Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford heddiw yn cyhoeddi Papur Gwyn yn edrych ar ffyrdd i gynghorau ddarparu rhai o'u gwasanaethau gyda'i gilydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lluniwyd y Papur Gwyn yn dilyn misoedd o drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac eraill ynghylch ffyrdd o gryfhau gwasanaethau cynghorau yn wyneb heriau'r dyfodol. Mae'n destun ymgynghoriad hyd at ddechrau mis Ebrill. Gofynnir am sylwadau ynghylch cynigion i'w gwneud yn ofynnol gweithio'n rhanbarthol i ddarparu amrywiol wasanaethau, rhoi sylw i faterion yn ymwneud â'r gweithlu, a diwygio'r system etholiadol gan gynnwys caniatáu pleidleisio'n 16 oed. Mae hefyd yn galw ar aelodau o'r cyhoedd i gyfrannu'n weithredol mewn democratiaeth leol ac yn y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau.

Ymysg y cynigion mae pennu patrwm daearyddol penodol ar gyfer datblygu economaidd a fyddai hefyd yn cwmpasu rhai swyddogaethau cynllunio a thrafnidiaeth. 

Byddai gan y cynghorau rywfaint o hyblygrwydd ynghylch y patrwm daearyddol i'w ddefnyddio wrth rannu cyfrifoldebau dros wasanaethau penodol eraill gan gynnwys gwella addysg, gwasanaethau cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol, amddiffyn y cyhoedd a hybu'r Gymraeg.

Byddai cynghorwyr yn aelodau o gyd-bwyllgorau newydd, ehangach a fyddai'n goruchwylio'r gwasanaethau hyn ac yn gwneud penderfyniadau ar ran eu cynghorau penodol eu hunain. Byddai'r trefniadau cyllido'n gweithio ar sail yr arfer presennol o gyllidebau cyfunol.

Mae'r gweithlu llywodraeth leol yn rhan hanfodol o'r cynigion hyn. Bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried, drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, sut i gefnogi'r gwaith o drosglwyddo i'r trefniadau newydd, gan ddefnyddio canllawiau statudol lle bo angen.  

Byddai gan gynghorau'r opsiwn o uno o hyd dan y cynlluniau newydd, a lle bo cytundeb lleol i wneud hyn bydd Llywodraeth Cymru'n helpu i'w wireddu.

Mae'r Papur Gwyn hefyd yn galw am bartneriaeth wahanol a mwy cyfartal rhwng pobl a'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu defnyddio. Byddai hyn yn arwain at ddatblygu cyfres newydd o egwyddorion yn cydnabod mai pobl sy'n gwybod orau sut i reoli eu bywydau eu hunain, a gosod camau bach i ymyrryd yn gynt i ddatrys materion sy'n codi cyn iddynt waethygu ymhellach. 

Mae’r cynigion yn llwyddo i daro cydbwysedd rhwng amcanion clir a phendant ar gyfer llywodraeth leol a’r hyblygrwydd i gynghorau benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni’r amcanion hynny’n lleol. Mae’r Papur Gwyn hwn yn rhoi’r pwerau i gynghorau ddewis rhwng gweithredu system Cabinet neu Bwyllgor, a phenderfynu ar y ffordd orau o adrodd ar weithgarwch y cynghorwyr i’r etholwyr. Yn yr un modd, gwahoddir sylwadau ynghylch caniatáu i awdurdodau lleol fabwysiadu naill ai system 'y cyntaf i'r felin' neu system 'pleidlais sengl drosglwyddadwy' ar gyfer etholiadau. Ar ôl pasio Bil Cymru, bydd trafodaeth bellach ar gyfres ehangach o fesurau i ddiwygio trefniadau etholiadol yng Nghymru i wella nifer y bobl sy’n cofrestru ac sy’n mynd allan i bleidleisio mewn etholiadau.

Yn unol â'r cynigion newydd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y byddai'n ystyried sut y gellid diwygio system gyllid llywodraeth leol yn ehangach - gan sicrhau system decach a chynaliadwy i gefnogi awdurdodau lleol yn y dyfodol.

Wrth osod y cynigion ar gyfer yr ymgynghoriad, dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol:

"Dydy'r Papur Gwyn hwn ddim yn gofyn am newid er ei les ei hun. Mae'n cynghorau ni'n gweithio mewn cyfnod o gyni eithriadol ac mae rhai gwasanaethau dan gryn dipyn o bwysau. Rhaid i ni ddiwygio llywodraeth leol os ydym ni am gryfhau'r gwasanaethau hyn a'u gwneud yn fwy cadarn i ddygymod â'r galw yn y dyfodol. 

"Bydd y trefniadau rhanbarthol newydd yn dod â chynghorau ynghyd i gydweithio mewn ffordd fwy effeithiol er budd pobl a'u cymunedau.  

"Rydyn ni am weld perthynas newydd rhwng cynghorau a'u cymunedau lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn helpu pobl i fyw bywydau annibynnol, heb ymyrryd oni bai bod rhaid, a ddim am gyfnod hwy na'r hyn sy'n ofynnol.

"Rydyn ni hefyd am weld perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'n cynghorau; un sydd wedi'i seilio ar barch o'r ddwy ochr i'n swyddogaethau pwysig, ond gwahanol. 

"Yn sylfaen i'r trefniadau newydd hyn bydd gwaith craffu effeithiol ac atebolrwydd, gyda'r cynghorwyr yn gweithredu fel hyrwyddwyr, eiriolwyr ac arweinwyr ar ran y bobl sy'n eu hethol. 

"Hoffwn ddiolch i arweinwyr awdurdodau lleol ac eraill am eu cymorth yn ffurfio cyfres ddifrifol a chredadwy o gynigion. Rwy'n edrych ymlaen at gael cydweithio gyda nhw ymhellach ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai."

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 11 Ebrill 2017 ac mae ar gael i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru: ymgyngoriadau.llyw.cymru