Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae polisi mudo'r Deyrnas Unedig ar gyfer y dyfodol o bwys aruthrol i Gymru. Bydd yn cael effaith sylweddol ar ein dyfodol, ein heconomi, ein cymunedau a'n diwylliant. Rhaid i unrhyw newidiadau a wneir iddo ystyried anghenion Cymru.

Mae'r papur safbwynt hwn yn nodi safbwynt unedig Cymru ar nifer o faterion allweddol. Cytunwyd ar y blaenoriaethau hyn gan gynrychiolwyr o wahanol sectorau, megis gweithgynhyrchu, addysg uwch, twristiaeth, manwerthu, dur, bwyd-amaeth a gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth lleol, y GIG a gofal cymdeithasol, a Llywodraeth Cymru. Mae rhestr o’r llofnodwyr i’w gweld ar ddiwedd y papur hwn.

Lleihau neu ddileu’r trothwy cyflog £25,600

Byddai pennu bod yn rhaid i weithiwr amser llawn fod ar gyflog blynyddol o £25,600 er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am fisa gwaith yn dal i gyfyngu’n ddifrifol ar y cyflenwad llafur mewn sawl sector yng Nghymru. Yn eu plith mae gweithgynhyrchu, addysg uwch, twristiaeth a lletygarwch, diwylliant a'r celfyddydau, iechyd a gofal cymdeithasol.

Os oes rhaid gosod trothwy cyflog, byddai'n llawer haws gosod un trothwy o £20,000. Byddai hyn yn gwneud llawer i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yng Nghymru rhag y sioc a ddaw yn sgil rhoi terfyn ar ryddid y llafurlu i symud. Byddai hefyd yn adlewyrchu'r bwriad i leihau lefel y sgiliau ar gyfer fisa Haen 2 i lefel 3 ac uwch ar y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF), fel yr amlinellwyd yn natganiad polisi Llywodraeth y DU ar y system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau, a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror.

Yn olaf, ond yn arwyddocaol, bydd hefyd yn bwysig bod unrhyw drothwy yn y dyfodol yn gallu cael ei gyfrifo ar sail pro-rata. Heb lwfans pro-rata, bydd gweithwyr rhanamser – sef menywod yn bennaf – yn wynebu gwahaniaethu o dan y system fewnfudo newydd.

Rhaid i gostau ariannol a baich gweinyddol y system fewnfudo newydd fod yn isel

Rydym yn pryderu y gallai'r system fudo newydd sy'n seiliedig ar fisa gynyddu’r costau'n sylweddol a gwaethygu’r anawsterau recriwtio yn y dyfodol, yn enwedig i'r nifer fawr o fusnesau sydd wedi bod yn recriwtio gweithwyr o'r UE yn unig. Rydym yn arbennig o bryderus ynghylch lefel y gost sy'n gysylltiedig â'r Tâl Sgiliau Mewnfudo, y Gordal Iechyd Mewnfudo a'r buddsoddiad y bydd ei angen i uwchsgilio timau mewnol er mwyn delio â'r nifer uchel o geisiadau mewnfudo, neu'r costau ychwanegol i gyflogi ymgynghorwyr mewnfudo. Rhaid i'r system newydd fod yn syml ac yn hawdd i'w defnyddio, ac ni ddylai roi beichiau ariannol a gweinyddol sylweddol a chostus ar fusnesau. Dylai hefyd fod yn hygyrch i fusnesau newydd a mentrau a busnesau bach a chanolig, nad oes ganddynt yr adnoddau ariannol na’r systemau a’r polisïau adnoddau dynol cadarn i allu gwneud cais am drwydded noddi (neu gais i’w chadw).

Llwybr heb ei noddi sy’n arwain at breswylio’n barhaol

Mae ar economi Cymru angen amrywiaeth o weithwyr rhyngwladol o bob rhan o'r sbectrwm sgiliau o hyd. Effaith gyfyngedig a gaiff y cynllun gweithwyr amaethyddol tymhorol yng Nghymru gan mai prin yw'r galw am weithwyr tymhorol. Mae'r galw yng Nghymru ar gyfer gweithwyr drwy gydol y flwyddyn.

Gofynnwn i Lywodraeth y DU ddarparu ar gyfer fisa heb ei noddi, gyda llwybr sy’n arwain at gael preswylio’n barhaol os yw unigolyn yn gallu uwchsgilio i RQF 3+ yn ystod y cyfnod hwn. Byddai hyn yn gyson â'r syniad arfaethedig o system sy'n seiliedig ar bwyntiau lle byddai cael cynnig swydd yn un maen prawf yn unig.

Credwn hefyd na ddylid gweithredu system fewnfudo yn y dyfodol ar sail meini prawf sy'n atal pobl sy'n bwriadu gweithio'n hunangyflogedig.

Gwahaniaethau demograffig

Rhagwelir y bydd poblogaeth Cymru yn gostwng yn y tymor hwy, ac y bydd y boblogaeth oedran gweithio yn cynyddu'n arafach nag yn Lloegr. Byddai hyn yn peri risg benodol i'r gweithlu ac i sylfaen drethi Cymru yn y dyfodol a byddai iddo oblygiadau ehangach hefyd o ran perfformiad economaidd cymharol Cymru yn y dyfodol ac o ran ein cymdeithas. Credwn fod achos dros ddadlau y dylai’r system fudo yn y dyfodol, yn enwedig os yw'n seiliedig ar bwyntiau, wobrwyo mudwyr posibl sy'n dymuno symud i Gymru a rhannau eraill o'r DU sy'n wynebu heriau demograffig tebyg.

Cyfnod pontio

Mae angen i gyflogwyr yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus gael sicrwydd ynghylch rheolau mudo, ynghyd â lefel resymol o rybudd cyn iddynt ddod i rym. Nid ydym yn credu y gall Llywodraeth y DU gynllunio a gweithredu system fudo newydd sy’n cydnabod anghenion y DU gyfan, gan gynnwys Cymru, o fewn yr amser sydd ar gael. Mae angen inni ganiatáu amser i fusnesau a sefydliadau eraill baratoi, sy'n golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ganiatáu ar gyfer cyfnod pontio realistig wrth newid i’r system newydd.

Sicrhau bod mudwyr yn ymwybodol o'u hawliau a bod yr hawliau’n cael eu cynnal

Mae'r risgiau y mae gweithwyr mudol yn eu hwynebu yn wybyddus iawn. Rhaid i unrhyw newidiadau i'r system fudo geisio mynd i’r afael â hyn, gan gynnwys drwy sicrhau bod gweithwyr mudol yn ymwybodol o'u hawliau yn y DU a sut y gellir eu gweithredu. Dylai llywodraethau hefyd weithio gyda phartneriaid cymdeithasol i ddelio â’r camfanteisio hwn drwy ymyrraeth strategol, er mwyn mynd i’r afael â chamfanteisio ar weithwyr a chydnabod y ffaith bod yr arferion hyn yn anfanteisiol i gyflogwyr da.

Ni ddylai gofynion mudo newydd arwain at fwy o wahaniaethu, mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus na phrinder mewn swyddi hanfodol. Mae angen dull gweithredu sy'n sicrhau nad yw hawliau neb yn y gwaith yn cael eu tanseilio a bod gan bawb fynediad at wasanaethau cyhoeddus boddhaol.

Rhestr o’r cyrff sydd wedi llofnodi papur safbwynt Cymru ar fudo

  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Fforwm Gofal Cymru
  • Y Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
  • Race Council Cymru
  • Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Siambr Fasnach De Cymru
  • Cyngres yr Undebau Llafur
  • Prifysgolion Cymru
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Conffederasiwn GIG Cymru
  • Cynghrair Twristiaeth Cymru