Busnes a’r economi

Yn yr adran hon

Y Cyfnod pontio/gweithredu
Cymorth i fusnesau
    Porthol Brexit
    Allforio a masnach
    Masnach a buddsoddi
    Banc Datblygu Cymru
    Sgiliau
    Cefnogi gweithwyr sy’n ddinasyddion yr UE
Bwyd a diod
Caffael
Diogelu data

Y Cyfnod pontio/gweithredu

Yn ystod y cyfnod pontio, bydd y DU yn parhau i weithredu fel pe bai’n Aelod Wladwriaeth o'r UE ond ni fydd yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau'r UE. Bydd y DU yn dal yn rhan o’r undeb tollau a’r farchnad sengl, ac ni fydd rhyddid pobl i symud yn newid. Bydd busnesau yn gallu masnachu gyda’r UE fel y maent yn awr hyd nes daw’r cyfnod pontio i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Cymorth i fusnesau

Porthol Brexit

Oni bai fod y DU a’r UE yn cytuno ac yn llofnodi cytundeb cyn 31 Rhagfyr 2020, mae Brexit heb gytundeb yn dal yn bosibilrwydd. Mae’n bwysig bod busnesau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a chymryd y camau angenrheidiol. Mae Porthol Brexit Busnes Cymru yn dal yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i helpu busnesau i bwyso a mesur beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit.

Mae’n hanfodol bod busnesau’n gwbl ymwybodol o’r camau paratoi priodol a’r ffynonellau o gymorth ychwanegol. Busnes Cymru yw’r pwynt cyswllt canolog i fusnesau ac entrepreneuriaid ar gyfer cyngor a chymorth gan y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r Porthol Brexit neu ffoniwch 0300 060 3000.

Mae tîm Busnes Cymru yn barod i’ch helpu chi a’ch cwmni dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf gan gynnig cymorth amrywiol i helpu cwmnïau i baratoi am yr heriau allweddol, gan gynnwys:

  • cadw’r busnes sydd gennych eisoes gyda’r UEU
  • datblygu marchnadoedd newydd
  • datblygu capasiti a’r gallu i lwyddo wrth fasnachu ar ôl Brexit.

Mae llawer o fusnesau eisoes wedi llunio cynlluniau wrth gefn, ond dydy rhai heb ddechrau eto. Mae dros chwarter miliwn o fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru yn cyflogi bron i 750,000 o bobl. Amcangyfrifir bod eu trosiant blynyddol yn £46 biliwn.

Allforio a masnach

Mae allforion yn rhan hollbwysig o economi Cymru ac rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau i ddal ati i fasnachu dros y byd i gyd ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Bydd hyn yn bwysicach byth os yw’r DU yn ymadael heb gytundeb.

Mae cymorth cynhwysfawr ar gael drwy Busnes Cymru i helpu cwmnïau i bennu’r camau i’w cymryd, beth bynnag fo’u profiad o allforio neu faint eu busnes, er mwyn ymdopi â’r heriau economaidd ar ôl Brexit.

Gwyddom y bydd y materion yn amrywio o gwmni i gwmni. Rydym am sicrhau bod busnesau’n gallu manteisio ar y deallusrwydd gorau, yr wybodaeth dechnegol a’r cyngor sydd ei angen i ddatblygu cyfleoedd allforio newydd.

Mae Parth Allforio Busnes Cymru yn llawn gwybodaeth a chyngor o bob math am allforio.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi sawl hysbysiad technegol ynghylch newidiadau i drefniadau mewnforio ac allforio ar ôl Brexit.

Mae’n cynnwys camau gweithredu y gall busnesau eu cymryd nawr i baratoi ar gyfer Brexit, megis:

  • deall beth fydd effaith y newidiadau tebygol i drefniadau tollau tramor a chartref ar eu busnesau yng ngoleuni’r hysbysiad technegol hwn
  • ystyried faint o fasnachu a wneir gyda’r UE ac unrhyw effeithiau posibl ar y gadwyn gyflenwi, er enghraifft trafod â busnesau eraill yn y gadwyn gyflenwi i sicrhau bod y gwaith cynllunio angenrheidiol yn digwydd ar bob lefel
  • dylai busnesau ystyried effaith eu rôl nhw yn y gadwyn gyflenwi ar bartneriaid yn yr UE. Os bydd Brexit heb gytundeb ac os na fydd Cytundeb Masnach Rydd (FTA) wedi’i sefydlu rhwng y DU a’r UE, bydd ein masnach â’r UE yn gorfod digwydd ar delerau di-ffafriaeth Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Mae hyn yn golygu y byddai nwyddau rhwng y DU a’r UE yn cael tariffau dan statws Cenedl a Ffefrir Fwyaf (MFN) ac y byddai rheolau tarddiad di-ffafriaeth mewn grym.
  • os bydd angen, dylai busnesau ail-negodi telerau masnachol i adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y drefn Tollau Tramor a Chartref ac unrhyw dariffau newydd a osodir ar fasnach rhwng y DU a’r UE. Dylent hefyd ymgyfarwyddo â’r prosesau allweddol ar gyfer mewnforio ac allforio y tu allan i’r UE
  • dylai busnesau ystyried sut byddant yn cyflwyno datganiadau tollau ar gyfer masnachu â’r UE os bydd Brexit heb gytundeb, ac a ddylent benodi brocer tollau, cwmni anfon nwyddau neu ddarparwr logisteg i helpu. Fel arall, dylent gael y feddalwedd a’r awdurdodiadau priodol.
  • cofrestrwch i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Adael yr UE gan CThEM

Masnach a buddsoddi

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi busnesau drwy ein rhwydwaith ehangach o weithrediadau tramor. Mae’r cymorth hwn ar gael ar ein gwefan Masnach a Buddsoddi. Mae’r wefan yn egluro sut y byddwn yn helpu cwmnïau i ganfod marchnadoedd newydd ac arddangos Cymru fel cyrchfan ar gyfer masnach a buddsoddi.

Banc Datblygu Cymru

Gwyddom mai un o’r prif bryderon sydd gan fusnesau yn sgîl Brexit heb gytundeb yw y gallai problemau yn y gadwyn gyflenwi a masnach yn gyffredinol amharu ar gyfalaf gweithio a llif arian.

Mae Banc Datblygu Cymru, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn ffynhonnell posibl o gymorth ariannol mewn amgylchiadau o’r fath. Mae gan Fanc Datblygu Cymru Gronfa Buddsoddi Hyblyg gwerth £130 miliwn sy’n cynnig benthyciadau busnes o hyd at £5 miliwn mewn un cylch cyllido, a hyd at 10 mlynedd o gyfnod ad-dalu.

Sgiliau

Bydd diogelu a chadw gweithlu medrus yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol, ar ôl mis Rhagfyr 2020. Mae gwaith ymchwil wedi dangos mai ansawdd y bobl mewn busnes yw’r gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu - mae gwella sgiliau’r gweithlu yn fuddsoddiad yn y dyfodol. Mae ein Porth Sgiliau ar gael i helpu busnesau i wella sgiliau ac mae ein Cynllun Cyflogadwyedd wedi ei lunio i ysgogi pob rhan o’r llywodraeth i weithio dros sicrhau cyflogaeth gynaliadwy i bobl.

Cefnogi gweithwyr sy’n ddinasyddion yr UE

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi ysgrifennu at fusnesau yng Nghymru yn ddiweddar i roi gwybod iddynt am hawliau dinasyddion yr UE a’r cymorth sydd ar gael iddynt. Gellir gweld y llythyr yma.

Bwyd a diod

Lluniwyd yr ap cerdyn sgorio Brexit i gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru ar ôl Brexit. Mae’r ap diagnostig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf un am y diwydiant ac yn helpu busnesau i ymateb i heriau a chyfleoedd Brexit. Mae hefyd yn galluogi busnesau i adolygu eu cryfderau a’u gwendidau ar unrhyw adeg a meincnodi eu hunain o fewn y diwydiant. Mae ein hasiant darparu Cywain yn cynnig mynediad at yr ap Parodrwydd Busnes hwn. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Bwyd a Diod Busnes Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Y sector bwyd a diod a pharatoi ar gyfer gadael yr UE ar GOV.UK

Caffael yn y sector cyhoeddus

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid eraill i geisio sicrhau nad yw trefniadau caffael y sector cyhoeddus yn newid rhyw lawer os bydd Brexit heb gytundeb. Bydd y rheolau caffael yn aros yr un fath ar y cyfan ac ni fydd trothwyon yn newid.

Y prif newid fydd cyhoeddi hysbysiadau am gontractau newydd ar wasanaeth e-hysbysu yn y DU yn hytrach na thrwy’r hysbysiad Ewropeaidd OJEU/Tendrau Electronig Dyddiol. Bydd hyn yn parhau i ddigwydd trwy GwerthwchiGymru, felly fydd fawr ddim yn newid i’r defnyddwyr. Gwasanaeth ar-lein am ddim yw GwerthwchiGymru, sy’n helpu cyflenwyr i gael hyd i gyfleoedd a chontractau busnes o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Caffael yn y sector cyhoeddus ar ôl Brexit heb gytundeb ar GOV.UK

Diogelu data

A yw data eich cwmni (e.e cofnodion cwsmeriaid, cyfrifon, gwybodaeth reoli) yn cael eu cadw yn y Cwmwl? Os ydyw, ewch i’r dudalen Diogelu Data – mae hyn yn bwysig.

Nesaf: iechyd a gwasanaethau cymdeithasol >