Papur Cabinet: Fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol
Papur Cabinet CAB(22-23)86
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Angen penderfyniad
Gofynnir i'r Cabinet:
- Gytuno ar strwythur arfaethedig y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol
- Nodi’r amserlenni ar gyfer ei ddatblygu ym mharagraff 23.
Crynodeb
1. Term ambarél yw presgripsiynu cymdeithasol sy'n disgrifio ffordd o gysylltu pobl â chymorth anghlinigol yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n fodd i gysylltu pobl, beth bynnag fo'u hoedran neu eu cefndir, â'u cymuned i reoli eu hiechyd a'u lles yn well. Ei nod yw grymuso unigolion i gydnabod eu hanghenion, eu cryfderau a'u hasedau personol eu hunain.
2. O safbwynt iechyd mae'r achos dros gymorth anfeddygol drwy bresgripsiynu cymdeithasol yn glir. Gall presgripsiynu cymdeithasol wella lles meddyliol, lleihau gorbryder ac iselder, hybu hunan-barch a lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd. Gall chwarae rhan hanfodol o ran cynnal pwysau corff iach, a gall helpu pobl i fyw'n well ac yn hirach.
3. O fewn Cymru, fel mewn gwledydd eraill, bu diffyg safoni a chysondeb yn y dull presgripsiynu cymdeithasol. Mae'r diffyg safoni hwn wedi arwain at ddryswch posibl ymhlith y cyhoedd a'r gweithlu sy'n darparu neu'n dod ar draws presgripsiynu cymdeithasol, o ran y manteision y gall eu cynnig. Mae hefyd wedi arwain at gyfathrebu diffygiol rhwng sectorau a gweithwyr proffesiynol ac â’r cyhoedd.
4. I roi sicrwydd ynghylch cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ledled Cymru ac ymateb i'r materion a godwyd yn yr ymarfer ymgynghori, mae'r papur hwn yn ceisio cytundeb ar strwythur arfaethedig y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, sy'n amlinellu'r model presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol, ac yn sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth ym mhob lleoliad.
5. Bydd cefnogaeth ar gyfer y fframwaith cenedlaethol arfaethedig a'r rhaglen waith ategol yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno fframwaith ar gyfer Cymru gyfan i roi presgripsiynu cymdeithasol ar waith er mwyn mynd i'r afael ag ynysigrwydd, a darparu gofal iechyd effeithiol a chynaliadwy o ansawdd uchel.
6. Mae ffrydiau ariannu eisoes yn bodoli sy'n cefnogi presgripsiynu cymdeithasol, er enghraifft y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol; mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael yn yr adran Gofynion Cyllid. Ni fwriedir i'r fframwaith cenedlaethol arfaethedig ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol orchymyn sut y caiff presgripsiynu cymdeithasol ei ddarparu mewn gwahanol gymunedau; yn hytrach, bydd yn creu cytundeb o ran gweledigaeth gyffredin ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru ac yn cefnogi ei dwf drwy osod safonau effeithiol o ansawdd uchel ar draws y 'system gyfan’.
Cyd-destun
7. Nid yw presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru yn newydd. Mae ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol wedi'u datblygu a'u sefydlu o'r gwaelod i fyny ledled Cymru, gyda darparwyr unigol dan gontract, clystyrau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal, y trydydd sector a sefydliadau statudol yn datblygu modelau darparu gwahanol.
8. Mae'n rhan annatod o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran grymuso pobl a chymunedau, boed hynny'n rhan o'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, yr olynydd i 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', neu 'Cysylltu Cymunedau' ein strategaeth i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd.
9. Gall presgripsiynu cymdeithasol gefnogi lles meddyliol gwell, a bydd ei bwysigrwydd yn cael ei adlewyrchu yn y bennod ar les meddyliol yn yr olynydd i 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', sydd wrthi'n cael ei ddatblygu.
10. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae atal wrth wraidd presgripsiynu cymdeithasol, gan gyfrannu at leihau unigrwydd ac ynysigrwydd; oedi datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth; lleihau anghenion gofal a chymorth pobl sydd ag anghenion o'r fath; a galluogi pobl i fyw eu bywydau mor annibynnol â phosibl.
11. Er mai'r model gofal sylfaenol o bresgripsiynu cymdeithasol, lle caiff unigolion eu hatgyfeirio o bractis cyffredinol, yw'r model mwyaf cyffredin mewn rhai systemau, mae modelau mwy cymunedol wedi ymddangos yng Nghymru. Yng Nghymru, mae ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol nid yn unig wedi'u lleoli mewn lleoliadau gofal iechyd, ond hefyd mewn sefydliadau partner. Er enghraifft, sefydliadau trydydd sector, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, neu leoliadau addysg. Mae ffynonellau atgyfeirio at ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol hefyd yn draws-sectoraidd ac nid ydynt wedi’u cyfyngu i ofal iechyd/gofal sylfaenol.
12. Gweithiodd swyddogion gyda bron i 1,000 o randdeiliaid i ddatblygu model presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer Cymru, gan ei gyhoeddi wedyn ar gyfer ymgynghoriad. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 28 Gorffennaf a 20 Hydref 2022, a chafwyd dros 190 o ymatebion, sydd, ynghyd ag adborth a gafwyd drwy ddigwyddiadau rhanddeiliaid ar-lein yn ystod y cyfnod ymgynghori, wedi siapio’r fframwaith cenedlaethol arfaethedig yn uniongyrchol. Yn ogystal, bu cyfres o gyfarfodydd cadarnhaol ac adeiladol rhwng swyddogion ar draws y Llywodraeth i ddeall a datblygu meysydd cydweithio posibl.
13. Dangosodd astudiaeth sylfaenol o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru yn 2021 y bu cynnydd clir flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn atgyfeiriadau a defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol dros y tair blynedd blaenorol o tua 10,000 yn 2018/19 i ychydig dros 25,000 yn 2020/21. Fodd bynnag, ceir anghysondeb yn nifer y sefydliadau ym mhob awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru ac amrywiaeth yn y dulliau a ddefnyddir. Yn ogystal, canfu ein hymarfer ymgynghori ar y fframwaith cenedlaethol arfaethedig ddiffyg arweinyddiaeth glir, cydlyniant a/neu gydweithio ymysg partneriaid ym maes presgripsiynu cymdeithasol, a bod angen gweithio mewn partneriaeth yn fwy effeithiol i sicrhau cynaliadwyedd ac osgoi dyblygu.
14. Cynhaliodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant gyfres o gyfarfodydd dwyochrog gweinidogol i godi ymwybyddiaeth o'r fframwaith arfaethedig. Bydd swyddogion yn gwneud gwaith dilynol ar gamau a godwyd yn y cyfarfodydd dwyochrog ynghylch gweithio ar y cyd er mwyn cryfhau rhaglenni gwaith a datblygu'r fframwaith arfaethedig. Er enghraifft, mae'r pynciau a godwyd yn cynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio Buddsoddi i Arbed, defnyddio credydau amser, cysylltiadau â'r sector Addysg Uwch, a'r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol yn y gymuned ffermio.
Effaith
15. Nod presgripsiynu cymdeithasol yw grymuso unigolion i gydnabod eu hanghenion, eu cryfderau a’u hasedau personol eu hunain a chysylltu â'u cymunedau eu hunain i gael cymorth a fydd yn eu helpu i wella eu hiechyd a'u lles. Er enghraifft, gwyddom fod pobl sy'n unig a/neu wedi'u hynysu'n gymdeithasol mewn mwy o berygl o farw'n gynamserol, o fod yn anweithgar ac o glefyd y galon, strôc a phwysedd gwaed uchel. Hefyd, maent yn fwy tebygol o brofi iselder, hunan-barch isel, problemau cysgu ac ymateb cynyddol i straen.
16. Drwy ei ddull ataliol cynnar, gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu i ysgafnhau'r baich ar wasanaethau arbenigol mwy rheng flaen. Mae tystiolaeth amrywiol yn awgrymu bod presgripsiynu cymdeithasol yn lleihau nifer yr ymweliadau â meddygfeydd meddygon teulu 15%, i 28% (Rhagnodi Cymdeithasol: dull gwahanol o leihau’r ddibyniaeth ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru). Nododd un adolygiad ostyngiad o 28% ar gyfartaledd yn y galw am wasanaethau meddygon teulu ar ôl cael eu hatgyfeirio (A review of the evidence assessing impact of social prescribing on healthcare demand and cost implications). Roedd y canlyniadau'n amrywio o ostyngiad o 2% (Wellspring Healthy Living Centre, Bristol) i 70% (Hackney Well Family Service) mewn ymweliadau diangen â meddygon teulu. Gwelodd astudiaeth dulliau cymysg fod cleifion yn defnyddio llai ar wasanaethau gofal sylfaenol, gyda gostyngiad o 25% mewn apwyntiadau (The social cure of social prescribing). Roedd canlyniadau gwerthusiad o gynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol Rotherham yn dangos tuedd gyffredinol o lai o ddefnydd o adnoddau ysbytai gan gyfranogwyr cyn ac ar ôl presgripsiynu cymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol: cymaint ag 21% yn llai o dderbyniadau cleifion mewnol a gostyngiad o gymaint ag 20% yn nifer y cleifion damweiniau ac achosion brys (The Social and Economic Impact of the Rotherham Social Prescribing Pilot).
17. Mae'r dystiolaeth yn amrywio cymaint oherwydd bod effaith presgripsiynu cymdeithasol yn dibynnu ar y math o fodel a ddefnyddir, yr ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol a'u cefndiroedd, yr ardal, a'r asedau sydd ar gael yn y gymuned (Rhagnodi Cymdeithasol: dull gwahanol o leihau’r ddibyniaeth ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru). O gofio bod amcangyfrifon yn dangos bod tua 20% o gleifion yn ymgynghori â'u meddyg teulu am yr hyn sy'n broblem gymdeithasol yn bennaf (Social prescribing could help alleviate pressure on GPs), mae'r potensial i bresgripsiynu cymdeithasol leihau'r effaith ar wasanaethau rheng flaen yn amlwg os yw llwybrau amgen ar gael yn haws ac yn ehangach. Bydd y set ddata graidd arfaethedig yn ein galluogi i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth ac yn cyfrannu at opsiynau 'buddsoddi i arbed’.
18. Rydym yn gwybod y ceir cysylltiad hanfodol rhwng iechyd a lles a chyflogadwyedd. Mae’n bosibl y byddai mwy o bresgripsiynu cymdeithasol yn helpu pobl i sicrhau gwaith drwy greu cyfleoedd i wella iechyd a lles; gwella sgiliau, hyder a rhwydweithio; a helpu pobl yn uniongyrchol i gael at gyfleoedd gwirfoddoli a sefydliadau a all eu helpu i ddeall prosesau ymgeisio am swyddi.
19. Ceir potensial i bresgripsiynu cymdeithasol gefnogi pobl tra maent ar restr aros. Mae enghreifftiau eisoes ar gael mewn gwasanaethau byrddau iechyd lleol o weithgareddau sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol, fel dosbarthiadau celf, yn cael eu defnyddio i wella cymdeithasu a theimladau o unigrwydd ac enghreifftiau o ddechrau cyflwyno technegau rheoli poen effeithiol mewn lleoliad grŵp cymheiriaid.
Cynnig
20. Mae fformat arfaethedig y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol wedi’i amlinellu isod.
5 dogfen ganllaw ategol:
- Fideo esboniadol a Geirfa Termau
- Fframwaith cymhwysedd sgiliau ar gyfer ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol
- Manyleb genedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol
- Safonau cenedlaethol ar gyfer asedau cymunedol
- Set ddata graidd
4 rhaglen dreigl sylfaenol:
- Rhaglen codi ymwybyddiaeth
- Rhaglen sgiliau
- Rhaglen technoleg well
- Rhaglen ymchwil a gwerthuso
21. Mae Asesiad Effaith Integredig llawn wedi'i gwblhau i ddarparu asesiad cyflawn o effaith a datblygiad fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Bydd yr Asesiad yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu adborth o'r ymarfer ymgynghori ac yn cael ei gyhoeddi ynghyd â datganiad ysgrifenedig ar y fframwaith cenedlaethol yr haf hwn yn amodol ar gytundeb y cabinet.
22. Bydd materion sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb ac annhegwch yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar y fframwaith, er enghraifft o fewn y fframwaith cymhwysedd mae sawl maes sgiliau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth am effaith anghydraddoldebau cymdeithasol ar iechyd; a gweithio mewn ffordd gymwys yn ddiwylliannol sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth; cydraddoldeb a chynhwysiant; parchu credoau, arferion a ffyrdd o fyw pobl sy'n defnyddio gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol; a sut y gallai'r rhain effeithio ar eu profiad o'r gwasanaeth. Bydd camau ychwanegol yn cael eu cymryd i gasglu data ar grwpiau sy'n defnyddio presgripsiynu cymdeithasol fel y gallwn ddeall yn well pwy sy'n defnyddio presgripsiynu cymdeithasol ac, yn bwysig, pwy nad yw’n ei ddefnyddio, fel y gellir cymryd camau priodol wedi'u targedu.
Cerrig Milltir
23. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet ynghylch fformat arfaethedig y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, bydd cerrig milltir arfaethedig yn cynnwys:
Dyddiad cwblhau cerrig milltir
- Haf 2023: Datganiad Ysgrifenedig yn nodi cynlluniau ar gyfer y fframwaith cenedlaethol a rhaglenni gwaith ategol
- Haf 2023: Cyhoeddi adroddiad yn dadansoddi adborth o’r ymgynghoriad
Canllawiau ategol y fframwaith cenedlaethol
- Hydref 2023: Animeiddiad esboniadol
- Hydref 2023: Geirfa Termau
- Haf 2024: Manyleb genedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol
- Hydref 2023: Fframwaith cymhwysedd ar gyfer ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru
- Haf 2024: Safonau cenedlaethol ar gyfer asedau cymunedol
- Haf 2024: Set ddata graidd
Rhaglenni gwaith parhaus
- Parhaus: Rhaglen codi ymwybyddiaeth
- Parhaus: Rhaglen sgiliau
- Hydref 2024: Rhaglen technoleg well
- Parhaus: Rhaglen ymchwil a gwerthuso
Cyfathrebu a chyhoeddi
24. Bydd lansiad y fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yn cynnwys:
- Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn haf 2023
- Cyhoeddi adroddiad yn dadansoddi adborth o’r ymgynghoriad a'r asesiad effaith
- Fideo esboniadol ac enghreifftiau i'w defnyddio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru o beth yw presgripsiynu cymdeithasol a beth fydd y fframwaith cenedlaethol yn ei olygu i bobl
- Cynhadledd genedlaethol yn hydref 2023 yn arddangos manteision presgripsiynu cymdeithasol, ac yn hyrwyddo'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol gan gynnwys arddangos rhannau o’r fframwaith sydd wedi’u datblygu.
Angen penderfyniad
Gofynnir i'r Cabinet gytuno ar y cynnig.