Addysg a sgiliau

Yn yr adran hon

Pa wasanaethau gaiff eu heffeithio?
Pobl o’r UE sy’n gweithio neu’n astudio yng Nghymru
Cyllido

Pa wasanaethau gaiff eu heffeithio?

Mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio’n agos â’r sector addysg i asesu a lleddfu effaith posibl ‘Brexit heb gytundeb’ ar ysgolion, sefydliadau addysg bellach a’n prifysgolion.

Er na ddylai ysgolion weld unrhyw effaith uniongyrchol ar y dechrau, mae’n bosibl y bydd materion yn codi yn y sectorau eraill ac yn achosi effaith ganlyniadol. Rydym yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i baratoi am y rhain ymlaen llaw er mwyn gallu cynnal y gwasanaethau i ddysgwyr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy ddarllen ein canllawiau i ysgolion yng Nghymru.

Ni ddylai sefydliadau Addysg Bellach wynebu unrhyw effeithiau yn syth ar ôl gadael yr UE ond rydym yn monitro a gweithio gyda’r sector i baratoi. Yn y tymor hirach ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, rydym wedi dweud yn glir y bydd yn rhaid i’n colegau gael arian i gymryd lle’r cyfan o’r cyllid UE y buont yn elwa arno er mwyn dal ati i feithrin sgiliau cryf a lledaenu cyfleoedd yng Nghymru.

Mae sector Addysg Uwch Cymru’n falch o’i gysylltiadau byd-eang ac rydym yn ategu safbwynt arweinwyr ein prifysgolion, sef bod ymadael â’r UE heb gytundeb yn un o’r bygythiadau mwyaf erioed i’n prifysgolion. Maen nhw’n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru, i swyddi, gwasanaethau cyhoeddus ac i’n diwylliant ac mae’n hollbwysig eu gwarchod.

Yn fuan ar ôl refferendwm yr UE, sefydlodd Llywodraeth Cymru weithgor Addysg Uwch ar Brexit i roi cyngor am oblygiadau Brexit i’r sector Addysg Uwch yng Nghymru.

I gefnogi ein prifysgolion rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) er mwyn ei helpu i ddelio â goblygiadau pontio o’r UE ac rydym wedi ariannu partneriaethau rhyngwladol mewn nifer o farchnadoedd pwysig gan gynnwys yr UDA a Fietnam.

Rydym wedi cyhoeddi’r cyngor i helpu dinasyddion y Deyrnas Unedig sy’n astudio yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd: Canllawiau ar gyfer gwladolion y DU yn astudio yn yr UE, os bydd y DU yn gadael yr UE heb fargen ar LLYW.CYMRU.

Rydym wedi dweud yn glir y byddwn yn parhau i groesawu pobl o’r UE i weithio neu astudio yng Nghymru

Ers 30 Mawrth 2019, gall dinasyddion yr UE a’i teuluoedd wneud cais am Gynllun Statws Preswyl y Swyddfa Gartref. Bydd hyn yn eu galluogi i fyw a gweithio yng Nghymru ar ôl Brexit.

Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, â staff o’r UE neu’n recriwtio o’r UE, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:

  • EU citizens in the UK – Stay Informed, mae hwn yn rhoi gwybodaeth am y cytundeb ar hawliau dinasyddion a’r Cynllun Preswylio i ddinasyddion yr UE yn y DU.
  • os yw dinasyddion yr UE eisiau aros yn y DU tu hwnt i 31 Rhagfyr 2020, bydd angen iddyn nhw ac aelodau agos eu teulu wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Agorodd y cynllun ar 30 Mawrth. Ewch i gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
  • mae pecyn wedi ei lansio i roi offer a gwybodaeth i gyflogwyr gefnogi dinasyddion yr UE a’u teuluoedd gyda’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog.

Bydd dinasyddion yr UE sy’n bwriadu astudio yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2019-20 yn gymwys i dalu’r un ffïoedd dysgu â myfyrwyr Cymru ac yn gymwys hefyd i gael benthyciadau neu grantiau gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Byddant yn gymwys i gael cymorth hyd at ddiwedd eu cwrs.

Dylai myfyrwyr o’r UE siarad â swyddfa gyllid eu prifysgol neu ymweld â gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

I amddiffyn addysg uwch yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y dylai Llywodraeth y DU:

  • aros yn rhan o Horizon 2020 a chynlluniau ymchwil eraill yr UE
  • cael trefniadau cyfatebol ar gyfer ffioedd dysgu myfyrwyr fel bod myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn yr UE yn talu’r lefelau ffioedd lleol a’r myfyrwyr o’r UE sy’n astudio yng Nghymru yn cael eu trin fel myfyrwyr o’r DU at ddibenion ffioedd a chostau astudio
  • aros yn rhan o’r cynllun Erasmus+ i gyfnewid staff a myfyrwyr
  • gwarantu statws dinasyddiaeth a fisa pobl o’r UE sy’n gweithio ym mhrifysgolion y DU
  • peidio â chynnwys myfyrwyr yn yr ystadegau mudo cenedlaethol
  • cael prifysgolion Cymru i gymryd rhan yn y cynllun fisa gwaith ar ôl astudio sy’n cael ei beilota ar hyn o bryd mewn pedair prifysgol yn Lloegr
  • hyrwyddo mwy o symudedd tuag allan ym mhlith y myfyrwyr a staff sy’n astudio ym mhrifysgolion Cymru.

Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, cadarnhaodd y Swyddfa Gartref y byddai cynllun peilot y fisa gwaith ar ôl astudio yn cael ei ymestyn i ddwy brifysgol yng Nghymru – Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (campws Abertawe). Rydym am weld hyn yn cael ei estyn i bob sefydliad yng Nghymru.

Mae ein gallu i aros yn rhan o Horizon 2020 ac Erasmus ar ôl Ionawr 2021 yn dibynnu ar y berthynas economaidd gyda’r UE ac a fydd Llywodraeth y DU yn ennill yr hawl, ar ran y DU, i gymryd rhan yn y rhaglenni hyn fel ‘trydedd wlad’.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Horizon 2020, gan gynnwys manylion am y gwarant; yr estyniad i’r gwarant a sut bydd y DU yn parhau i gefnogi ymchwil ac arloesi ar ôl ymadael â’r UE.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithredu ei gwarant ariannu i’r UE ar gyfer Erasmus+.

Rydym yn dal i geisio cadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn darparu arian i gymryd lle’r ffynhonellau cyllid ymchwil y gallem gael ein cau allan ohonynt pan fydd y DU yn ymadael â’r UE. Yn benodol, rydym yn aros am sicrwydd pendant, os na fydd y DU yn gallu bod yn rhan o gynlluniau cyllid y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a Marie Sklodowska-Curie Actions, sy’n cefnogi ymchwil arloesol ar lefel byd-eang, y bydd opsiynau cyllido eraill, o’r un lefel, yn cael eu creu.

Rydym wedi croesawu uchelgais a rennir rhwng Llyowdraeth y DU a’r UE i gael cytundeb yn y dyfodol a fydd yn cydnabod cymwysterau proffesiynol cilyddol (MRPQ). Bydd hyn yn helpu’r sectorau AB ac AU i ddenu myfyrwyr rhyngwladol.

Os bydd Brexit yn digwydd heb gytundeb, mae perygl y gallai rhai busnesau wneud prentisiaid yn ddi-waith. Os bydd hynny’n digwydd, bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i gael hyd i gyflogwyr eraill a fydd yn fodlon cefnogi’r brentisiaeth a byddwn yn cefnogi’r prentis yn ystod y broses honno.

Yn dilyn Brexit, bydd y rheolau ynghylch sut mae data personol yn llifo rhwng yr UE a'r DU yn newid. Ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth i ddarganfod mwy am sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi neu'ch sefydliad.

Mynediad i addysg uwch, cyllid addysg bellach a phrentisiaethau yng Nghymru

Os gwladolyn y Deyrnas Unedig (DU) ydych sy'n byw yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ond sydd heb fyw yn y DU erioed

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i barhau i ganiatáu mynediad i statws ffioedd cartref, cymorth i fyfyrwyr a mynediad i Addysg Bellach a phrentisiaethau pe byddai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb am gyfnod pontio o saith mlynedd.

Yng Nghymru, byddwn yn parhau i groesawu pobl o'r UE, gan gynnwys gwladolion y DU sy'n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu yn y Swistir, i weithio neu i astudio yng Nghymru.

Rydym am roi sicrwydd na fydd ymadawiad y DU o'r UE yn effeithio ar wladolion y DU sy'n byw yn yr AEE neu yn y Swistir ar hyn o bryd, ar fod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr nac ar fynediad i addysg bellach a phrentisiaethau yng Nghymru am o leiaf 7 mlynedd pe byddai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb.

I gael gwybodaeth bellach, dylech gysylltu â'r corff ariannu perthnasol i fyfyrwyr ar gyfer y wlad yn y DU y dymunech astudio ynddi am ragor o wybodaeth ynghylch a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol i fyfyrwyr.

Rhagor o wybodaeth

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Nesaf: amgylchedd ac amaethyddiaeth >