Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS wedi penodi 10 cynghorydd arbenigol annibynnol ar gyfer Panel Cynghori ar Aer Glân (CAAP) Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r CAAP wedi bod yn darparu cyngor ac argymhellion ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ar faterion ansawdd aer yng Nghymru ers 2020, gan helpu i gefnogi penderfyniadau Gweinidogion Cymru. Mae'r CAAP yn llywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o lygredd yn yr awyr yng Nghymru, gan gefnogi datblygiad polisïau i ysgogi gwelliannau mewn ansawdd aer yng Nghymru. Mae aelodaeth o'r CAAP yn cynnwys llunwyr polisi amlddisgyblaethol, academyddion ac ymarferwyr ansawdd aer ac iechyd cyhoeddus.

Un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru yw gwella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi. 

Cafodd strategaeth ansawdd aer genedlaethol bresennol Llywodraeth Cymru, Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach, ei chyhoeddi yn 2020. Mae'n nodi camau gweithredu eang i wella ansawdd aer yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu tystiolaeth ansawdd aer ar lefel fanylach ac ychwanegu at wybodaeth bresennol i gefnogi gwaith datblygu polisi a deddfwriaeth yng Nghymru. Mae cyngor y CAAP yn cefnogi’r broses o gyflawni'r gwaith hwn. 

Mae'r aelodau newydd a benodwyd yn dod ag ystod eang o arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad gyda hwy.

  • Yr Athro Dudley Shallcross (Athro Cemeg Atmosfferig, Prifysgol Bryste)
  • Dr James Heydon (Athro Cynorthwyol mewn Troseddeg, Prifysgol Nottingham)
  • Yr Athro Martin Clift (Athro, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe)
  • Yr Athro Gavin Shaddick (Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Prifysgol Caerdydd)
  • Dr Ulli Dragosits (Arweinydd Grŵp a Modelydd Gofodol, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU)
  • Kieran Laxen (Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, KALACO Group Ltd ac Is-gadeirydd, Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer)
  • Dr Rachel Adams (Pennaeth Adran Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • Dr Iq Mohammed Mead (Pennaeth Mesur Ansawdd Aer, Coleg Imperial Llundain)
  • Yr Athro Enda Hayes (Athro Ansawdd Aer a Rheoli Carbon a Chyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol Pensaernïaeth a'r Amgylchedd, UWE, Bryste)
  • Dr Ed Rowe (Uwch Fodelydd Biogeocemegol Planhigion a Phridd, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU)

Mae pob cyhoeddiad gan y Panel ar gael ar wefan Ansawdd Aer Cymru.

Mae'r penodiadau hyn wedi'u gwneud ar gyfer tymor presennol y Senedd (hyd at fis Mawrth 2026) yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, ac ar sail teilyngdod yn dilyn proses deg, agored a chystadleuol.