Rydym wedi cymryd cam sylweddol ymlaen ym myd caffael a gwasanaethau masnachol i ddatblygu’r fframwaith prentisiaeth cyntaf yng Nghymru.
Mae’r fframwaith wedi’i gynllunio i greu llwybrau newydd i’r proffesiwn caffael ac i hybu’r sgiliau a’r gallu caffael y mae mawr eu hangen yng Nghymru.
Ymdrech ar y cyd
Rydym wedi gweithio gyda’n Grŵp Llywio sy’n cynnwys arbenigwyr ymroddedig o bob rhan o’r gymuned gaffael ac addysg bellach i ddatblygu’r fframwaith a pharatoi’r ffordd ar gyfer dyfodol mwy disglair ym maes caffael.
Rydym yn bwriadu datblygu fframwaith prentisiaeth Lefel 3 a Lefel 4 erbyn gwanwyn 2024. Bydd hyn yn golygu ymrwymiad sylweddol gan y Grŵp Llywio ond bydd yn dod â manteision i genedlaethau i ddod, gan agor mynediad i unigolion sy'n edrych am yrfa mewn proffesiwn cyffrous sy'n esblygu.
Cymhwyster newydd ar y gorwel i gefnogi'r brentisiaeth
Prif nod y Grŵp Llywio dros y misoedd nesaf yw creu cymhwyster modern sy'n ategu Tystysgrif Uwch Lefel 3 CIPS mewn Gweithrediadau Caffael a Chyflenwi a Diploma Lefel 4 CIPS mewn Caffael a Chyflenwi.
Gan weithio ochr yn ochr ag Open Awards, bydd y Grŵp Llywio yn datblygu cymhwyster unigryw i gefnogi'r brentisiaeth Gymreig a bydd yn rhoi sylfaen weithredol gref i brentisiaid a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ragori o fewn eu sefydliadau cyflogi priodol.
Bydd y fenter hon nid yn unig yn hwb sylweddol i ddarpar weithwyr proffesiynol caffael ond hefyd yn ddatblygiad addawol i fusnesau ledled Cymru. Drwy feithrin gweithlu mwy medrus, gallwn ddisgwyl gweld canlyniadau gwell a safon uwch o ran arferion caffael arloesol a fydd yn cefnogi dyfodol Cymru.
Galw ar y gymuned gaffael
Mae llwyddiant y prosiect hwn yn dibynnu ar gyfranogiad gweithredol a doethineb cyfunol cymuned gaffael Cymru. Rydym yn gwahodd gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr a sefydliadau i fod yn rhan o'r Grŵp Llywio.
Mae'r rhaglen brentisiaeth hon yn gyfle arbennig i unigolion ymuno â'r proffesiwn ac i weithwyr proffesiynol presennol gyfrannu at dwf y genhedlaeth nesaf.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â gallumasnachol@llyw.cymru