Neidio i'r prif gynnwy

Mae yr Athro Christianne Glossop, sy'n gyfrifol am y polisi iechyd anifeiliaid a lles yng Nghymru, yn pwysleisio'r angen i berchnogion anifeiliaid ddilyn yr holl wiriadau cyfreithiol angenrheidiol wrth fynd â'u hanifeiliaid anwes a'u da byw dramor:

"Os ydych yn dewis anfon neu fynd ag anifail dramor, yna mae'n rhaid ichi ystyried y risgiau a'r hyn sy'n ymarferol, ac yn bwysicaf oll, ofynion cyfreithiol symud yr anifail.

"Mae cyfreithiau ar gael i ddiogelu iechyd y wlad y mae anifail yn ei gyrraedd, ac mae'n rhaid ichi hefyd ystyried iechyd y wlad y mae'r anifail yn dychwelyd iddi os bydd yn gwneud hynny."

Teithio gydag anifeiliaid anwes

Gan ei bod yn parhau i fod yn aelod o'r UE, mae'r DU ar hyn o bryd yn defnyddio'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes, sy'n caniatáu i'w dinasyddion gludo eu cŵn, cathod a'u ffuredau i'r UE (a rhai gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE) a'u dychwelyd i'r DU heb fod angen cwarantin.

Meddai Christianne:

"Pe byddem mewn sefyllfa o Brexit “heb gytundeb. Yna, y diwrnod wedi inni ymadael â'r UE, ni fydd Pasbort Anifeiliaid Anwes yr UE, sy'n dilysu statws iechyd a brechu anifail, bellach yn ddilys ar gyfer cael mynd i’r UE.

"Byddai felly'n cymryd o leiaf pedwar mis i baratoi anifail anwes, o ran brechu a'r holl waith papur sydd ei angen iddo deithio i, dyweder Ffrainc neu'r Almaen. 

Mae Christianne yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i berchnogion anifeiliaid anwes ystyried y cyfnod hwn wrth gynllunio i symud eu hanifeiliaid anwes allan o'r DU ac yn ôl dros y misoedd nesaf:

“Os oes gennych wyliau ar y gweill ychydig cyn i ni adael yr UE, gallwch deithio gyda'ch anifail anwes i wledydd yn yr UE yn eithaf cyfreithiol o dan y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes.

“Os byddwch y tu allan i’r wlad pan fydd y DU yn ymadael â’r UE, bydd Pasport Anifail Anwes a roddwyd yn yr UE neu’r DU cyn Brexit yn parhau’n ddilys ar gyfer dod yn ôl i mewn i’r DU.

"Bydd gan pob milfeddyg anifeiliaid anwes yr holl wybodaeth sydd ei hangen, a bydd modd iddynt eich arwain wrth iddynt gymryd eich anifail drwy'r broses honno."

Gallwch weld yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio gydag anifail anwes yma.

Cludo da byw

Er na fydd unrhyw newidiadau i statws iechyd na bwyd yn y DU yn union wedi Brexit, bydd busnesau sy'n masnachu da byw a chynnyrch sy'n dod o anifeiliaid gyda'r UE yn gweld newidiadau sylweddol i'r broses allforio.

"Nid yw statws iechyd poblogaeth da byw y DU yn mynd i newid dros nos. Felly mae’n rhesymol y bydd gennym ni statws iechyd cyfatebol ar Ddiwrnod Un.

"Ond bydd lefel y gwiriadau milfeddygol a'r ardystiadau fydd eu hangen i allforio anifeiliaid yn llawer mwy llym."

Y newid pwysicaf i fusnesau fydd y Dystysgrif Iechyd Allforio bresennol, y mae'n rhaid i filfeddyg ei chyhoeddi cyn y gall da byw gyrraedd yr UE.

"Bydd y Dystysgrif Iechyd Allforio ar gyfer pob llwyth bellach. Felly os ydych yn anfon ŵyn i dair cyrchfan wahanol, yna byddai angen tri set o dystysgrifau. Os ydych yn anfon o wahanol ffermydd, byddai angen tystysgrifau ar wahân arnoch eto.

"Rydyn ni wedi gwneud yn siŵr bod 87 o filfeddygon ychwanegol yn cael eu hyfforddi yng Nghymru i gynhyrchu'r tystysgrifau ar gyfer allforio cynnyrch anifeiliaid, gan ein bod yn rhagweld y bydd cynnydd sylweddol."

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae gan wefan Llywodraeth Cymru Paratoi Cymru wybodaeth ar gyfer y rhai hynny sydd am gludo eu hanifeiliaid anwes i'r UE yn dilyn Brexit, yn ogystal ag ar gyfer diwydiannau sy'n masnachu da byw a chynnyrch sy'n dod o anifeiliaid.

Yn y ddwy sefyllfa, mae Christianne yn awgrymu sicrhau bod gennych yr  wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), fel y caiff ei gyhoeddi.

"Peidiwch â thrafod hyn gyda'ch cymydog. Ewch i ffynhonnell y cyngor, gan gadw golwg ar bethau, gan eu bod yn newid."

Caiff Paratoi Cymru ei diweddaru yn rheolaidd, ac mae'n cynnwys ffynonellau perthnasol megis Pecyn Cymorth Brexit, sy'n mesur pa mor barod yw busnesau ar gyfer Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi diweddariadau pellach ar sut y gall busnesau baratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys Gwlad a bwletinau Pysgodfeydd a Brexit, yn ogystal â Cyswllt Ffermio a chylchlythyrau Busnes Cymru.

Mae Christianne yn cydnabod bod dilyn y camau newydd hyn yn heriol, ond eu bod yn hanfodol i gynnal parhad busnes, ac i gludo anifeiliaid anwes:

"Yn gyntaf, mae angen i bobl ystyried yr hyn y byddant ei angen o bosibl. Os ydynt yn allforio ar hyn o bryd neu'n masnachu gyda'r UE, yna dylai hynny fod yn rhybudd iddynt y bydd angen iddynt wneud cynllun nawr. 

"Os ydynt yn bwriadu mynd dramor gyda'u hanifeiliaid, mae angen iddynt ystyried hynny nawr.

"Mae angen i bobl siarad â'u llawfeddygon eu hunain - dwi'n credu mai dyna'r peth callaf i ddweud."

Mae angen ichi wybod mwy am yr hyn y bydd yn rhaid i chi, fel perchennog anifail anwes, ei wneud drwy fynd i'r tudalennau gwe hyn:

Am ragor o wybodaeth am allforio da byw, efallai y byddai ein herthygl ar y sector ffermio yn ddefnyddiol.