Heddiw, mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi agor parc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru yn swyddogol.
Mae Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc), sydd wedi'i leoli ym Mharc Menter Ynys Môn, yn dwyn ynghyd busnesau o'r sectorau TGCh, gwyddoniaeth ac ymchwil gan annog amgylchedd creadigol a chefnogol er mwyn rhannu gwybodaeth i helpu busnesau i dyfu.
Fel rhan o Brifysgol Bangor, mae M-SParc yn creu dolen gyswllt rhwng ymchwil academaidd ar flaen y gad a busnesau. Mae gweledigaeth 30 mlynedd y parc yn seiliedig ar greu swyddi medrus iawn i bobl leol, datblygu amgylchedd o rannu gwybodaeth a chreu hwb economaidd yn y sectorau carbon isel, ynni a'r amgylchedd a TGCh, er enghraifft.
Cafodd y parc gwyddoniaeth tri llawr 5000 metr sgwâr ei adeiladu i safonau Rhagoriaeth BREEAM, ac mae'n cynnwys labordy o'r radd flaenaf, swyddfeydd, gweithdai ac ystafelloedd cyfarfod. Mae yno hefyd gaffi lle gall gweithwyr y parc gwyddoniaeth a myfyrwyr o Brifysgol Bangor gyfarfod i rannu gwybodaeth a syniadau.
Wrth agor y parc gwyddoniaeth yn swyddogol, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae'r parc gwyddoniaeth arloesol hwn, a gafodd gymorth ariannol sy'n werth £20m gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, yn enghraifft wych o'r cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor i ysgogi arloesedd, entrepreneuriaeth a thwf busnesau.
"Mae'n wych gweld busnesau lleol a chwmnïau eraill yn dewis lleoli eu busnes yn M-SParc. Mae'n gyfleuster llawn egni ac arloesedd sy'n cael ei gefnogi gan dîm brwdfrydig sy'n gweithio gyda thenantiaid i helpu busnesau i dyfu.
"Mae'r parc gwyddoniaeth yn cynnig cymysgedd unigryw o gymorth busnes, menter fasnachol a chymorth academaidd. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cyfuniad llwyddiannus hwn yn parhau i ddenu rhagor o gwmnïau mawr a swyddi uchel eu cyflog i'r Gogledd."
Yn ystod y digwyddiad, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, Pryderi ap Rhisiart:
"Diben M-SParc yw denu'r gorau o'r rhanbarth. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n colli cwmnïau sy'n tyfu'n rhy fawr i'w cyfleusterau ac sy'n gorfod adleoli dros y ffin. Nod M-SParc yw atal hyn. Mae llawer o'r busnesau'n rhai lleol, ond rydyn ni hefyd yn denu mewnfuddsoddiad a chwmnïau newydd sy'n sefydlu eu hunain ar safle M-SParc.”
Dywedodd yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol,
"Rydyn ni'n gweithio gyda chwmnïau i sicrhau bod modd i'r busnesau sy'n deillio o'r Brifysgol a'i gwaith ymchwil masnachol ymgartrefu yn M-SParc. Mae'n galonogol gweld bod cymaint wedi manteisio ar y cyfle hyd yn hyn. Y nod bellach fydd parhau i gefnogi cwmnïau sydd wedi'u lleoli yn M-SParc ac annog graddedigion i sylweddoli bod cyfleoedd ar gael iddynt yn y Gogledd, a bod swyddi lefel uchel yn cael eu creu yn y rhanbarth."