Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y panel cynghori ar dlodi tanwydd a sut y bydd yn gweithio.

1. Cyflwyniad

1.1. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i fynd i'r afael â thlodi tanwydd 2021 − 2035 ar 2 Mawrth.

1.2. Mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ei Hadroddiad Tirwedd ar Dlodi Tanwydd, a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Hydref 2019, ac i argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ôl ei ymchwiliad i dlodi tanwydd, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020, mae grŵp cynghori newydd ar dlodi tanwydd yn cael ei sefydlu ar gyfer rhanddeiliaid.

2. Teitl a Threfniadaeth

2.1. Enw’r grŵp yw "Y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd".

2.2. Bydd cadeirio cyfarfodydd y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd yn un o swyddogaethau'r Dirprwy Gyfarwyddwr Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni.

2.3. Gan mai panel gweinyddol a fydd yn cynghori Gweinidogion Cymru fydd y panel hwn, Gweinidogion Cymru, yn ôl eu disgresiwn, fydd yn rhoi gwahoddiadau i gyfarfodydd y panel. Bydd gwahoddiadau i’r cyfarfodydd yn cael eu rhoi i sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau a chymdeithasau y cydnabyddir eu bod yn cynrychioli buddiannau pobl sydd mewn perygl o fyw mewn tlodi tanwydd. Ar y sail hon, ni fydd proses penodiadau cyhoeddus ffurfiol er mwyn penodi’r aelodau. 

3. Tymor

3.1. Bydd y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd yn gweithredu drwy gydol chweched tymor Senedd Cymru (2021-2026), oni hysbysir fel arall gan Weinidogion Cymru, neu eu cynrychiolwyr.

4. Diben

4.1. Diben y grŵp fydd rhoi cyngor ar amcanion, mentrau a mesurau a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru i godi pobl allan o dlodi tanwydd er mwyn cyrraedd y cerrig milltir interim a’r targed terfynol ar dlodi tanwydd erbyn 2035.

5. Nodau

  • Cefnogi’r gwaith o baratoi cyngor sy’n seiliedig ar wybodaeth am fentrau a mesurau a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru i godi pobl allan o dlodi tanwydd
  • Monitro ac adolygu’r cynnydd a wneir ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru
  • Gwella'r modd y mae rhanddeiliaid yn rhannu gwybodaeth
  • Tynnu sylw at faterion newydd sy'n dod i'r amlwg ac sy'n effeithio ar bobl sy'n ei chael yn anodd cynnal trefn wresogi foddhaol am gost resymol

6. Aelodaeth

Aelodaeth
Polisi mewnol Llywodraeth Cymru Rhanddeiliaid allanol
  • Y Tîm Tlodi Tanwydd
  • Cynhwysiant Ariannol a Digidol
  • Tai ac Adfywio
  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
  • Dyfodol Ffyniannus
  • Byw yn Glyfar

Gwasanaethau Cynghori

  • Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Agweddau ac Ymddygiad

  • Prifysgol Caerdydd
  • Y Catapwlt Systemau Ynni

Technolegau Ynni ar gyfer Adeiladau

  • Y Ganolfan Adeiladu

Ynni a Chyfleustodau

  • Western Power Distribution
  • Wales and West Utilities
  • Energy UK
  • Ofgem

Cydraddoldeb

  • Anabledd Cymru Wales
  • Sipsiwn a Theithwyr Cymru

Llesiant Ariannol

  • Y Gwasanaethau Arian a Phensiynau

Tlodi Tanwydd ac Iechyd

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru

Llywodraethu

  • Y Sefydliad Materion Cymreig
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Sefydliad Bevan

 Tai

  • Tai Cymunedol Cymru
  • Y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl

Sefydliadau cynrychioliadol

  • Age Cymru
  • Gofal a Thrwsio Cymru
  • Cyngor ar Bopeth Cymru
  • National Energy Action
  • Y Comisiynydd Pobl Hŷn
  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Plant yng Nghymru
  • Cymry Gynnes
Yn ôl y gofyn (potensial i sefydlu is-grwpiau) 
  • LlC – Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
  • Dŵr Cymru

 

7. Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd

7.1. Cynhelir cyfarfodydd y Panel Cynghori o leiaf bob 3 mis (chwarterol).

7.2. Efallai y bydd gofyn cynnal cyfarfodydd is-grwpiau, er enghraifft, i drafod/fwrw ymlaen â mater penodol, er na fydd gofyn i bob aelod fynd i’r cyfarfodydd hynny. Gall y materion hynny gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, ddatgarboneiddio cartrefi, iechyd ariannol defnyddwyr, modelu a seiliau tystiolaeth, a gofynion hyfforddi.

7.3. Bydd agendâu ar ffurf ddrafft, y nodiadau am y cyfarfod blaenorol a phapurau trafod yn cael eu hanfon i’r aelodau gan yr ysgrifenyddiaeth o leiaf wythnos (7 diwrnod) cyn y cyfarfod y bwriedir ei gynnal.

7.4. Bydd yr aelodau yn cytuno ar yr agenda ddrafft ar ddechrau pob cyfarfod. Ceir cynnig eitemau i’w rhoi ar yr agenda i'r ysgrifenyddiaeth ond bydd angen gwneud hynny o leiaf bythefnos ymlaen llaw.

7.5. Bydd y nodiadau am y cyfarfodydd yn cael eu dosbarthu ymhen dim mwy nag wythnos (7 diwrnod) ar ôl dyddiad unrhyw gyfarfod oni hysbysir fel arall. Unwaith y byddant wedi cael eu cymeradwyo, bydd y cofnodion yn cael eu cyhoeddi.

7.6. Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch er mwyn galluogi pobl i gymryd rhan yn y cyfarfodydd os cyflwynir cais i’r perwyl hwnnw i Lywodraeth Cymru, a gwneir hynny ar draul Llywodraeth Cymru.

7.7. Anogir cyfraniadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Trefnir cyfieithu ar y pryd yn ôl y gofyn.

7.8. Er mwyn i bobl fedru cymryd rhan mewn cyfarfod, bydd Llywodraeth Cymru yn talu unrhyw gost a ysgwyddir yn rhesymol er mwyn mynd i gyfarfod, yn unol â’r cyfraddau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.

7.9. Dylai hawliadau am gostau a ysgwyddir gael eu cyflwyno i'r ysgrifenyddiaeth ymhen wythnos i unrhyw gyfarfod y mae'r hawliad yn cael ei wneud ar ei gyfer (oni bai bod yr Ysgrifenyddiaeth, fel eithriad, wedi cytuno'n wahanol). Bydd taliad yn cael ei wneud ymhen wythnos (7 diwrnod) i hawliad a gyflwynir yn gywir. 

8. Gwasanaethau Ysgrifenyddiaeth

8.1. Llywodraeth Cymru fydd yn talu unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chyfarfodydd y Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd.

8.2. Bydd gwasanaethau ysgrifenyddiaeth yn cael eu darparu gan Gangen Effeithlonrwydd Ynni Domestig a Thlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru.