Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo’r trywydd wrth ddatblygu’r strategaethau olynol i Law yn Llaw at Iechyd Meddwl/Siarad â Fi 2; ymrwymo i weithredu gyda phortffolios unigol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaethau hyn; a chytuno mewn egwyddor i nodi set o ddangosyddion mesuradwy, trawslywodraethol i olrhain cynnydd.

Crynodeb

1. Mae gwella iechyd meddwl a lles yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru gyda nifer o ymrwymiadau perthnasol yn y Rhaglen Lywodraethu.

2. Mae penderfynyddion ehangach iechyd meddwl da yn cynnwys cyflogaeth, addysg, tai, cynhwysiant ariannol a threchu tlodi. Mae cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar gyfer gwell iechyd meddwl a lles yn gofyn am weithredu trawslywodraethol.

3. Mae swyddogion wedi ymgymryd â rhaglen waith eang i werthuso’r strategaethau presennol ac ymgysylltu ag ystod o wasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid i helpu i lunio blaenoriaethau ar gyfer iteriad nesaf strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Siarad â Fi 2. Gyda’i gilydd, mae’r adolygiadau hyn wedi crynhoi barn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ymarferwyr, darparwyr cyflenwi gwasanaethau a’r cyhoedd i ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr i lywio cynllunio yn y dyfodol.

4. Mae hyn wedi helpu i lunio syniadau cynnar am themâu a blaenoriaethau ar gyfer strategaethau’r dyfodol. Maent wedi’u nodi isod ar gyfer cytundeb y Cabinet.

5. Gan y bydd angen mewnbwn trawsadrannol i gyflawni hyn, mae’r papur hwn yn ceisio ymrwymiad parhaus o bob rhan o’r Cabinet yn unol â Phapur Cabinet CAB(22-23)38 (Ionawr 2023) a chytundeb i nodi cyfres o ddangosyddion trawslywodraethol i olrhain cynnydd.

Amcan y papur

6. Mae’r papur hwn, ar gyfer cytundeb y Cabinet, yn nodi crynodeb o’r gwaith hyd yma i ddatblygu’r olynwyr i’r strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Siarad â Fi 2; datblygu gweledigaethau lefel uchel i’w cynnwys yn y strategaethau drafft; a’r angen am gefnogaeth drawslywodraethol.

Cefndir

7. Yn 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (T4MH) ac yn 2015, cyhoeddwyd Siarad â Fi 2 (T2M2), y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, y ddwy ohonynt yn rhedeg tan ddiwedd 2022. Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi ymrwymo’n gyhoeddus i ddatblygu strategaethau olynol ac i werthusiad annibynnol o’r hen strategaethau i asesu eu heffaith a llywio ein camau nesaf.

8. Fel rhan o raglen ehangach o adolygiadau, comisiynwyd Opinion Research Services (ORS) i gynnal ymchwil i effaith y ddwy strategaeth bresennol a chynhaliwyd gwaith ymgysylltu allanol helaeth gan ORS gyda defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ymarferwyr, darparwyr cyflenwi gwasanaethau ac eraill i lywio’r gwaith hwnnw. Dyma’r canfyddiadau allweddol:

  1. Roedd cefnogaeth gref i ddatblygu strategaethau olynol i T4MH a T2M2. 
  2. Cyflawnwyd cynnydd tuag at yr amcanion allweddol ar draws y ddwy strategaeth, ond mae mwy o waith i’w wneud.
  3. Y gred oedd bod effeithiau iechyd meddwl gwael yn cael eu cydnabod yn well. Fodd bynnag, ni chredwyd bod hyn yn ymestyn i’r rhai sy’n profi afiechyd meddwl mwy difrifol, ac mae llawer ohonynt yn dal i fod heb ddealltwriaeth a chefnogaeth gan eu cymunedau a’u cymdeithas ehangach.
  4. Roedd cefnogaeth i’r trefniadau trawslywodraethol ac amlasiantaethol a sefydlwyd i gefnogi’r strategaethau.
  5. Mae angen set o fesurau gwaelodlin, yn ogystal ag ymgorffori ffordd o gasglu data i ddangos tystiolaeth o lwyddiant neu fel arall.

Cyd-destun strategaethau newydd

9. Iechyd meddwl yw maes gwariant mwyaf y GIG yng Nghymru o hyd. Mae’r pwysau ar y system yn ddifrifol, gyda gwasanaethau’n parhau i adrodd am gynnydd yng nghymhlethdod ac aciwtedd atgyfeiriadau a dderbynnir. Mae hyn yn digwydd gyda chefndir o lefelau uchel o swyddi gwag gyda gwasanaethau’n ei chael hi’n anodd denu a chadw staff addas.

10. Trwy Law yn Llaw at Iechyd Meddwl/Siarad â Fi 2, roedd modd cyflwyno meysydd polisi sydd wedi gwella’r ddarpariaeth wasanaethau ac wedi helpu i wella bywydau unigolion sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ein deddfwriaeth iechyd meddwl unigryw ein hunain yng Nghymru, ehangu’r ystod o wasanaethau a gwella mynediad atynt, gweithredu timau amenedigol cymunedol ac, yn fwy diweddar, gweithredu’r gwasanaeth ‘pwyswch 2’ 111 am gymorth iechyd meddwl brys. Mae’r strategaethau hyn hefyd wedi galluogi cydweithio trawslywodraethol effeithiol, er enghraifft trwy ddarparu ein dull system gyfan Iechyd ac Addysg mewn ysgolion.

11. Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl/Siarad â Fi 2 yn ddwy strategaeth ar wahân ar hyn o bryd. Mae rhanddeiliaid yn eu hystyried fel pynciau gwahanol, er bod agweddau cyd-ddibynnol clir rhyngddynt. Gofynnwyd cwestiwn penodol am yr angen am ddwy strategaeth fel rhan o’r gwerthusiad annibynnol ac er bod rhai rhanddeiliaid yn cefnogi strategaeth integredig gyda chamau gweithredu clir ar gyfer atal hunanladdiad, roedd y rhan fwyaf yn dadlau bod angen dwy. Mae angen strategaeth ar wahân ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio, oherwydd:

  • Mae’r rhai sy’n marw trwy hunanladdiad yn cael eu nodi’n llai aml fel rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl (tua 20-25%), ac mae rhesymau niferus a chymhleth pam y gall person benderfynu rhoi diwedd ar ei fywyd y tu hwnt i faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu ymgysylltu â’r gwasanaeth iechyd meddwl.
  • Mae camsyniad cyffredinol bod pobl sy’n marw trwy hunanladdiad yn dioddef problem neu salwch iechyd meddwl, ac mae hyn yn cynnal camwybodaeth a stigma, nad ydynt yn gweddu’n dda i faterion sy’n ymwneud â phrofedigaeth, er enghraifft. Byddai strategaeth ar wahân yn helpu i osgoi’r cyd-ymdoddi hwn, ac yn sicrhau bod adnoddau nodi a chyfeirio yn cael eu cyfeirio’n ehangach a hynny yn y mannau cywir.
  • Byddai peidio â chael strategaeth ar wahân yn gwyro oddi wrth y dull sydd wedi’i fabwysiadu ym mhob un o wledydd eraill y DU.

12. Cynigir eu bod yn parhau i fod yn ddwy strategaeth ar wahân ond bod ganddynt gysylltiadau clir ac agweddau cyffredin.

13. Datblygu’r strategaethau olynol newydd fydd y platfform ar gyfer cymell cydweithio trawslywodraethol; bydd yn cefnogi ein gwaith i ddarparu ffocws a darpariaeth gyson ledled Cymru; a bydd hefyd yn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o’n gweledigaeth a’n nodau. Bydd hyn yn ein helpu i ddwyn ynghyd gamau gweithredu ar draws portffolios, gan gyfrannu at well iechyd meddwl.

14. Rydym yn awyddus i osgoi cyfeiriadau cylchol at strategaethau eraill wrth i ni ddatblygu’r gwaith hwn. Rydym eisiau cael mecanwaith ar waith i roi sicrwydd y bydd gwaith sy’n cael ei yrru gan feysydd polisi eraill yn amddiffyn iechyd meddwl, a’n bod ni’n asesu effaith wrth ddatblygu polisi i sicrhau ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles a’n bod yn lliniaru yn erbyn unrhyw effeithiau negyddol posibl.

15. Er bod disgwyliadau mawr ymhlith rhanddeiliaid y byddwn yn cyhoeddi strategaethau newydd, rydym yn deall ac yn cydnabod na all hon fod yn rhestr ddymuniadau, a bod angen i ni fod yn bragmatig ynghylch unrhyw fuddsoddiad sy’n cefnogi’r strategaethau a fydd yn cael eu datblygu. Bydd y gwaith hwn felly’n gyfle i reoli disgwyliadau’r cyhoedd a’r rhanddeiliaid ynghylch yr hyn sy’n bosibl ei gyflawni gyda’r adnoddau sydd ar gael. Oherwydd y cyfyngiadau ariannol ar hyn o bryd, rydym yn ymwybodol bod y strategaethau hyn yn cael eu datblygu ar yr amod y byddant yn fodd o bennu blaenoriaethau, sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau presennol, ac yn gyfle i fod yn glir ynghylch beth sy’n bosibl i’w gyflawni’n realistig. Bydd y strategaethau yn darparu’r fframwaith lefel uchel ar gyfer y cynlluniau cyflawni 3-5 mlynedd a fydd yn cael eu datblygu oddi tanynt.

Datganiadau gweledigaeth lefel uchel

16. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu sawl adolygiad i ymgysylltu ag ystod o wasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid i helpu i lunio blaenoriaethau ar gyfer iteriad nesaf y strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Siarad â Fi. Er bod y gwerthusiad annibynnol yn elfen allweddol o’r gwaith hwn, mae hyn wedi’i osod yng nghyd-destun rhaglen waith ehangach i ddylanwadu ar syniadau cynnar am themâu a blaenoriaethau ar gyfer cynlluniau’r dyfodol. Gyda’i gilydd, mae’r adolygiadau hyn (a restrir yn Atodiad B) wedi crynhoi barn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ymarferwyr, darparwyr cyflenwi gwasanaethau a’r cyhoedd i ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr i lywio cynllunio yn y dyfodol. Y nod cyffredinol oedd datblygu themâu/gweledigaethau a gwerthoedd yn seiliedig ar yr ymgysylltiad cychwynnol hwn, sydd wedi’u nodi isod ac a fydd yn cefnogi cyd-gynhyrchu pellach wrth i ni ddatblygu’r strategaethau.

17. Mae’r datganiadau gweledigaeth drafft a’r egwyddorion sylfaenol wedi esblygu yn dilyn ymgysylltiad cychwynnol ac adborth gan randdeiliaid, gan gynnwys y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol; Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru; Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Meddwl a Lleiafrifoedd Ethnig; Bwrdd Cyflawni a Goruchwylio Gweinidogol ar gyfer Iechyd Meddwl; a Grŵp Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Trawslywodraethol Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau trwy ein Grŵp Gofalwyr a Defnyddwyr Gwasanaethau, gan gynnwys sesiwn bwrpasol i glywed barn am y datganiadau gweledigaeth a’r egwyddorion drafft. O ganlyniad, mae geiriad y datganiadau gweledigaeth bellach fel a ganlyn:

  • Gall pobl gymryd camau i gefnogi lles meddyliol.
    • Mae’r weledigaeth hon yn canolbwyntio ar les meddyliol ar draws y boblogaeth, gan roi’r cyfleoedd, yr adnoddau a’r mynediad angenrheidiol i bobl a chymunedau i gefnogi eu lles meddyliol eu hunain.
    • Bydd yn hyrwyddo camau i atal neu leihau nifer yr achosion o salwch meddwl.
  • Mae camau ar draws y Llywodraeth i ddiogelu iechyd meddwl cadarn a mynd i’r afael â stigma trwy benderfynyddion iechyd meddwl ehangach, er enghraifft gwaith da, addysg, tai a chymunedau diogel.
    • Mae’r weledigaeth hon yn ymwneud â rôl rhannau eraill o’r Llywodraeth o ran deall y dystiolaeth er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl i gefnogi iechyd meddwl cadarn.
    • Yn benodol, bydd ymgysylltu yn canolbwyntio ar y meysydd bywyd sydd wedi’u cynnwys mewn cynlluniau gofal a thriniaeth (llety, addysg/hyfforddiant, cyllid, gwaith, lles corfforol/cymdeithasol a diwylliannol).
  • Mae’r dull system gyfan o ymdrin â lles emosiynol yn rhan annatod o bob lleoliad gan gynnwys ysgolion, lleoliadau gwaith ieuenctid, addysg uwch/addysg bellach a gweithleoedd.
    • Mae’r weledigaeth hon yn ymwneud ag ymgorffori dulliau presennol (NYTH/NEST, Dull Ysgol Gyfan, Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma) a datblygu camau newydd lle mae bylchau – er enghraifft addysg uwch/addysg bellach.
  • Mae’r GIG, Awdurdodau Lleol a’r Trydydd Sector yn darparu dull integredig o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl – yr amser iawn, y lle iawn, y gwasanaeth iawn.
    • Mae’r weledigaeth hon yn ymwneud â mynediad at wasanaethau ar draws yr haenau (o Haen 0/1 hyd at Haen 4). Bydd hyn yn nodi disgwyliadau gwasanaeth/cymorth a dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer iechyd meddwl mewn Gofal Sylfaenol, Gofal Eilaidd, Gofal Brys ac Argyfwng a Gofal Cleifion Mewnol.
  • Lleihau hunanladdiad a hunan-niweidio, a darparu mynediad amserol at gymorth priodol i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan hunanladdiad.
    • Bydd y weledigaeth hon yn cynnwys cymorth wedi’i dargedu i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl; mynd i’r afael â sbardunau a dulliau o hunanladdiad / hunan-niweidio; gwella cymorth mewn profedigaeth; gwella data (e.e. trwy system gwyliadwriaeth hunanladdiad amser real ac ati).

18. Lluniwyd yr egwyddorion canlynol o’r gwaith hyd yma i adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i bobl a rhanddeiliaid allweddol. Mae’r egwyddorion yn drawsbynciol a byddai angen eu hystyried ar draws y datganiadau gweledigaeth a’r camau sy’n datblygu ohonynt, sef:

  • Ymatebol, tosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar hawliau
  • Mynediad teg (lleihau anghydraddoldebau)
  • Ansawdd a diogelwch
  • Wedi’u sbarduno gan dystiolaeth a ffocws ar ganlyniadau
  • Dull ataliol a darbodus
  • Gwell defnydd o ddigidol
  • Gweithlu cynaliadwy sy’n cael ei gefnogi
  • Integreiddio gwasanaethau a dull dim drws anghywir
  • Ystyriol o drawma
  • Casglu data cydlynol a chyson
  • Iaith briodol (osgoi defnyddio dull meddygol)
  • Amgylchedd corfforol sy’n ategu gofal diogel ac urddasol
  • Yn rhydd o stigma a chywilydd, bai a barnu

Gweithio trawslywodraethol

19. Mae swyddogion wedi cymryd rhan weithredol mewn gwaith trawslywodraethol a fyddai’n effeithio ar iechyd meddwl gan gynnwys gwaith Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol; camau gweithredu sy’n ymwneud â chefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches; gwaith gyda chydweithwyr ym maes iechyd cyhoeddus; a chydweithio ag Addysg, Tai a Threchu Tlodi. Mae Is-adran Iechyd y Cyhoedd yn arwain ar ddatblygu’r camau gweithredu i gefnogi lles meddyliol y boblogaeth a bydd hyn yn sicrhau integreiddio â’r Fframwaith Presgripsiynu Cymdeithasol, sy’n destun trafodaeth ar wahân gan y Cabinet, y mae CAB(22-23)86 yn cyfeirio ati.

20. Mae ffocws y grwpiau swyddogion trawslywodraethol a sefydlwyd i gefnogi’r strategaethau presennol wedi symud at ddatblygu’r strategaethau newydd. Mae hyn yn cynnwys ffocws ar gyd-weddu â’r Cynllun Tlodi Plant a sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol ar iechyd meddwl mewn addysg uwch ac addysg bellach.

21. Wrth i ni fwrw ymlaen ag iteriad nesaf y strategaethau, ein nod yw cryfhau ymhellach gyrhaeddiad trawslywodraethol a chydlyniad y camau gweithredu, yn unol ag argymhellion y papur a ystyriwyd gan y Cabinet ym mis Ionawr 2023 (CAB (22-23)38). Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd Gweinidogol dwyochrog i drafod heriau gweithredol a chyfleoedd ar gyfer synergeddau ar draws portffolios cyn dychwelyd y strategaethau drafft i’r Cabinet. Byddai hyn yn cynnwys trafodaeth a chytundeb ar lefel Weinidogol a chamau gweithredu cydlynol ar lefel swyddogol. Trwy fwy o gydnabyddiaeth o gyd-weithredu, byddwn yn gallu gwneud y defnydd gorau o effaith camau gweithredu oddi mewn i bortffolios i fynd i’r afael â phenderfynyddion iechyd meddwl ehangach, a thrwy gydnabod a mynd i’r afael â’u heffeithiau, gallwn gefnogi gwelliannau i atal ac ymyrryd yn gynnar o amgylch sbardunau iechyd meddwl gwael. Drwy fynd i’r afael â’r cyflyrau cymdeithasol sy’n arwain at unigolion yn dioddef argyfyngau iechyd meddwl, gallwn helpu i osgoi’r angen am ymyriadau meddygol.

22. Mae’r datganiadau gweledigaeth yn cynnwys cyfeiriad penodol at weithredu trawslywodraethol i ddiogelu a hyrwyddo iechyd meddwl cadarn trwy benderfynyddion iechyd meddwl ehangach, yn ogystal â mabwysiadu dull system gyfan o ymdrin â lles ar draws ystod o leoliadau.

Effaith

23. Bydd y strategaethau’n gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru trwy ddarparu eglurder ynglŷn â’r weledigaeth a’r blaenoriaethau ar gyfer iechyd meddwl a’r hyn yr ydym yn gweithio tuag ato gyda’n gilydd. Bydd yn nodi sut y byddwn yn gweithio ar draws sectorau i gydlynu gweithredu a gwella gwasanaethau, gan arwain at gynnig iechyd meddwl sy’n gwella’n barhaus ac, yn y pen draw, gwell iechyd meddwl. Bydd cyfres o gynlluniau cyflawni 3-5 mlynedd, sy’n nodi’r camau penodol y byddwn yn eu cymryd, yn sylfaen i’r strategaethau. Bydd hyn yn ein galluogi i fynegi’n glir sut rydym yn bwriadu defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i weithio tuag at nodau cyffredin.

24. O ran cyflawni amcanion y llywodraeth, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i flaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd meddwl, sydd wedi’i fodloni. Mae’r strategaethau hyn yn darparu gweledigaeth o’r newydd o’r hyn y bydd y cyllid hwnnw’n ei ddarparu. Bydd yn galluogi cyd-weddu gwariant yn well â blaenoriaethau’r llywodraeth, a chydlynu gweithredu ar draws portffolios y llywodraeth.

Cyfathrebu a chyhoeddi

25. Rydym yn bwriadu llunio strategaethau drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus erbyn diwedd y flwyddyn galendr.

Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Gorffennaf 2023