Neidio i'r prif gynnwy

Yn nodi swyddogaeth, cyfansoddiad, cyfrifoldebau a threfniadau gweithredu'r Panel Cynghori Targedau Bioamrywiaeth.

Diben

Bydd y Panel Cynghori ar Dargedau Bioamrywiaeth ('y Panel') yn darparu cyngor ac argymhellion ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ar greu targedau bioamrywiaeth statudol yng Nghymru. Bydd y Panel yn cefnogi'r broses o ddatblygu targedau, gan ddarparu cyngor, argymhellion ac adolygiad gan gymheiriaid drwy gydol y broses o greu targedau, ar y dull o greu targedau, a chynnwys y targedau, yn ogystal a datblygu dangosyddion. Bydd y Panel hwn yn sicrhau tryloywder o ran creu targedau. 

Wrth osod (ac yn y tymor hwy, adolygu neu ddiwygio targedau bioamrywiaeth) cynigir bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am gyngor gan unigolion y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol a bod ganddynt arbenigedd perthnasol, a rhoi sylw i wybodaeth wyddonol am fioamrywiaeth. Er na fydd y Panel yn statudol, y bwriad yw bodloni'r ddyletswydd hon gan Weinidogion Cymru sy'n gofyn am gyngor gan y grŵp hwn. 

Bydd aelodau'r Panel yn cynnwys arbenigwyr o ddisgyblaethau gwahanol mewn meysydd sy'n ymwneud â bioamrywiaeth.  Gall hyn gynnwys cynghorwyr sydd ag arbenigedd mewn dŵr, economi, addysg ac ymchwil gymdeithasol, yn ogystal a bioamrywiaeth daearol, dŵr croyw a'r môr.

Bydd y Panel hwn yn cefnogi datblygiad y targedau yn benodol ac ni fydd yn dyblygu gwaith a wneir gan grwpiau bioamrywiaeth presennol, megis y Grŵp Craidd Archwiliad Dwfn ac is-grwpiau, a Grŵp Gweithredu y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP). Yn hytrach, bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r grwpiau hyn, ac eraill, i gyfrannu tuag at ein hymrwymiadau bioamrywiaeth. Bydd y Panel yn canolbwyntio ar y dull ac ar osod y targedau, ac i raddau llai ar gyflawni'r targedau, gan y bydd hyn yn gyfrifoldeb y grwpiau presennol fel grŵp gweithredu NRAP. Mae'r gwahanol grwpiau hyn yn dwyn ynghyd ystod eang o sefydliadau ac arbenigwyr ar draws sectorau perthnasol, gan ganolbwyntio ar y gofyniad i gydymffurfio gydag ymrwymiadau bioamrywiaeth rhyngwladol a domestig. Er bod y NRAP yn nodi camau gweithredu eang i wella bioamrywiaeth yng Nghymru, ymrwymodd y Datganiad Deddfwriaethol a wnaed yn y Senedd ar 9 Gorffennaf 2024 i gyflwyno Bil i sefydlu fframwaith targedau statudol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth yng Nghymru a fydd yn cynnig cyfeiriad ac ymrwymiadau pellach ar gyfer adfer natur yng Nghymru. 

Bydd y Panel yn eistedd ochr yn ochr â grwpiau cysylltiedig â bioamrywiaeth presennol.

Grwpiau presennol sy'n ymwneud â bioamrywiaeth

Disgwylir i aelodau'r panel weithio o fewn cyd-destun y rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Bydd y ddeddf newydd hon yn gwneud i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Nod y Cynllun yw cyflawni yn unol â Phum Ffordd o Weithio'r Ddeddf drwy:

  • sefydlu tystiolaeth i gefnogi datblygu targedau hirdymor ar gyfer adfer natur
  • gwella integreiddio o ran darparu tystiolaeth bioamrywiaeth drwy wella arferion gwaith rhwng sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector
  • cynnwys rhanddeiliaid wrth ddatblygu a chyflawni'r targedau ar bob cam
  • cydweithio i sicrhau bod amcanion llesiant yn cael eu cyflawni, a
  • canolbwyntio ar dystiolaeth i ategu datblygiad camau cadarnhaol sy'n helpu i atal effeithiau negyddol yn y dyfodol ar fioamrywiaeth a chefnogi adferiad

Bydd yn bwysig ystyried yn llawn effaith y dystiolaeth bresennol a thystiolaeth yn y dyfodol sydd ei hangen i gefnogi'r gwaith o gyflawni nodau llesiant Llywodraeth Cymru a nodir yn neddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dylid eu hystyried ochr yn ochr ag effaith yr ymrwymiadau yn y targedau arfaethedig.

Rôl y Panel

Disgwylir i aelodau'r Panel gydweithio i ddarparu'r cyngor a'r camau sydd eu hangen i gefnogi datblygiad y targedau statudol. 

Mae'n ofynnol i aelodau:

  • cynghori'n annibynnol ar y fethodoleg datblygu targedau a'i adolygu gan gymheiriaid a darparu syniadau arloesol
  • darparu tystiolaeth wyddonol yn annibynnol i gefnogi datblygiad y targedau, gan gynnwys datblygu dangosyddion
  • cynghori ar dystiolaeth gyfredol mewn perthynas â cholli bioamrywiaeth ac adfer natur a'i berthynas â ffactorau amgylcheddol, iechyd cyhoeddus ac economaidd cysylltiedig
  • gweithio ar y cyd ar draws y llywodraeth, diwydiant a'r byd academaidd, er mwyn sicrhau bod y camau a gymerir i wella bioamrywiaeth yng Nghymru yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn
  • annog a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer atebion arloesol sy'n helpu i wella lefelau llygredd yn yr awyr
  • cynghori Llywodraeth Cymru ar anghenion tystiolaeth yn y dyfodol a sut y gellir eu bodloni

I'w gyflawni drwy:

  • datblygu a rhannu gwell dealltwriaeth o faterion sy'n wynebu bioamrywiaeth, tystiolaeth a gofynion polisi ledled Cymru a'r DU
  • sicrhau bod pob parti yn cael y cyfle i gynghori ar ddulliau posibl o ddatrys neu leihau'r problemau hyn a sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer cydweithredu ac arloesi
  • cynnig barn ar ansawdd a pherthnasedd tystiolaeth ac ymchwil, gan awgrymu meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol a chynghori ar sut y dylid eu gweithredu er mwyn sicrhau'r budd mwyaf
  • sicrhau bod y lefel gywir o dystiolaeth ar gael i alluogi camau i fonitro, asesu, modelu a lleihau a gwrthdroi colli bioamrywiaeth yng Nghymru, fel y bo'n briodol
  • darparu cyngor ad-hoc pan ofynnir yn benodol
  • nodi'r cwestiynau pwysig i'w hystyried a chydweithio ag arbenigwyr allanol eraill

Cymorth

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ysgrifenyddiaeth y Fforwm.

Bydd agenda’n cael ei dosbarthu i bob aelod gan Lywodraeth Cymru cyn pob cyfarfod, a bydd nodiadau’r cyfarfod yn cael eu dosbarthu i bob aelod ar ôl pob cyfarfod. Bydd cofnodion cyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar gyfer tryloywder datblygu targed. 

Er y bydd aelodaeth yn wirfoddol, bydd treuliau rhesymol, gan gynnwys teithio ac mewn rhai amgylchiadau lwfansau cynhaliaeth dros nos, yn cael eu hystyried fesul achos. Bydd yn rhaid i hawliadau teithio a chynhaliaeth fodloni rheolau Llywodraeth Cymru, a chyfraddau diweddaraf Llywodraeth Cymru yw'r rhai a delir.

Cyfarfodydd / disgybliaeth

Bydd y Panel yn:

  • yn cwrdd tua unwaith y chwarter i drafod gofynion tystiolaeth presennol ac yn y dyfodol i gefnogi datblygiad targed bioamrywiaeth. Gall cyfarfodydd fod yn amlach yng nghamau cynharach datblygu targed i gefnogi penderfyniadau, ac yn llai aml yn y cyfnodau diweddarach. Bydd hyn yn cyfateb i oddeutu 12 cyfarfod dros gyfnod o 36 mis. Cytunir ar y Cylch Gorchwyl yn y cyfarfod cyntaf. Yn dibynnu ar arbenigedd aelodau, gall pa mor aml i gwrdd amrywio os oes angen mwy neu lai o ymgysylltiad ar darged penodol
  • darparu cyngor diduedd a chadarn yn wyddonol
  • sicrhau bod y blaenoriaethau cywir wedi’u nodi ar gyfer gweithredu
  • trafod cynnydd yn erbyn amcanion y Panel a helpu i nodi camau unioni lle y bo'r cynnydd yn araf
  • sicrhau bod unrhyw wybodaeth sensitif swyddogol a rennir yn cael ei thrin yn briodol ac nad yw'n cael ei datgelu y tu allan i aelodaeth y Panel
  • dim ond wedi cytuno ymlaen llaw y caniateir dirprwyon
  • cefnogi'r ysgrifenyddiaeth i gytuno ar ddyddiadau cyfarfod o leiaf dri mis ymlaen llaw

Lleoliad

  • bydd y cyfarfodydd yn gyfuniad o gyfarfodydd ar-lein a chyfarofdydd wyneb yn wyneb. Cytuno ar leoliad cyfarfodydd personol (i fod yn gyfleus i bawb) ond mae'n debygol y cânt eu cynnal yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Caiff y cyfarfodydd ffurfiol eu cynnal yng Nghaerdydd ond mae'n bosibl y gall panelwyr fideogynadledda os nad ydynt yn gallu bod yno
  • caiff y panelwyr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig, hyd yn oed os na fyddant yn y cyfarfod

Aelodau'r Panel

Bydd gan aelodau'r panel amrywiol arbenigeddau ym meysydd bioamrywiaeth a all gynnwys ymchwil, monitro, modelu, rheoli ymarferol, neu bolisi, yn ogystal ag ym maes iechyd cyhoeddus neu amgylcheddol, addysg ac economeg.

Er y rhagwelir y bydd tua 15 aelod yn cyfrannu at unrhyw un maes pwnc, gall y panel alw ar arbenigwyr eraill yn ôl yr angen sy'n berthnasol i feysydd targed.

Bydd yr aelodaeth draws-sectoraidd yn cael ei chylchredeg unwaith y bydd y rhai a wahoddir wedi cadarnhau eu parodrwydd i gymryd rhan.

Rolau a chyfrifoldebau aelodau'r bwrdd

Mae aelodau'r Panel yn gynghorwyr, gan helpu i sicrhau bod datblygiad y targed yn parhau i fod ar y trywydd iawn, eu bod yn gallu cyflawni'r canlyniadau a ddymunir a'u bod o'r ansawdd gofynnol.

Gellir gwahodd eraill i'r Panel i adrodd ar feysydd cyfrifoldeb a/neu ddarparu cyngor ac arweiniad. Nid yw'r unigolion hyn yn rhan o aelodaeth y Panel.

Ymrwymiad angenrheidiol i aelodau

Bydd yn ofynnol i aelodau'r Cyngor:

  • fynychu panel (cyfarfodydd chwarterol ac arbennig yn ôl yr angen)
  • sicrhau bod trafodaethau'r Panel yn cael eu cynnal yn gyfrinachol ac nad oes unrhyw gyfathrebu ynghylch canlyniad trafodaethau oni chytunir â Llywodraeth Cymru yn gyntaf
  • sicrhau bod nodiadau cyfarfod yn dilyn rheolau Chatham House
  • peidio â gwneud sylwadau cyhoeddus tra bod trafodaethau'n parhau
  • trin unrhyw bapurau cyfarfod fel rhai Sensitif Swyddogol oni nodir yn wahanol
  • adolygu a rhoi sylwadau ar bapurau neu adroddiadau perthnasol a nodwyd gan y Panel a'r rhai y gellir eu cyflawni a ddarperir i'r Panel
  • cynnal adolygiadau all-lein a gwaith cydweithredol, fel sy'n ofynnol wrth ddatblygu targed, er mwyn hwyluso penderfyniadau prydlon
  • gwneud unrhyw ddatganiad o fuddiant os bydd gwrthdaro rhwng y trafodaethau a'r camau a gynigiwyd gan y Panel a buddiant neu weithgareddau cyflogwr yr unigolyn, boed yn fasnachol neu fel arall
  • ni chaniateir i ddirprwyon fynychu cyfarfodydd panel heb gytundeb ymlaen llaw