Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect newydd i helpu'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru i gynllunio ei ofynion o ran y gweithlu ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae £200,000 wedi cael ei neilltuo o Gronfa Bontio'r Undeb Ewropeaidd (UE) Llywodraeth Cymru i gyllido ymchwil i'r ffordd y gallai’r broses Brexit effeithio ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac i helpu'r sector baratoi ar gyfer unrhyw ganlyniad posibl.

Cafodd Cronfa Bontio'r UE, sy'n werth £50m, ei sefydlu i helpu busnesau, gwasanaethau cyhoeddus ac eraill i baratoi ar gyfer effaith Brexit.

Bydd data'n cael eu casglu fel rhan o'r ymchwill ynglŷn â chyfansoddiad y gweithlu gofal cymdeithasol. O ganlyniad, bydd modd gweld a oes unrhyw ardaloedd daearyddol penodol neu swyddi penodol mewn gofal cymdeithasol sy'n arbennig o ddibynnol ar weithwyr sy'n wladolion yr UE, ac a allai cael eu heffeithio'n andwyol felly, gan ddibynnu ar y trefniadau pontio a'r polisi mudo y cytunir arnynt rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'n hanfodol cael darlun clir o gyfansoddiad y gweithlu gofal cymdeithasol a dealltwriaeth ynghylch faint o wladolion yr UE sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd i alluogi rhanddeiliaid ar draws llywodraeth leol, y sector annibynnol a'r trydydd sector, i weld a oes unrhyw feysydd sy'n arbennig o fregus. Bydd hyn hefyd o gymorth iddynt gynllunio'n briodol er mwyn sicrhau bod modd parhau i gynnig gofal. 

Bydd rhanddeiliaid yn gallu gwneud yn siŵr bod eu cynlluniau wrth gefn a'u paratoadau yn gymesur â lefel y risg bosibl. O ganlyniad, bydd y sector a'r unigolion sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd hefyd yn cael tawelwch meddwl.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol:

“Mae gofal cymdeithasol yn gyflogwr mawr ac mae'n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru. Mae mwy na 80,000 o aelodau o staff yn cael eu cyflogi yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion ar draws Cymru. Felly, mae'n flaenoriaeth drawsbynciol yn Ffyniant i Bawb, ein strategaeth genedlaethol. Mae'r gofal a'r cymorth sy'n cael eu rhoi gan y gweithlu yn amddiffyn ac yn cefnogi rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas. 

“Rhaid cofio bod amrywiol fathau o bwysau ar y sector yn barod, gan gynnwys anawsterau recriwtio a chadw staff a'r cynnydd yn y galw am ofal. Mae'r ansicrwydd y gallai Brexit ei achosi i'r gweithlu, yn arbennig i wladolion yr UE a gwladolion sy'n dod o'r tu allan i'r UE, yn gwneud yr heriau hynny'n waeth eto. Mae'n bwysig hefyd fod pob un sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol yn teimlo'n gartrefol, a'i fod yn cael ei werthfawrogi am ei waith yn rhoi gofal i bobl Cymru. Rhaid pwysleisio felly fod angen i'r Deyrnas Unedig negodi Brexit synhwyrol, un sy'n rhoi pobl, swyddi a'r economi'n flaenaf.

“Drwy sicrhau bod gennym ddata cadarn a chyflawn ar genedligrwydd sy'n edrych ar bob agwedd ar y farchnad, yn ogystal â data arall y gweithlu y gellid eu casglu'n effeithiol ar yr un pryd, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi'r sector i weld pa anghenion fydd ganddo o ran y gweithlu ar ôl Brexit, ac i gynllunio ar gyfer eu diwallu.” 


Meddai Gerry Evans, Cyfarwyddwr Reoleiddio a Gwybodaeth a Dirprwy Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

"Mae cael gweithlu medrus gyda'r gwerthoedd cywir wrth wraidd darparu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae sicrhau bod gennym weithlu o'r fath i ateb y galw cynyddol am ofal a chymorth yn un o'r prif heriau y mae'r sector yn eu hwynebu dros y degawd nesaf.

"Rydyn ni'n gwybod bod unigolion o'r UE wedi cyfrannu'n sylweddol at ddarparu gofal o ansawdd yng Nghymru a bydd yr ymchwil hon yn ein helpu i ddeall dulliau y mae angen eu mabwysiadu i gynnal ac ymestyn y gweithlu gofal cymdeithasol i'r dyfodol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y gwaith pwysig hwn dros y misoedd nesaf. "

Bydd y data a gesglir yn rhan annatod hefyd o'r gwaith o ddatblygu strategaeth y gweithlu wedi'i thargedu a fydd yn helpu i wireddu Cymru Iachach, Cynllun Tymor Hir Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.