Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y fargen newydd yn galluogi Parafeddygon Band 5 presennol i ddringo i swydd newydd Parafeddyg Band 6.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y fargen newydd yn galluogi Parafeddygon Band 5 presennol i ddringo i swydd newydd Parafeddyg Band 6. 

Daw'r cytundeb, a fydd yn darparu gwell gofal i gleifion yng Nghymru, yn sgil trafodaethau llwyddiannus a chadarnhaol rhwng Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ei undebau llafur, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys a Llywodraeth Cymru.

Bydd llythyrau'n cael eu hanfon at barafeddygon yn amlinellu'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer y swydd Band 6 newydd. Daw'r newidiadau i rym o 1 Hydref 2017 ymlaen, ac fe fydd fframwaith cymorth a datblygu yn cael ei osod er mwyn galluogi staff i ennill nifer o'r sgiliau a'r cymwyseddau ychwanegol sy'n ofynnol fel rhan o'r fargen. Disgwylir cwblhau'r broses erbyn 2021.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Mae swyddogaeth parafeddygon wedi newid yn sylfaenol dros gyfnod o amser. 

"Erbyn heddiw mae eu gwaith yn cynnwys gofal brys a gofal heb ei drefnu. Maen nhw’n darparu triniaeth uwch i gleifion ag anghenion clinigol difrifol ond hefyd yn asesu a chyfeirio cleifion at y rhannau cywir o'r system iechyd i ddarparu'r gofal sydd ei angen arnynt.

"Maen nhw’n rhoi triniaeth cynnal bywyd, gwneud penderfyniadau ynghylch triniaeth frys, ac yn gweithio mewn amgylchedd sydd â lefel uwch o ymreolaeth nag eraill yn ein gwasanaeth iechyd. Gall parafeddygon hefyd weithio ar draws yr holl sector gofal iechyd, yn hytrach na chael eu cyfyngu i swyddogaethau criw ambiwlans traddodiadol.

"Mae parafeddygon yn gweithio'n ddiflino, ddydd ar ôl dydd yn achub bywydau ac yn cefnogi eu cymunedau. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cydnabod eu cyfrifoldebau cynyddol, ac yn rhywbeth i'w groesawu."

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Richard Lee: 

"Mae'n parafeddygon yn darparu gofal clinigol ardderchog ledled Cymru bob dydd. Bydd y swydd-ddisgrifiad a'r pecyn datblygu newydd yn caniatáu i gleifion gael gofal gwell fyth, mewn nifer o achosion yn nes at eu cartrefi.

"Dyma gydnabyddiaeth hefyd i sgiliau ein staff wrth i swyddogaeth parafeddygon ddatblygu i'r 21ain ganrif - nid yn unig darparu triniaeth i'r rhai sydd angen gofal brys, ond hefyd asesu cleifion ag anghenion sydd â llai o frys ond sydd angen help i gyrraedd at ran gywir y system iechyd."

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yr Ymddiriedolaeth, Claire Vaughan: 

"Hoffem ddiolch i'n hundebau llafur, ein comisiynwyr a Llywodraeth Cymru am gydweithio'n agos gyda ni er mwyn sicrhau'r cam pwysig hwn ymlaen i'r proffesiwn parafeddygol. 

"Elfen bwysig o'r fargen, a fydd yn creu gwell fframwaith gyrfa ar gyfer ein staff, yw creu mwy o gyfleoedd datblygu a threfniadau mentora ar gyfer parafeddygon sydd newydd gymhwyso."

Dywedodd Prif Gomisiynydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Stephen Harrhy: 

"Rwy'n croesawu cyhoeddiad heddiw yn fawr iawn. Mae swyddogaethau parafeddygon wedi esblygu ac mae'r cytundeb hwn, a gyflawnwyd drwy waith partneriaeth llwyddiannus, yn cydnabod y cyfrifoldebau a'r sgiliau ychwanegol sy'n ofynnol wrth eu gwaith." 

Dywedodd Prif Swyddog Ambiwlans UNSAIN Cymru, Darron Dupre: 

"Bydd parafeddygon a chleifion ar eu hennill. Mae'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â rhoi’r sgiliau priodol i barafeddygon ddelio â gofal iechyd ar ei newydd wedd. 

"Mae'r sgiliau newydd hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r cyflyrau mwyaf cyffredin sy'n arwain pobl i alw am ambiwlans. Dyma newyddion da i barafeddygon a newyddion da i bobl Cymru."

Dywedodd ysgrifennydd cangen y Gwasanaeth Ambiwlans gydag Undeb y GMB, Nathan Holman: 

"Mae Undeb y GMB yn gefnogol iawn o'r penderfyniad i weld parafeddygon yn symud o Fand 5 i Fand 6. Dyma newid arloesol - ac mae'n hen bryd. 

"Yn ogystal â chydnabod gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud, mae hefyd yn ceisio datblygu dyfodol parafeddygaeth drwy amlinellu ei swyddogaethau - nid yn unig mewn argyfyngau ond hefyd mewn sefyllfaoedd gofal heb ei gynllunio a gofal sylfaenol yn gyffredinol."

Dywedodd ysgrifennydd cangen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gydag undeb Unite, Roger John: 

"Llwyddwyd i gytuno ar y fargen hon yng Nghymru drwy drafodaeth a gwir bartneriaeth.

"Bydd y fargen yn cynyddu cylch gwaith a lefel sgiliau parafeddygon yng Nghymru, gan gynnig dewis triniaeth fwy holistig a phriodol i gleifion sy'n defnyddio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru."