Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Mater

  1. Diweddaru aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) ar waith sydd ar y gweill i ddod â'r dyletswyddau caffael yn Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i rym, ac i sefydlu is-grŵp caffael cyhoeddus y Cyngor (Rhan 1, Adran 9).
     
  2. Er gwybodaeth yn unig. Gofynnir i Aelodau’r Cyngor nodi'r papur hwn. 

Cefndir

Sefydlu'r is-grŵp caffael

  1. Nid yw adran 9 o'r Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gymryd pob cam rhesymol i sefydlu is-grŵp caffael, wedi dod i rym eto. Mae is-adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion gyhoeddi canllawiau ar gyfansoddiad yr is-grŵp, gan gynnwys at ddibenion sicrhau aelodaeth gynrychioliadol briodol, y mae'n rhaid i'r Cyngor roi sylw iddo. 
     
  2. Mae rhai trafodaethau cychwynnol wedi cael eu cynnal ar ddisgwyliadau i’r is-grŵp, gan gynnwys gyda chydweithwyr yn y meysydd caffael a masnachol. Bydd y gwaith yn dechrau ar y canllawiau ym mis Medi, a chynigir sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen y Cyngor yn fuan i gynghori ar y canllawiau hyn. Ar ôl hyn, bydd y gwaith yn dechrau gyda'r Cyngor ar y cylch gorchwyl a'r broses benodiadau.

Diweddariad ar ddeddfwriaeth eilaidd, canllawiau a dogfennau eraill

  1. Dros y misoedd diwethaf mae gwaith wedi parhau i ganolbwyntio ar:
  • y drafft newydd o God Trefnu Gwasanaethau Cyhoeddus drwy Gontract Allanol a'r Gweithlu a chymalau'r gweithlu cyhoeddus cymdeithasol (Adrannau 31 a 32), a rannwyd gyda'r diweddariad diwethaf. Mae llywodraeth y DU yn ystyried sut mae dod â'r Cod Dwy Haen yn ôl a'i gryfhau hefyd.
  • y cymalau gwaith cyhoeddus cymdeithasol – mae cwmni cyfreithwyr Geldards wedi cwblhau drafft cychwynnol o'r cymalau, ac mae cyfres o weithdai’n cael eu trefnu ddiwedd Medi a dechrau Hydref i adolygu hyn. Mae angen gwaith hefyd ar ganllawiau i eistedd ochr yn ochr â'r cymalau.
  • y rheoliadau ar y wybodaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi yn yr Adroddiad Blynyddol - mae Cwmpas yn cefnogi gwaith ar set o fetrigau drafft sydd i'w hadrodd yn flynyddol ar hyn o bryd. Mae cyfres o weithdai wedi'u cynnal dros yr haf, ac rydym yn disgwyl adroddiad ddiwedd mis Awst.
  1. Bydd ymgynghoriadau ffurfiol yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf ar bob un o'r darnau hyn o waith.
     
  2. Mae'r holl ddatblygiadau ar y gweill ar y cyd â swyddogion yn nhîm gwaith teg Llywodraeth Cymru a'r tîm polisi caffael. Y bwriad yw y bydd gwaith ar y canllawiau statudol yn trosglwyddo i'r tîm polisi caffael, ynghyd â'r cyfrifoldeb parhaus am ddatblygiadau yn y dyfodol.

Amserlenni

  1. Mae adnoddau rheoli prosiectau, adnoddau cyfreithiol a drafftio polisi wedi'u dyrannu'n benodol erbyn hyn i'r dasg o gwblhau'r gwaith hwn. O ystyried yr amserlenni sy'n gysylltiedig â datblygu rheoliadau ac ymrwymiadau i ganiatáu amser i awdurdodau contractio addasu i'r gofynion newydd, rydym yn disgwyl y bydd y dyletswyddau'n dod i rym tua diwedd 2025.

Briffio technegol

  1. Mae sesiwn briffio technegol ar gaffael wedi'i threfnu ar gyfer 24 Medi.

Jane Williams a Sue Hurrell 
Medi 2024