Mae Nerys Edwards yn rhedeg Syren Shellfish, cwmni pysgod cregyn sy’n prynu cynnyrch byw oddi wrth oddeutu 50 o bysgotwyr o Aberystwyth i Abertawe.

Yn dilyn Brexit, mae hi’n anelu i gynnal y cysylltiadau busnes presennol gyda’i phrif farchnad bresennol, sef Sbaen.

“Mae Sbaen yn bwyta llawer mwy o bysgod cregyn na’r DU. Dw i’n gweithio gyda chwmni arbennig o dda sy’n teimlo fel teulu, ac rydyn ni wedi delio â nhw ers blynyddoedd.

“Maen nhw'n gwerthfawrogi ein pysgotwyr o Gymru a’n cynnyrch o Gymru, ac mae hynny’n bwysig tu hwnt.”

Pe bai Brexit “heb gytundeb” yn digwydd, bydd yr UE yn cydnabod y DU fel “trydedd wlad”, a bydd angen i fusnesau Cymru addasu er mwyn ymdopi â nifer o newidiadau wrth allforio, gan gynnwys tariffau a gwiriadau newydd.

Serch hynny, mae Nerys yn benderfynol o fabwysiadu’r prosesau newydd hyn, gan ganiatáu iddi barhau i fasnachu gyda’r UE:

“Rydyn ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni gyfaddawdu ar dariffau, ond mae angen i mi wneud hynny ar gyfer fy mhysgotwyr, gan fy mod i’n diogelu bywoliaeth pysgotwyr.

“Hefyd mae oddeutu saith swydd ar y tir ar gyfer pob pysgotwr ar y môr, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn cadw’r cwbl yn ddiogel.”

Cyn Brexit, dylai busnesau yn y sector pysgota wneud cais am rif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwr Economaidd (EORI), sy’n broses syml y gellir ei chwblhau drwy wefan Llywodraeth y DU.

Ar gyfer pob tro y maent yn allforio ar ôl Brexit, mae’n rhaid i fusnesau wneud cais am Dystysgrifau Dalfeydd y DU, sydd, yn eu tro, yn cael eu defnyddio i greu Tystysgrifau Iechyd Allforio sy’n caniatáu i’r cynnyrch fynd i mewn i’r UE.

Bydd hefyd yn bwysig darganfod pa borthladdoedd sy’n derbyn y cynnyrch sy’n cael ei allforio.

I ddechrau roedd y system newydd yn her i Nerys, ond cafodd hynny ei oresgyn drwy feddwl yn ddyfeisgar:

“Pan rydych chi’n llwytho pysgod cregyn byw mae amser yn hollol dyngedfennol. Dw i wedi cyflogi aelod arall o staff i gofnodi’r wybodaeth o swyddfa o bell, sy’n rhywbeth na allaf i ei wneud pan wyf yn glanio ger y cei pan fo hi’n arllwys y glaw, yn ceisio gwneud y ffigurau, graddio pysgod a’u llwytho.”

“Dw i’n tynnu ffotograff o anfoneb pob pysgotwr, ac yn ei anfon ati drwy WhatsApp, fel y gall hi ei lanwytho i gyfrifiadur a chreu Tystysgrif Dalfeydd y DU. 

Mae hyn wedyn yn golygu y gallaf i gael fy Nhystysgrif Iechyd Allforio, a gall fy lori adael y cei.”

Mae gwefan Llywodraeth Cymru Paratoi Cymru yn darparu gwybodaeth i ddiwydiannau sydd angen gwneud newidiadau sylweddol i’w modelau busnes cyn i’r DU adael yr UE, gan gynnwys pysgota, cynhyrchu bwyd ac allforion.

Mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd, ac mae’n cynnwys adnoddau perthnasol fel y Rhestr wirio ar gyfer allforwyr: pysgota, a’r Pecyn Cymorth ar Brexit sy’n mesur parodrwydd busnesau ar gyfer Brexit.

“Mae cyfathrebu yn allweddol. Yn ogystal â dim ond cael amser i eistedd lawr a darllen popeth – mae eithaf tipyn ar hyn o bryd.”

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cylchlythyron yn rheolaidd gyda diweddariadau ynglŷn â sut y gall y sector pysgota baratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit, yn ogystal â’r cylchlythyron Cynllunio Morol a Busnes Cymru.

Mae Nerys yn cydnabod er bod llawer o gamau newydd sy’n rhaid eu dilyn, bydd gwneud hynny’n rhoi mwy o sicrwydd i’w busnes yn ystod y cyfnod sy’n arwain at Brexit, ac ar ei ôl.

“Dw i’n gwybod ei fod yn llyncu amser”, meddai, “Ond mae’n syndod. Pan fyddwch yn eistedd i lawr ac yn llwyddo i ddeall yr holl beth, mae’n ysgafnhau ychydig ar y pwysau oherwydd eich bod yn gwybod eich bod wedi gwneud eich gorau i baratoi.

“Os bydd pawb yn cydweithio, bydd gennym ddyfodol, ond mae angen i ni gydweithio.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn fydd angen i’ch busnes ei wneud ewch i’r gwefannau hyn:

Am ragor o wybodaeth ar y Dystysgrif Iechyd Allforio, efallai y bydd, ein herthygl ar y sector milfeddygol yn ddefnyddiol.