Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Awst 2012.

Cyfnod ymgynghori:
20 Mai 2012 i 16 Awst 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 118 KB

PDF
118 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r Papur Gwyn hwn yn nodi'n cynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd a chamau eraill anneddfwriaethol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae manteision buddsoddi mewn tai a gwasanaethau cysylltiedig yn ymestyn ymhell y tu hwnt i roi to uwchben pobl. Mae cartref boddhaol y gall pobl ei fforddio yn hanfodol er mwyn iddynt fedru byw bywydau iach a chynhyrchiol mewn cymunedau diogel cryf cynhwysol a theg. Mae’n rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a’r cyfle iddynt gyrraedd eu llawn botensial. Gall cartrefi da hefyd leihau allyriadau carbon deuocsid sy’n gallu helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gallant fod yn enghraifft o ddatblygu cynaliadwy ar waith.

Mae’r hinsawdd sydd ohoni yn un anodd. Ychydig iawn o fywyd sydd yn y marchnadoedd tai a bach iawn o dai newydd sy’n cael eu hadeiladu. Mae mwy o dai fforddiadwy’n cael eu hadeiladu ond gwelwyd gostyngiad yn y niferoedd wrth i ni deimlo effaith y toriadau yn y sector cyhoeddus. Mae rhai o’r ffactorau sydd i gyfrif am y newidiadau megis Diwygio Lles y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Y duedd gyffredinol yw bod cynnydd yn y niferoedd sy’n ddigartref o ganlyniad i gostau byw uwch ac enillion is ac mewn rhai achosion am fod pobl wedi colli’u swyddi. Mae ansawdd y tai sy’n bodoli eisoes yn destun pryder hefyd oherwydd yr effeithiau posibl ar ddiogelwch pobl ac ar eu hiechyd a’u lles ac mae hyn yn peri’r gofid mwyaf yn achos plant.

Nid yw’r heriau hyn yn ein hatal rhag gwneud cymaint ag y gallwn i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion o ran tai. Os rhywbeth maent yn ein gwneud yn fwy penderfynol nag erioed. Mae cartrefi y gall pobl eu fforddio yn rhan sylfaenol o’n hamcanion i leihau tlodi a sicrhau mwy o gydraddoldeb. Rydym wedi ymrwymo i roi mwy o flaenoriaeth i dai yn y blynyddoedd sydd i ddod. Eir ati yn y Papur Gwyn hwn i amlinellu rhaglen weithredu uchelgeisiol ar gyfer gweddill tymor y Llywodraeth hon. Disgrifir ein cynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd a chamau eraill anneddfwriaethol. I grynhoi bydd y cynigion hyn:

  • Yn cynyddu’r cyflenwad o gartrefi newydd:
    • drwy godi o leiaf 7 500 o gartrefi newydd fforddiadwy 500 ohonynt yn gartrefi cydweithredol a 500 yn cael eu hadeiladu ar safleoedd nad oes mo’u hangen bellach ar y sector cyhoeddus
    • drwy sicrhau bod 5 000 o adeiladau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.
  • Yn gwella ansawdd cartrefi sy’n bodoli eisoes gan gynnwys gwella eu heffeithlonrwydd ynni drwy Safon Ansawdd Tai Cymru a dulliau eraill.
  • Yn gwneud mwy i atal digartrefedd ac yn gwella gwasanaethau tai er mwyn helpu pobl yn enwedig y rheini sy’n agored i niwed i fyw bywydau iach ac annibynnol.
  • Yn gwneud cyfraniad mawr o ran gwireddu ein gweledigaeth hirdymor drwy ddod â digartrefedd ymhlith teuluoedd i ben erbyn 2019.

Mae’ch safbwyntiau am y cynigion sydd yn y ddogfen hon yn bwysig. Yn ein barn ni bydd y ddeddfwriaeth newydd yr ydym yn ei chynnig yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Yn ystod y misoedd sydd i ddod byddwn yn mynd ati i ystyried mewn hyd yn oed mwy o ddyfnder yr effeithiau a gaiff ein cynigion gan adeiladu ar ein gwaith hyd yma gyda sefydliadau sydd â diddordeb yn hyn o beth.

Mae’r papur gwyn hwn yn agored i’r cyhoedd ymgynghori yn ei gylch a chroesewir eich sylwadau am y cynigion.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.