Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Yn yr adran hon

Fydd hyn yn cael effaith ar wasanaethau?
Cyflenwadau meddygol
Paratoi ar gyfer Brexit
Gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol
Gofal iechyd cyfatebol

Ein blaenoriaeth yw cynnal gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol diogel wrth inni baratoi i ymadael â’r UE.

Rydym yn gweithio gyda phob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru i sicrhau bod gwasanaethau wedi’u gwarchod cymaint ag y bo modd rhag unrhyw drafferthion a allai godi pe bai’r DU yn ymadael â’r UE heb gytundeb.

Mae’r paratoadau hyn wedi bod yn digwydd ar lefel leol, ar lefel Cymru ac ar lefel y DU. Rydym hefyd yn gweithio gydag uwch arweinwyr iechyd a gofal a sefydliadau iechyd cyhoeddus i asesu ac ymdrin â phryderon ym maes iechyd cyhoeddus a diogelwch iechyd.

Mae Cronfa Bontio’r UE Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid brosiectau i gefnogi iechyd a gofal yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil i’r gweithlu gofal cymdeithasol; adnoddau ychwanegol i gefnogi’r Asiantaeth Safonau Bwyd; rhaglen cydnerthedd iechyd cyhoeddus; rhaglen pontio Brexit Cyd-ffederasiwn y GIG yng Nghymru a rhaglen bontio Brexit ADSS Cymru.

Pa wasanaethau gaiff eu heffeithio?

Ar hyn o bryd, nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw effaith uniongyrchol ar wasanaethau’r GIG na gofal cymdeithasol o ddydd i ddydd. Bydd gwasanaethau lleol ac ysbytai yn parhau i weithio fel arfer ac nid ydym yn disgwyl canslo llawdriniaethau, boed wedi’u cynllunio neu’n rhai brys, os bydd Brexit heb gytundeb yn digwydd. Mae hyn yn cynnwys Damweiniau ac Achosion Brys; gofal cymdeithasol; Meddygon Teulu a deintyddion.

Sut y gallwch chi helpu?

Gallwch chi helpu’r GIG i baratoi am Brexit drwy barhau i wneud Dewis Doeth wrth benderfynu pa wasanaeth GIG sydd orau i’ch salwch neu’ch anaf. Bydd Dewis Doeth yn eich helpu i weld a oes angen sylw meddygol arnoch os ydych yn sâl. Mae’n esbonio beth mae pob gwasanaeth GIG yn ei wneud, a phryd dylid ei ddefnyddio. Mae hyn yn galluogi gwasanaethau’r GIG i helpu’r bobl sydd ei angen fwyaf. Gallwch wirio’ch symptomau ar Galw Iechyd Cymru hefyd.

A fydd prinder meddyginiaethau a chyflenwadau meddygol?

Mae llawer o sôn wedi bod yn y wasg am y pryderon na fydd moddion presgripsiwn ar gael yn sgîl Brexit heb gytundeb.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a’r diwydiant fferyllol dros y flwyddyn ddiwethaf i gynnal y cyflenwad moddion a chyffuriau i bobl os na fydd cytundeb ar gyfer ymadael â’r UE.

Gwyliwch fideo gan y Prif Swyddog Fferyllol am y cyflenwad o feddyginiaethau os na fydd cytundeb.

Posteri a thaflenni i helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i baratoi ar gyfer Brexit.

Yng Nghymru, rydym yn cymryd camau ychwanegol i baratoi ar gyfer unrhyw broblemau gyda’r cyflenwadau moddion, defnyddiau a chyfarpar meddygol. Clinigwyr ysgrifennu presgripsiwn hirach a does dim angen i bobl bentyrru moddion adref, oherwydd gallai hynny yn ei hunan amharu ar y cyflenwadau.

Dylai pobl ddal ati i wneud yr hyn y maent wastad wedi’i wneud. Mae hynny’n golygu dim ond archebu presgripsiynau pan fo’u hangen, cael y meddyginiaethau yn y ffordd arferol a dal ati i’w cymryd yn unol â chyfarwyddiadau’r presgripsiwn.

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich moddion neu eich presgripsiwn rheolaidd, siaradwch â’ch fferyllydd lleol yn y lle cyntaf.

Cyflenwad o radioisotopau

Mae pryder wedi bod hefyd y bydd prinder posibl yn y radioisotopau a ddefnyddir ar gyfer diagnosis a thriniaeth canser os na fydd y DU yn rhan o Euratom. Oherwydd hanner-bywyd yr isotopau, nid oes modd pentyrru stoc wrth gefn. Fel arfer, caiff radioisotopau eu mewnforio dros nos o gyfandir Ewrop drwy Dover a’u dosbarthu gan ddefnyddio ein priffyrdd. Mae hyn yn ddibynnol ar drefniadau tollau dirwystr a chludiant dilyffethair rhwng cyfandir Ewrop a’r DU.

Mae Llywodraeth y DU, fel rhan o’u rhaglen cyflenwi moddion, yn gweithio i leihau’r perygl o amharu ar y cyflenwad radioisotopau a sicrhau cyflenwad dibynadwy.

Sut y mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn paratoi ar gyfer Brexit

Mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau lleol wedi adoylgu eu cynlluniau cydnerthedd presennol yng nghyd-destun Brexit heb gytundeb ac maen nhw’n gweithio gyda’u partneriaid yn eu fforymau cydnerthedd lleol. Caiff y cynlluniau hyn eu profi fel rhan o baratoadau ehangach y gwasanaethau cyhoeddus.

Yr awdurdodau lleol a’r darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol a thrydydd sector sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn cydweithio’n agos â nhw i gydlynu’r paratoadau am Brexit heb gytundeb.

Mae Cyd-ffederasiwn y GIG yng Nghymru wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin am Brexit ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ar gyfer y bobl sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Maent hefyd yn cynhyrchu bwletin wythnosol gyda'r newyddion diweddaraf a diweddariadau. Gallwch danysgrifio i dderbyn y bwletin hwn drwy ymweld â'u gwefan.

DU: Pobl o’r UE sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mae dinasyddion yr UE bob amser wedi cael croeso yng Nghymru, a bydd y croeso hwnnw’n parhau. Mae gweithwyr o’r UE yn bwysig iawn i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad yn fawr.

Gall dinasyddion yr UE a’u teuluoedd sy’n byw yn y DU wneud cais am gynllun Statws Preswylydd Sefydlog y Swyddfa Gartref. Bydd hyn yn golygu y gallant ddal ati i fyw a gweithio yng Nghymru ar ôl Brexit.

Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, â staff o’r UE neu’n recriwtio o’r UE, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch paratoi i ymadael â’r UE i roi cyngor a gwybodaeth i unigolion a busnesau am y paratoadau a’r camau y gallai fod angen iddynt eu cymryd.

Cymru: Pobl o’r UE sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Yn gynharach eleni, comisiynwyd Ipsos Mori gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil i edrych ar gyfansoddiad y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru i helpu i nodi faint o bobl o'r UE sy'n cael eu cyflogi yn y sector, er mwyn rhoi cefnogaeth iddyn nhw ac i'w cyflogwyr. Amcangyfrifwyd yn yr adroddiad bod 6.4% o staff o fewn lleoliadau gofal cymdeithasol cofrestredig a 4.5% o staff o fewn gwasanaethau gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn bobl o'r UE nad ydynt yn dod o'r DU. Mae hyn yn dangos bod pobl o'r UE yn cyfrif am ran gymharol fach, ond rhan bwysig o'r gweithlu. Fodd bynnag, wrth edrych ar y sefyllfa yng nghyd-destun ehangach heriau staffio presennol y sector, mae'r adroddiad yn dangos y bydd effaith y DU yn ymadael â'r UE yn debygol o roi fwy o bwysau ar y gweithlu.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd parhau i gydnabod cymwysterau proffesiynol y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU a’r UE fel ei gilydd. Bydd hyn yn gymorth i weithwyr proffesiynol symud i weithio yng ngwahanol wledydd Ewrop.

Os bydd Brexit yn digwydd heb gytundeb, rydym yn disgwyl y bydd cymwysterau presennol Ewropeaidd a rhyngwladol yn dal i gael eu cydnabod am gyfnod penodol. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen ar gyfer hyn.

Trefniadau gofal iechyd cyfatebol rhwng yr UE a’r DU

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig (y DU) wrthi'n edrych ar y trefniadau ar gyfer gofal iechyd cyfatebol i'r dyfodol. Mae'r hawliau gofal iechyd cyfatebol sydd gennym ar hyn o bryd fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd (yr UE) yn cynnwys:

  • mae gan unigolion sy'n derbyn pensiwn y wladwriaeth hawl llawn i ofal iechyd yn y wlad y byddant yn ymddeol iddi
  • mae'r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) am ddim yn rhoi'r hawl i ofal iechyd brys i bobl sy'n ymweld ag aelod-wladwriaeth arall dros dro
  • gall gweithwyr sydd wedi'u hanfon dramor a gweithwyr ar draws ffiniau fanteisio ar hawliau gofal iechyd lleol
  • gall cleifion yn y DU arfer eu hawliau i driniaeth feddygol a gynlluniwyd mewn gwlad arall yn yr UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • gall cleifion yn y DU brynu gwasanaethau gofal iechyd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a gwneud cais am ad-daliad gan y DU.

Ar 23 Medi 2019, ymrwymodd Llywodraeth y DU i ariannu gofal iechyd ar gyfer dros 180,000 o wladolion y DU sy'n byw yn yr UE am y chwe mis cyntaf ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

Bydd Llywodraeth y DU yn talu costau iechyd pobl sy'n byw yn yr UE ac y mae eu gofal iechyd wedi'i ariannu gan y DU, gan gynnwys pensiynwyr a myfyrwyr. Mae'r ymrwymiadau eraill yn cynnwys:

  • Talu costau gofal iechyd myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn yr UE cyn 31 Ionawr 2020, a hynny drwy gydol cyfnod eu cwrs.
  • Talu costau gofal iechyd ymwelwyr o'r DU i'r UE a ddechreuodd eu taith cyn i'r DU ymadael â'r UE, nes iddynt ddychwelyd i'r DU.    
  • Talu costau gofal iechyd gwladolion y DU yn yr UE a all fod ynghanol eu triniaeth pan fyddwn yn ymadael â'r UE, a hynny am hyd at flwyddyn. 
  • Sicrhau y gall pobl sydd wedi'u hyswirio gan y DU ar hyn o bryd, ond sy'n byw yn yr UE, ddychwelyd i ddefnyddio'r GIG am ddim dros dro yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

I gael rhagor o wybodaeth gall pobl gysylltu â'r Gwasanaethau Gofal Iechyd Dramor yn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG drwy ffonio +44 (0)191 218 1999 ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm a dydd Sadwrn 9am-3pm (amser y DU).

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu cydnabod a’u cynrychioli'n briodol.

Gofal iechyd cyfatebol i ddinasyddion yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir sy'n byw yng Nghymru ar ôl ymadawiad y DU â’r UE

Gwybodaeth am ofal iechyd i ddinasyddion gwledydd yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir sy'n byw yng Nghymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Os ydych chi'n byw yn y DU cyn yr ymadawiad â’r UE, gwnewch yn siŵr:

Cael gofal iechyd yng Nghymru

Mae'r adran hon yn ymwneud â chael gofal iechyd yng Nghymru. Byddwch yn gallu cael triniaeth am ddim gan y GIG yng Nghymru nes bydd y DU yn ymadael â'r UE os ydych yn breswylydd fel arfer yng Nghymru neu os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. I gael eich ystyried yn breswylydd fel arfer, mae'n rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru yn gyfreithlon ac ar sail sefydlog ar hyn o bryd. Efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth o hyn.

Os ydych chi'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru ar y diwrnod ymadael, gallwch ddefnyddio'r GIG yng Nghymru fel yr ydych yn awr, ar ôl y dyddiad hwnnw. Os nad ydych yn breswylydd fel arfer yng Nghymru, byddwch yn ymwelydd tramor ac efallai y codir tâl arnoch am wasanaethau'r GIG.

Mae llywodraeth y DU yn ceisio cytuno ar drefniadau gofal iechyd cyfatebol naill ai gyda'r UE neu gyda gwledydd unigol os bydd Brexit heb gytundeb. Mae gofal iechyd cyfatebol yn darparu triniaeth feddygol frys, yn syth neu wedi'i gynllunio, am bris rhatach neu am ddim mewn rhai achosion.

Os ydych chi'n symud i'r DU ar ôl y diwrnod ymadael ac nad oes cytundeb, dylech wirio gyda'ch awdurdod yswiriant iechyd beth sydd wedi'i gytuno.

Cytundeb gyda Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir

Mae'r DU wedi cytuno ar drefniadau hawliau i ddinasyddion gyda Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir a fydd yn berthnasol os bydd y DU yn ymadael â’r UE heb gytundeb. Golyga'r cytundebau hyn y gall dinasyddion y gwledydd hyn sy'n byw yn gyfreithlon yn y DU ar y diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE ddefnyddio'r GIG yn yr un modd ag y maent yn awr.

Nid yw'r cytundebau hyn yn berthnasol i ddinasyddion o'r gwledydd hyn sy'n symud i'r DU ar ôl y diwrnod ymadael â’r UE.

Rhagor o wybodaeth am Gytundeb Hawliau Dinasyddion y Swistir

Rhagor o wybodaeth am Gytundeb Hawliau Dinasyddion Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein)

Cytundeb gydag Iwerddon

Bydd dinasyddion Iwerddon sy'n byw yn y DU, a dinasyddion Prydeinig sy'n byw yn Iwerddon, yn parhau i fod â hawl i ofal iechyd yn y wlad y maent yn byw ynddi ar ôl Brexit. Y rheswm dros hyn yw'r cytundebau hirdymor o dan yr Ardal Deithio Gyffredin.

Rhagor o wybodaeth am yr Ardal Deithio Gyffredin rhwng y DU ac Iwerddon

Astudio yng Nghymru

Gallwch barhau i ddefnyddio eich EHIC neu'ch Tystysgrif Cerdyn Dros Dro (PRC) i gael gofal iechyd am ddim gan y GIG os ydych wedi dechrau cwrs addysg neu hyfforddiant yng Nghymru cyn i'r DU ymadael â'r UE. Bydd hyn yn berthnasol tan ddiwedd eich cwrs, hyd yn oed os yw'n gorffen ar ôl y diwrnod ymadael.

Os ydych yn dechrau'ch cwrs addysg neu hyfforddiant yng Nghymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, efallai na fydd eich EHIC yn ddilys. Dylech brynu yswiriant iechyd fel y byddech pan yn ymweld â gwlad arall nad yw yn yr UE.

Ni fyddai hyn yn effeithio ar hawliau unigolion dan y cytundebau hawliau dinasyddion gyda'r Swistir, Norwy a Liechtenstein.

Tystysgrif S1

Dan yr hawliau cyfredol, mae tystysgrif S1 yn eich helpu chi a'ch dibynyddion i gael hawl i ofal iechyd pan rydych yn byw yn y DU.

Os ydych chi'n byw yng Nghymru ar y diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE, bydd eich S1 yn parhau i fod yn ddilys yng Nghymru ar ôl y dyddiad hwnnw.

Gallwch wneud cais am dystysgrif S1 hyd nes bydd y DU yn ymadael â'r UE. Ond, efallai na fydd yn ddilys os ydych yn cyrraedd Cymru ar ôl y diwrnod ymadael, gan ddibynnu ar ba drefniadau a wnaed gyda'r UE neu wledydd unigol.

Gallech fod yn gymwys i gael tystysgrif S1 os ydych:

  • wedi gweithio a thalu cyfraniadau yng ngwledydd eraill yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu'r Swistir
  • yn cael budd-daliadau penodol, fel pensiwn, gan wledydd yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu'r Swistir

Dylech wneud cais i'r awdurdod yswiriant iechyd yn y wlad berthnasol, os ydych chi'n gymwys. Mae'n rhaid i chi gofrestru eich S1 yng Nghymru i gael mynediad at ofal y GIG yn yr un modd â rhywun sy'n breswylydd fel arfer.

Os ydych chi'n ddinesydd o Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu'r Swistir ac yn byw yn y DU ar y diwrnod ymadael, bydd eich S1 yn parhau i fod yn ddilys ar ôl y dyddiad hwnnw oherwydd cytundebau hawliau dinasyddion gyda'r gwledydd hynny. Os nad oes gennych chi S1, gallwch wneud cais i'ch awdurdod yswiriant iechyd am S1 hyd yn oed ar ôl y diwrnod ymadael.

Diogelu data

Yn dilyn Brexit, bydd y rheolau ynghylch sut mae data personol yn llifo rhwng yr UE a'r DU yn newid. Ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth i ddarganfod mwy am sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi neu'ch sefydliad.

Nesaf: addysg a sgiliau >