Mae gan y Panel 17 o aelodau. Mae eu diddordebau a'u profiadau yn ymwneud â’r rhan fwyaf o rolau amrywiol coetiroedd Cymru.
Maent yn rhoi cyngor ar:
- ddatblygu polisïau sy'n ymwneud â choed a choetiroedd yng Nghymru
- gweithredu Strategaeth Coetiroedd i Gymru
- comisiynu ymchwil a thystiolaeth i ategu datblygiadau polisi ym maes coedwigaeth.
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ddewisodd aelodau'r panel. Cânt eu penodi am o leiaf 2 flynedd.