodoli. Fodd bynnag, nid yw'r gwaith hwn wedi cael ei ddatblygu eto i fod yn ddull gweithredu cadarn a strwythuredig i'r DU.
  3. Ar gyfer nifer o'r elfennau parodrwydd gweithredol yn ymwneud ag iechyd sydd dan ystyriaeth, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld gwahaniaethau sylweddol o fewn y DU. Yn wir, mewn nifer o feysydd disgwylir y bydd cydweddiad cryf yn parhau â gweinyddiaethau eraill y DU, fel y safonau yn ymwneud â thrawsblannu organau neu ymateb i fygythiadau i iechyd y cyhoedd. Mae'r ffaith nad oes cynlluniau manwl ar gael o hyd ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol (negodi cytundeb neu ddim cytundeb) yn amharu ar allu Llywodraeth Cymru i asesu holl effaith bosib Brexit ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo gydag arweinwyr penodol yn y GIG a sefydliadau gofal cymdeithasol i adnabod effaith bosibl Brexit a mesurau lliniaru yn y prif feysydd risg. Yn benodol ar hyn o bryd, mae'r gwaith yn cynnwys adeiladu ar ddadansoddiad yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd o beryglon yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer meddyginiaethau a brechlynnau.

Busnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol

  1. Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi dechrau cysylltu mwy gyda'r gweinyddiaethau datganoledig yn ddiweddar. Cynhelir fforwm rheolaidd ar faterion Brexit rhwng BEIS a'r gweinyddiaethau datganoledig. Yn fwy penodol, cafwyd cyfarfod ychwanegol hefyd i edrych ar feysydd o ddiddordeb cyffredin i BEIS a'r gweinyddiaethau datganoledig yn ymwneud â Pharodrwydd Gweithredol. Mae diffinio'r meysydd hyn ac adeiladu ymddiriedaeth ynghylch rhannu gwybodaeth yn parhau i fod yn heriau i Lywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Yr Amgylchedd a Materion Gwledig

  1. Gan adeiladu ar y cysylltiad Gweinidogol rhwng Llywodraeth Cymru a chydweithwyr ar lefel y DU ac mewn gweinyddiaeth ddatganoledig, cafwyd trafodaethau manwl gyda DEFRA ynghylch y gwaith paratoi. Trafodwyd hyn yn ystod cyfarfod pedairochrog diwethaf y Gweinidogion ym mis Chwefror. Mae Defra wedi rhannu crynodebau o'u prosiectau parodrwydd ar gyfer y diwrnod cyntaf, a chynlluniau manylach y tu ôl i rhain gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.
  2. Mae'r prosiectau parodrwydd ar gyfer y diwrnod cyntaf yn syrthio dan dri phrif faes. Yn gyntaf, gosod systemau i hwyluso masnach gyda'r UE pan na fydd y DU bellach yn rhan o'r Farchnad Sengl, gan gynnwys datblygu systemau TG sylweddol newydd, er enghraifft ar gyfer olrhain masnach mewnforion anifeiliaid, planhigion a bwyd sy'n risg uchel. Yn ail, cynnig systemau yn lle'r rhai sy'n cael eu rhedeg ar lefel yr UE ar hyn o bryd, a sicrhau bod y DU yn cyflawni asesiadau rheoleiddiol (ar gyfer cemegion, plaladdwyr, bwyd) a seilwaith corfforol (fel banciau brechlynnau). Yn drydydd, gosod fframweithiau polisi a chyflawni penodol i'r DU i gymryd lle'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Mae DEFRA wedi bod yn gweithio'n ddwys ar rhain dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys ymrwymo cryn dipyn o adnoddau i adeiladu TG newydd.
  3. Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi arweinwyr ar gyfer pob un o'r prosiectau hyn, ac yn trafod gyda DEFRA i ddeall manylion y prosiectau a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried. Nid oes gan Lywodraeth Cymru y gallu (er enghraifft ar gyfer adeiladu TG neu gynnal asesiadau gwyddonol technegol) i osod systemau unigol penodol i Gymru ar gyfer prosiectau o'r fath.
  4. Ar yr un pryd, comisiynodd cyfarfod pedairochrog y Gweinidogion waith ar wneud penderfyniadau ar y cyd, a fyddai'n sylfaen i'r gwaith ar barodrwydd gweithredol a gwaith ar fframweithiau pellach ar draws y DU.

Meysydd eraill

  1. Yn gyffredinol, mae'r cysylltiad ym meysydd eraill Llywodraeth Cymru yn llai datblygedig, er ei bod yn werth nodi y cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol o Grŵp Llywio Cynllunio Ffiniau Porthladdoedd a Meysydd Awyr Cymru CThEM i edrych ar faterion gweithredol.

Casgliad

  1. Mae'n hanfodol sicrhau cydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn paratoi yn iawn ar gyfer ymadael. Nid oes modd i Gymru ymadael yn llwyddiannus heb gysylltiad ystyrlon y DU, ac rydym yn cydnabod mai gan Lywodraeth y DU mae'r prif gyfrifoldeb dros barodrwydd y DU yn gyffredinol.
  2. Mewn rhai meysydd efallai mai'r opsiwn ymarferol a synhwyrol yw ystyried pa faterion y gellid rhoi sylw iddynt ar sail y Deyrnas Unedig, Prydain neu rhwng Cymru a Lloegr. Mewn rhai achosion, ni fydd yn bosibl nac yn ddymunol sefydlu trefniadau unigol i Gymru, ac mewn eraill byddai gwneud hynny'n dasg sylweddol sy'n llyncu llawer o adnoddau, gan arwain at gostau sylweddol parhaus a risg i gyflawni blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru. Er mwyn cymryd rhan mewn systemau ehangach ar draws y DU, Prydain neu rhwng Cymru a Lloegr, bydd angen sefydlu prosesau gwneud penderfyniadau a datrys anghydfodau i amddiffyn cyfrifoldebau Gweinidogion Cymru, ac fe dynnwyd sylw at faterion cyffelyb ar gyfer fframweithiau'r DU.
  3. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n fewnol i baratoi ac yn gwthio Llywodraeth y DU am fwy o gydweithio a chysylltiad. Yn y cyd-destun hwn, mae'r cyfarfod yn gyfle i:
    1. ystyried sut y gallwn geisio sicrhau cysylltiad a chydweithio cryfach, strwythuredig gyda Llywodraeth y DU ar waith paratoi, ar lefel portffolio a thrwy broses gyffredinol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion
    2. trafod anghenion a materion yn ymwneud ag ymuno mewn systemau parodrwydd ehangach ar draws y DU, Prydain neu rhwng Cymru a Lloegr ar faterion penodol.