Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen fanwl, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n trafod pam y mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai drwy barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd (UE) y gellir diogelu ein buddiannau orau.
Cafodd ‘Dyfodol Mwy Disglair i Gymru’ ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher 25 Medi). Mae’n trafod manylion y niwed posibl y gallai ymadael â’r UE heb gytundeb ei achosi ac mae’n cyflwyno’r achos dros barhau’n aelod o’r UE. Mae’n dangos sut y gallem, fel aelod o’r UE, fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a oedd yn sbardun i’r bleidlais dros ymadael yn 2016.
Mae ‘Dyfodol Mwy Disglair i Gymru’ yn adeiladu ar ein hanes blaenorol o ddarparu tystiolaeth a dadansoddiadau polisi ar faterion sy’n ymwneud â Brexit a’r ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru. Gelwir hefyd yn y ddogfen am roi’r penderfyniad terfynol yn ôl yn nwylo’r bobl drwy gynnal refferendwm arall.
Wrth wneud sylw ar y cyhoeddiad, dywedodd Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit:
“Rydyn ni wedi gweithio’n ddi-baid i adeiladu consensws o amgylch sicrhau Brexit a oedd yn parchu canlyniadau refferendwm 2016, gan wneud cyn lleied â phosibl o ddifrod i’n heconomi.
“Fodd bynnag, mae’n ymddangos erbyn hyn bod y dewis sy’n ein hwynebu o dan Lywodraeth bresennol y DU wedi cael ei gyfyngu. Rhaid inni ddewis rhwng Brexit heb gytundeb neu aros yn yr UE. Mae’r camsyniad yn parhau y bydd Brexit heb gytundeb yn rhoi terfyn ar y trawma sydd wedi dod yn sgil Brexit. Ni ddylai pobl gael eu twyllo i feddwl y bydd Brexit heb gytundeb yn ddiwedd ar dair blynedd o ansicrwydd. Bydd dal rhaid inni gael cytundeb â’n cymdogion agosaf rywbryd ac, os neidio oddi ar y dibyn fydd ein hanes ni, bydd y negodiadau hyn yn fwyfwy anodd.
“Mae ‘Dyfodol Mwy Disglair i Gymru’ yn egluro pam mae Llywodraeth Cymru wedi’i hargyhoeddi, yn yr amgylchiadau hyn, mai parhau yn yr UE yw’r opsiwn gorau i Gymru.
“Mae’n cyflwyno tystiolaeth sy’n profi mai trychineb fyddai Brexit heb gytundeb i Gymru. Mae’n egluro pam, pe byddwn ni’n aros yn yr UE, byddai’n dal i fod yn bosib inni fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a sbardunodd y bleidlais dros ymadael.
“Byddai ein heconomi yn cael ei niweidio’n sylfaenol gan Brexit heb gytundeb, a hynny yn yr un modd y’i niweidiwyd gan Lywodraeth Thatcher yn y 1980au. Byddai ein hawliau yn y gwaith o dan fygythiad; byddai ein safonau a’n mesurau diogelu mewn perthynas â’r amgylchedd yn cael eu tanseilio; byddai ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwanhau drwy leihau’r sylfaen drethu a’r mynediad at sgiliau; byddai llai o gyllid ar gael inni ar gyfer buddsoddi yn ein seilwaith, ein sylfaen ymchwil, a’n sgiliau, gan gynnwys, yn hanfodol, prentisiaethau; a byddai hefyd yn fygythiad i ddatganoli.
“Ar y llaw arall, drwy aros yn yr UE, byddai gennym blatfform o sefydlogrwydd economaidd a chyfle i weithio gydag eraill i gymryd mwy o gamau i frwydro yn erbyn yr argyfwng amgylcheddol a gwella hawliau yn y gwaith. Byddai Cymru dal yn fuddiolwr net o gronfeydd yr UE a byddai dinasyddion Cymru yn parhau i allu manteisio ar yr hawl i deithio, byw a gweithio ar draws Ewrop.
“Yn wyneb y bygythiad sy’n prysur agosáu o Brexit heb gytundeb, mae’n rhaid rhoi’r penderfyniad yn ôl yn nwylo’r bobl, a bydd yn well i holl bobl Cymru os bydd y DU yn parhau yn aelod o’r UE.”