Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i lythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2019-2020 oddi wrth y Gweinidog Addysg. Mae’n canolbwyntio ar sut mae ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig a gynhelir yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar dystiolaeth o ymweliadau â sampl lled gynrychioliadol o nifer gyfartal yn fras o ysgolion arloesi, ysgolion gwella ansawdd neu ysgolion braenaru ac ysgolion partner (nad ydynt yn ysgolion arloesi).

Yr adroddiad hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau gan Estyn yn ystod y cyfnod hwn o newid ym myd addysg.  Mae’n dilyn Arloesi'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd (2018) a edrychodd ar sut roedd ysgolion cynradd yn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.  Mae adroddiadau blaenorol yn cynnwys: Gwella addysgu (2018), Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (2018), Datblygu arweinyddiaeth – astudiaethau achos o ddysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth ysgolion (2020) a Partneriaethau â chyflogwyr mewn ysgolion uwchradd ac arbennig (2020).

Ymateb Llywodraeth Cymru

Cyd-destun

Mae’n bwysig cydnabod y cyd-destun ehangach y mae ysgolion yn gweithredu ynddo. COVID-19 yw’r argyfwng mwyaf erioed i wynebu ysgolion Cymru. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn cyn y pandemig, ac rydym yn cydnabod bod yr ymateb i COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar ysgolion.

Mae Cwricwlwm i Gymru – y daith i 2022 yn nodi’r disgwyliadau ar ysgolion yn ystod y cyfnod rhwng nawr a chyflwyno’r cwricwlwm – rydym am sicrhau bod y disgwyliadau hyn yn realistig yng ngoleuni’r pandemig, ac y byddant yn darparu hyblygrwydd i ysgolion yn eu cyd-destunau penodol. Rydym yn cydnabod y bydd ysgolion wedi cyrraedd gwahanol fannau, ac y bydd cyflymder a ffocws y gweithgarwch yn amrywio.

Canfyddiadau’r adroddiad ac adnoddau i ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad Estyn ar y paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd mewn ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig. Mae canfyddiadau’r adroddiad yn adlewyrchu lefel galonogol o frwdfrydedd a chefnogaeth i’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion, ac ymrwymiad eang at athroniaeth y diwygiadau.

Mae’r astudiaethau achos sy’n manylu am brofiadau gwahanol ysgolion wrth ddiwygio’r cwricwlwm yn enghreifftiau craff o arferion sy’n dod i’r amlwg, y byddem yn annog ysgolion i’w darllen a’u hystyried wrth ddechrau cynllunio eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu eu hunain.

Mae’n amlwg bod ysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol ar eu taith i ddiwygio’r cwricwlwm, ond rydym yn cydnabod bod mwy fyth i’w wneud i roi sylw i’r rhwystrau sy’n cael eu hamlygu yn yr adroddiad hwn.

Ers cynnal y gwaith ymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn, rhyddhawyd nifer o adnoddau ychwanegol i ysgolion i’w helpu wrth ddiwygio’r cwricwlwm. Mae Canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, ac yn arbennig yr adran Cynllunio eich Cwricwlwm, yn fan cychwyn. Rydym yn annog ysgolion i edrych yn fanwl ar y canllawiau hyn wrth baratoi i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith.

Mae Cwricwlwm i Gymru – y daith i 2022 yn amlinellu’r disgwyliadau cyffredin i ysgolion wrth gynllunio eu cwricwlwm a pharatoi i’w roi ar waith. Mae hefyd yn ceisio helpu ysgolion i gynllunio eu dulliau gweithredu a rhoi trefn ar eu gweithgarwch drwy ddarparu camau clir o weithgarwch rhwng nawr a mis Medi 2022.

Mae sianel YouTube Addysg Cymru hefyd yn cynnwys cyfres o fideos defnyddiol ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm, gan gynnwys cyfres am y gwahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad. Gall ymarferwyr gadw llygad ar y datblygiadau diweddaraf gyda’r cwricwlwm newydd a bod yn rhan o’r sgwrs ar dudalen Blog y Cwricwlwm i Gymru.

Rhagor o gymorth i ysgolion

Yn ogystal â’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd ar Hwb, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid strategol i helpu ysgolion i wireddu’r cwricwlwm a rhoi sylw i’r rhwystrau sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn. Bydd hyn yn cynnwys:

      i.         Cynllun Gweithredu’r Cwricwlwm: Bydd hwn yn amlinellu:

  • ein disgwyliadau ar gyfer gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru a sut y bydd ysgolion, partneriaid strategol a Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn
  • sut y byddwn ni fel system yn datblygu cymorth i ysgolion drwy weithio ar y cyd gydag ymarferwyr a rhanddeiliaid mewn rhwydwaith cenedlaethol
  • sut y byddwn yn sicrhau bod y system yn creu gofod ac yn darparu cymorth i alluogi ysgolion i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru
  • sut y byddwn yn defnyddio dysgu ac adborth ar draws y system i ddeall sut mae’r diwygiadau yn gweithio.

     ii.         Rhwydwaith cenedlaethol: Bydd y rhwydwaith yn helpu i weithredu ar lefel genedlaethol – gan ddwyn ynghyd safbwyntiau ymarferwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid ehangach o bob cwr o Gymru i ddeall cynnydd, adnabod rhwystrau a chyfrannu at gymorth. Bydd yn fforwm i rannu dealltwriaeth ac arbenigedd, datblygu atebion ar y cyd i oresgyn rhwystrau a heriau ar lefel genedlaethol, a darparu adnoddau a deunyddiau i helpu i roi sylw i’r rhwystrau hynny.

    iii.         Canllawiau ychwanegol: Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi adnoddau ychwanegol yng ngwanwyn 2021 i helpu ysgolion i ddatblygu’r cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ychwanegol ar destunau fel Gyrfaoedd a Phrofiad Gwaith; Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg; ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

   iv.         Rhagor o wybodaeth: Ceir rhestr lawn o’r canllawiau ychwanegol arfaethedig a’r cerrig milltir eraill yn Cwricwlwm i Gymru – y daith i 2022

Manylion cyhoeddi

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar neu ar ôl 26 Tachwedd 2020 ac fe fydd ar gael ar wefan Estyn.