Dianne Bevan Aelod
Mae Dianne Bevan yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Cafodd Dianne ei geni yn Cumbria a threuliodd ei phlentyndod yng ngogledd Lloegr. Ar ôl symud i Gaerdydd yn 1985, mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd yn byw yng Nghymru, mae’n briod i Gymro ac mae ganddi ddau o blant sydd bellach yn oedolion ac a fagwyd yng Nghymru.
Gweithiodd fel cyfreithiwr am 20 mlynedd ym maes llywodraeth leol, yn bennaf yn ne Cymru. Ar ôl deg mlynedd fel cyfarwyddwr yng Nghyngor De Morgannwg a Chyngor Caerdydd, lle gweithiodd hefyd fel swyddog canlyniadau ar gyfer sawl etholiad ochr yn ochr â’i dyletswyddau fel uwch gyfreithiwr y Cyngor, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Glerc o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a daeth yn Brif Swyddog Gweithredu’r Cynulliad yn ddiweddarach. Yn y rôl hon, gweithiodd gyda chynrychiolwyr etholedig o bob plaid i gefnogi gwaith deddfwriaethol y Cynulliad a’i waith craffu ar Lywodraeth Cymru.
Ers ymddeol o weithio’n llawn amser yn 2012, mae Dianne wedi dangos ei diddordeb brwd mewn democratiaeth gynrychioliadol a gwasanaethau lleol, drwy weithio gyda sefydliadau gan gynnwys Cynulliad Gogledd Iwerddon, The Hansard Society, Pwyllgor Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a Chymdeithas Tai Taf. Fel Ymgynghorydd Cyswllt â Global Partners Governance, sy’n helpu i ddatblygu democratiaethau effeithiol ledled y byd, roedd Dianne yn rhan o brosiect a ddarparodd gyngor a hyfforddiant i Senedd ac Ardaloedd Llywodraethol Gwlad yr Iorddonen.
Yn ddiweddar, penodwyd Dianne yn aelod o’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy’n gyfrifol am bennu lefel y taliadau i aelodau etholedig cynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau teithio, cerdded, rygbi (gan gefnogi Caerdydd a Chymru), garddio ar randir y teulu a helpu i ofalu am ei dau ŵyr.