Neidio i'r prif gynnwy

Camau syml i gadw’n iach ac i leihau'r galw ar y GIG.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i ni agosáu at yr hydref a'r gaeaf, mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa pawb y gall rhai camau syml helpu i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag salwch cyffredin y gaeaf hwn a chefnogi'r GIG i ganolbwyntio ar y bobl sydd fwyaf angen y gofal.

Brechu yw un o'r ffyrdd gorau o atal lledaeniad y ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV), a firysau anadlol cyffredin eraill, sydd fel arfer yn cynyddu yn ystod y misoedd oerach, ochr yn ochr ag atal uchafbwyntiau achlysurol o coronafeirws (COVID-19) drwy gydol y flwyddyn.

Mae brechiadau ffliw i blant eisoes ar y gweill mewn ysgolion a bydd y rhaglen frechu ffliw a COVID-19 i oedolion yn dechrau ar 1 Hydref 2024.

Am y tro cyntaf, mae menywod beichiog yn cael cynnig y brechlyn RSV i helpu i amddiffyn babanod newydd-anedig rhag y feirws hwn, a all arwain at gymhlethdodau difrifol, yn enwedig yn y gaeaf. Mae'r brechlyn RSV hefyd yn cael ei gynnig i bobl wrth iddyn nhw droi'n 75 oed fel rhan o raglen gydol y flwyddyn a lansiwyd yn gynharach y mis hwn yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Wrth i'n gwasanaethau iechyd a gofal baratoi ar gyfer y gaeaf, gallwn ni i gyd gymryd camau i amddiffyn ein hunain a'n gilydd.

Bydd manteisio ar y cynnig brechu os ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw, brechlyn atgyfnerthu COVID-19, neu'r brechlyn RSV newydd yn helpu i'ch diogelu rhag salwch cyffredin. Mae fferyllfeydd yn darparu cyngor a thriniaeth arbenigol ar gyfer ystod eang o gyflyrau cyffredin, o beswch ac annwyd i broblemau stumog a gallant helpu i leddfu'r pwysau ar feddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG i sicrhau eu bod yno i'r rhai sydd angen y gofal a'r cymorth fwyaf.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith ar gyfer Feirysau Anadlol y Gaeaf i helpu gwasanaethau iechyd a gofal i reoli'r cynnydd disgwyliedig mewn salwch anadlol dros fisoedd y gaeaf i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas rhag salwch difrifol.

Mae byrddau iechyd ledled Cymru hefyd wedi cael canllawiau i sicrhau bod mesurau atal heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd yn gadarn i gadw pobl yn ddiogel ac i gynnal effeithlonrwydd gwasanaethau iechyd drwy gydol y gaeaf.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i weld pwy sy’n gymwys i gael brechlynnau ffliw a COVID-19 y GIG.