Neidio i'r prif gynnwy

Angen gwneud penderfyniad

  • nodi safbwynt a dull gweithredu’r Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer mynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
  • cytuno i'r camau nesaf arfaethedig i gyhoeddi'r strategaeth er mwyn ymgynghori arni, a datblygu Glasbrint gweithredu i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Crynodeb

1. Mae'n ofyniad statudol o dan a3(1) o Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 i Weinidogion Cymru, yn dilyn etholiad cyffredinol, baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol i atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr.

2. Y Strategaeth Genedlaethol yw'r cyfrwng i gyflawni amcanion y Rhaglen Lywodraethu i:

  1. gryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref
  2. ehangu ymgyrchoedd hyfforddi ac ymwybyddiaeth ‘Gofyn a Gweithredu’ a ‘Paid Cadw’n Dawel’
  3. sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

3. Paratowyd y strategaeth ddiwygiedig drwy ymgynghori'n helaeth â gweithgor o sefydliadau partner allweddol, yn ogystal â'r Cynghorwyr Cenedlaethol ar drais a cham-drin. Ceir manylion y gweithgor a'r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn Atodiad B.

4. Bwriedir lansio ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd Tachwedd/dechrau Rhagfyr 2021 i gael barn ehangach ar y strategaeth. Caiff y strategaeth derfynol ei chyhoeddi ddechrau 2022.

5. Bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni drwy lasbrint gweithredu sy'n dwyn ynghyd sefydliadau sydd wedi’u datganoli ac eraill nad ydynt wedi'u datganoli. Bydd y tîm Trais a Cham-drin yn arwain y gwaith o gyflawni ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond, er mwyn llwyddo, mae'r strategaeth yn gofyn am gydweithio ag adrannau eraill gan gynnwys addysg, iechyd, tai a throseddu a chyfiawnder.

Y strategaeth

6. Mae dogfen ymgynghori'r Strategaeth Genedlaethol yn nodi'r amcanion i Lywodraeth Cymru a phartneriaid o ran mynd i'r afael â thrais a cham-drin, y trefniadau llywodraethiant arfaethedig a'r Glasbrint gweithredu.

7. Mae’r strategaeth ddrafft yn cydnabod mai mynd i’r afael â thrais gan ddynion, ynghyd â’r casineb at fenywod a’r anghydraddoldeb rhywiol sy’n sail iddo, yw’r allwedd i dorri'r cylch a mynd i wraidd trais a cham-drin. Rhaid inni herio agweddau a newid ymddygiadau'r rhai sy’n cam-drin. Nid menywod sydd angen newid eu hymddygiad, ond y camdrinwyr.

8. Dynion, gan mwyaf, sy'n cyflawni trais a cham-drin yn erbyn menywod, ond nid bob amser. Mae'r strategaeth yn cydnabod, felly, nad menywod yw'r dioddefwyr bob amser a'i fod yn gallu effeithio ar ddynion a phobl â hunaniaeth anneuaidd hefyd. Caiff pawb sy’n cyflawni trais, beth bynnag eu rhywedd, eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd. Fodd bynnag, mae'r strategaeth hon yn cydnabod mai trais gan ddynion yw’r hyn sy’n diffinio trais a cham-drin, a bod mynd i'r afael yn iawn â'r ddeinameg o ran pŵer a rheolaeth sy’n deillio o anghydraddoldeb rhywiol yn allweddol.

9. Mae'r strategaeth ddrafft yn cynnig cyfres o egwyddorion i ddiffinio ei dull gweithredu:

  • Mynd i'r afael â thrais gan ddynion
  • Dull gweithredu ar lefel iechyd y cyhoedd
  • Dull gweithredu ar lefel cymdeithas gyfan
  • Dull gweithredu mewn ymateb i drawma
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o drais a cham-drin
  • Llais y goroeswr
  • Cydweithio a chydgynhyrchu.

10. Dyma amcanion y strategaeth ddrafft:

Amcan 1

erio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono.

Amcan 2

Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.

Amcan 3

Cynyddu ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.

Amcan 4

Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.

Amcan 5

Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.

Amcan 6

Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.

Y Glasbrint ar gyfer gweithredu

11. Mae'r strategaeth yn cynnig mabwysiadu glasbrint gweithredu. Mae hwn yn creu strwythur a chynllun gweithredu a berchnogir gan sefydliadau sydd wedi’u datganoli ac eraill nad ydynt wedi'u datganoli, a bydd yn seiliedig ar y glasbrintiau llwyddiannus ar gyfer troseddu ymhlith menywod a chyfiawnder ieuenctid.

12. Mantais glasbrint yw ei fod yn creu ymdeimlad o gydberchnogaeth ar gyfer gweithredu'r strategaeth ac yn ysgogi atebolrwydd yn ogystal â chefnogaeth a her gan eraill. Ar frig y strwythur llywodraethiant ar gyfer cyflawni hyn mae Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd, sy’n cael ei gadeirio ar y cyd a’i arwain gan y Gweinidog.

13. Bydd y bwrdd yn goruchwylio gwaith y byrddau rhanbarthol a’r is-grwpiau a fydd yn cael eu creu i fwrw ymlaen â chamau gweithredu allweddol. Ar hyn o bryd mae'r strategaeth ddrafft yn adlewyrchu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ac yn awgrymu y dylai’r is-grwpiau ymdrin ag aflonyddu a cham-drin ar y stryd, aflonyddu a cham-drin yn y gweithle, mynd i'r afael â phroblem cyflawni trais a cham-drin, comisiynu cynaliadwy ac ymgysylltu â defnyddwyr.

14. Bydd aelodau'r bwrdd yn cynrychioli’r cyrff hynny sydd â dyletswyddau allweddol i fynd i'r afael â thrais a cham-drin, a byddant yn cynnwys adrannau o bob rhan o Lywodraeth Cymru, yr heddlu, comisiynwyr heddlu a throseddu, gwasanaeth carchardai a phrawf Ei Mawrhydi a CLlLC. Bydd lleisiau cynghori o'r sector arbenigol hefyd ar y bwrdd. Yn benodol, byddwn yn cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o drais a cham-drin fel bod llais goroeswyr yn cael ei glywed ar y lefel uchaf.

Effaith

15. Mae'r broblem gymdeithasol barhaus o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i fod yn rhwystr sylweddol i Gymru rhag cyflawni'r weledigaeth a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn benodol y nod o greu Cymru fwy cydnerth, iach a chyfartal, sy’n wlad o gymunedau mwy cydlynus a thyfu’n gymdeithas deg a llewyrchus.

16. Rhaid inni anelu, felly, at ddiddymu trais a cham-drin mewn mannau cyhoeddus a phreifat. Nid yw’n rhywbeth cwbl anochel, a gellir ei leihau'n sylweddol a'i atal drwy'r dull cydweithredol ar lefel system gyfan a nodir yn y strategaeth genedlaethol a'r glasbrint dilynol.

17. Mater i’r tîm trais a cham-drin yw gweithredu’r strategaeth, ond mae rhoi’r glasbrint ar waith yn cynnwys partneriaid sydd wedi’u datganoli ac eraill nad ydynt wedi'u datganoli. Mae gwaith eisoes wedi dechrau rhwng swyddfeydd Llywodraeth Cymru, yr heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu, a chaiff ei ddatblygu drwy weithio gyda goroeswyr, darparwyr arbenigol a chyrff cyhoeddus eraill i ddylunio'r glasbrint a sefydlu rhai o'r strwythurau llywodraethiant er mwyn gallu dechrau gweithredu'r cynllun cyn gynted ag y cyhoeddir y strategaeth yn 2022.

18. Bydd y tîm trais a cham-drin yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r glasbrint ar gyfer Llywodraeth Cymru, a rhan allweddol o'i rôl fydd gweithio'n agos gyda’r heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu i greu dull gweithredu sydd wir yn cynnwys y system gyfan. Bydd yn bwysig darparu adnoddau cyfatebol i’r hyn a gynigir gan bartneriaid yn swyddfeydd yr heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu er mwyn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru a chyflawni'n effeithiol, gan gydnabod y bydd hyn yn ddibynnol i raddau ar ganlyniad y gyllideb ddrafft.

Gweithio ar draws y Llywodraeth

19. Rydym am weithio ym mhob rhan o gymdeithas i fynd i'r afael â thrais a cham-drin, sydd yn ei dro yn golygu gweithredu ar draws y Llywodraeth. Mae'r strategaeth yn seiliedig ar y ddamcaniaeth newid bod yn rhaid inni fynd i'r afael â chasineb at fenywod yn ei holl ffurfiau os ydym am gael gwared â'r hinsawdd y mae trais a cham-drin yn ffynnu ynddo. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn esiampl o fewn ei chylchoedd ei hun a defnyddio ei holl bwerau i fynd i'r afael â’r broblem. Ymhlith yr elfennau a fydd yn allweddol i’r dull gweithredu hwn mae gweithio gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu i fynd i'r afael ag aflonyddu yn y gweithle ac ymestyn y gwaith o hyrwyddo Cydberthnasau Iach ym mhob gwasanaeth perthnasol, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ym maes addysg.

20. Rwyf felly yn ceisio ymrwymiad holl aelodau'r Cabinet i weithredu'r strategaeth hon o fewn eu portffolios eu hunain. Nod y strategaeth yw cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ymestyn cwmpas cylch gwaith trais a cham-drin y tu hwnt i’r cartref i gynnwys y maes cyhoeddus ar y stryd ac yn y gweithle. Nid yw'r strategaeth yn nodi rhestr helaeth o ymrwymiadau newydd ar draws y Llywodraeth. Nid dyna'r hyn yr ydym yn ei ofyn ar hyn o bryd. Yn hytrach, mae'n creu strwythur i ddatblygu a hyrwyddo opsiynau sy'n cael eu cyd-greu a'u cydweithredu. Yr ymrwymiad felly yw bod yn rhan o strwythur y glasbrint a herio ein hunain i ddod o hyd i atebion fel cyflogwr, cyllidwr a chomisiynydd i gyfrannu at weithredu damcaniaeth newid.

Cyfathrebu a chyhoeddi

21. Ni chynlluniwyd unrhyw weithgarwch cyfathrebu mewn perthynas â'r Papur Cabinet hwn, ond rhoddir cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad pan gaiff ei gyhoeddi, ac i'r strategaeth derfynol a fydd yn deillio o hynny. Hefyd caiff cynllun cyfathrebu ei ddatblygu.

22. Bwriedir lansio'r strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd yn ystod yr 16 diwrnod o weithgarwch yn dilyn Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2021.

23. Byddwn yn darparu nifer o weminarau yn ystod y cyfnod ymgynghori i roi gwybodaeth am y strategaeth ddrafft a'r glasbrint gweithredu. Y gobaith yw y bydd y rhain yn sicrhau bod pobl yn fwy gwybodus am ein cynigion cyn iddynt ymateb i'r ymgynghoriad. Byddwn hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner i hwyluso cyfres o grwpiau ffocws gyda goroeswyr trais a cham-drin ac eraill i sicrhau bod eu barn nhw yn cael ei chlywed a'u bod yn cael cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad.

Argymhelliad

  • nodi safbwynt a dull gweithredu’r Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer mynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • cytuno i'r camau nesaf arfaethedig i gyhoeddi'r strategaeth er mwyn ymgynghori arni, a datblygu Glasbrint gweithredu i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Jane Hutt
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Tachwedd 2021

Atodiad A: Materion statudol, cyllid, cyfreithiol a llywodraethiant

Gofynion statudol

1. Mae adran 3 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol sydd, ymhlith pethau eraill, yn pennu amcanion a fydd, os cânt eu cyflawni, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf.

2. Mae adran 4 o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau, gymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion a bennir yn y strategaeth genedlaethol ddiweddaraf a gyhoeddwyd.

3. Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth sydd, yn eu barn nhw, yn briodol er mwyn hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, ac mae adran 58A o’r Ddeddf yn eu galluogi i gyflawni swyddogaethau Gweinidogol gweithredol i’r graddau y mae hawl ganddynt o fewn ffiniau cymhwysedd datganoledig, a fydd yn cynnwys darparu cyllid sy’n ymwneud â thrais a cham-drin.

Gofynion cyllid a goblygiadau llywodraethiant

4. Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol sylweddol ynghlwm wrth gyhoeddi'r ddogfen ymgynghori. Gellir talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â datblygu'r strategaeth genedlaethol ddiwygiedig o'r cyllidebau presennol.

5. Mae’r tîm trais a cham-drin wedi dyrannu £55,000 i ymgymryd â gwaith ymgysylltu pellach yn ystod y broses ymgynghori, cyfieithu a dylunio ac ar gyfer dadansoddi’r ymatebion i'r ymgynghoriad. Cytunwyd ar hyn yn MA/JH/1361/21.

6. Mae costau pellach sy'n gysylltiedig â gweithredu'r strategaeth a'r glasbrint er mwyn cyflawni'r Rhaglen Lywodraethu wedi'u cynnwys gan y tîm trais a cham-drin yn y ffurflenni cyllidebol ac adolygu gwariant ar gyfer 2022-2025 fel rhan o Brif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol.

7. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ehangu cylch gwaith y tîm trais a cham-drin er mwyn cryfhau'r strategaeth. O ganlyniad, mae'r ffurflen adolygu gwariant yn cynnwys cais am £957,000 ychwanegol am bob un o'r tair blynedd i ddatblygu'r glasbrint a fydd yn cynnwys ystyried cwmpas y polisi a’i ddatblygu o ran aflonyddu a cham-drin ar y stryd ac yn y gweithle. Mae'r ffurflen gyllidebol hefyd yn gofyn am £93,000 ychwanegol i ehangu'r ymrwymiadau hyfforddi o dan y cynllun Gofyn a Gweithredu ac ar gyfer y gweithgarwch cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o drais a cham-drin.

8. Yn dilyn Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant ar 27 Hydref, mae'r rhagolygon ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru y tu hwnt i'r flwyddyn i ddod yn dynn. Bydd angen ystyried y cyllid a fydd ar gael o 2022-23 ymlaen fel rhan o'n gwaith o gynllunio cyllidebol i’r dyfodol, a bydd angen blaenoriaethu unrhyw gostau ychwanegol a ysgwyddir yn sgil cynigion pellach a allai olygu costau cyfle. Mae hyn yn dibynnu ar ganlyniad cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a bydd angen mynd ati i flaenoriaethu buddsoddiadau ym Mhrif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol, lle bydd y risg, unwaith y bydd yr amcanddyraniadau ar gael.

9. Mae’r tîm trais a cham-drin wedi gwneud ceisiadau am adnoddau staffio ychwanegol er mwyn darparu adnoddau cyfatebol i'r hyn a gynigir gan bartneriaid yn swyddfeydd yr heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu er mwyn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru a chyflawni'n effeithiol.

10. Mae'r papur Cabinet hwn wedi'i glirio gan Dîm y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth a'r Tîm Gweithrediadau Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus (EPS/JH/74/21).

Ymchwil a / neu ystadegau

11. Nid yw'r papur yn cynnwys unrhyw ymchwil nac ystadegau, ac felly nid oes angen cymeradwyaeth y gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.

Gweithio ar y cyd

12. Cyfrannodd yr adrannau canlynol yn Llywodraeth Cymru at ddatblygu'r strategaeth genedlaethol ddrafft a byddant yn gweithio gyda’r tîm trais a cham-drin i gyflawni'r amcanion:

  • Addysg
  • Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cydraddoldeb a Ffyniant
  • Polisi Tai
  • Troseddu a Chyfiawnder
  • Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Atodiad B: Yr ymgynghoriad a gwblhawyd hyd yma

1. Mae'r ymgynghoriad drafft yn deillio o ymgysylltu helaeth â gweithgor a sefydlwyd gyda chynrychiolaeth o'r sector arbenigol, adrannau perthnasol y Llywodraeth, swyddfeydd yr heddlu a chomisiynwyr heddlu a throseddu, a phartïon eraill â diddordeb. Dyma restr lawn o’r rhai a wahoddwyd:

  • Cynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar Drais a Cham-drin
  • Cynghorwyr / Timau Rhanbarthol Trais a Cham-drin
  • BAWSO
  • Cafcass Cymru
  • Cymorth Cymru
  • Dewis Choice
  • Hafan Cymru
  • Hourglass
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi
  • Awdurdodau Lleol
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Llwybrau Newydd
  • NSPCC
  • Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Yr Heddluoedd a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru (timau amrywiol)
  • Cyngor Hil Cymru
  • RASA Cymru
  • Respect UK
  • Cymru Ddiogelach
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Cam wrth Gam
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cymorth i Ferched Cymru
  • Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

2. Dyma'r cyfarfodydd ymgynghori a gynhaliwyd hyd yma:

16 Chwef 2021

Amcan 1 - Codi ymwybyddiaeth

(2 awr)

16 Mawrth 2021

Amcan 3 – Gweithio gyda chyflawnwyr trais

(2 awr)

30 Mawrth 2021

Amcan 5 – Hyfforddiant/Addysg

(2 awr)

26 Ebrill 2021

Amcanion 2 a 6 – Plant a phobl ifanc, anffurfio organau cenhedlu benywod a cham-drin ar sail anrhydedd

(2 awr)

20 Mai 2021

Gwasanaethau, ariannu a chomisiynu

(2 awr)

9 Mehefin 2021

Cyfiawnder ieuenctid / Glasbrint

(2 awr)

24 Mehefin 2021

Llywodraethiant

(2 awr 25 munud)

15 Gorffennaf 2021

Y cynnydd diweddaraf a chynllunio i ymgynghori

Agenda:

  1. Croeso a chyflwyniadau 
  2. Nodiadau a chamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol 
  3. Amlinelliad o'r Strategaeth Genedlaethol arfaethedig ar gyfer ymgynghori 
  4. Cynllunio i ymgynghori ac ymgysylltu 
  5. Camau gweithredu a gytunwyd a'r camau nesaf

(55 munud)

19 Awst 2021

Y cynnydd diweddaraf a chynllunio i ymgynghori

Agenda

  1. Croeso a nodiadau / camau gweithredu'r cyfarfod blaenorol 
  2. Adolygiad o sylwadau'r Gweithgor ar y Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer ymgynghori
  3. Ymgynghori ac ymgysylltu
  4. Camau gweithredu a gytunwyd a'r camau nesaf

(55 munud)

16 Medi 2021

Y cynnydd diweddaraf

Agenda:

  1. Nodiadau a chamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol
  2. Y diweddaraf ar y strategaeth ddrafft / ymgynghoriad
  3. Cyflwyniad ar "Beth sy'n gweithio i atal trais a cham-drin?" (Lara Snowdon, Uned Atal Trais Cymru)
  4. Camau gweithredu a gytunwyd a'r camau nesaf

(55 munud)

11 Tachwedd 2020

Y cynnydd diweddaraf

Agenda:

  1. Nodiadau a chamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol
  2. Y diweddaraf ar y strategaeth ddrafft / ymgynghoriad
  3. Camau gweithredu a gytunwyd a'r camau nesaf

(55 munud)