Neidio i'r prif gynnwy

Dyma’r egwyddorion y mae’r Panel yn seilio’i fframwaith cydnabyddiaeth ariannol arnynt.

Cynnal ymddiriedaeth a hyder

Mae gan ddinasyddion yr hawl i ddisgwyl bod pawb sy'n dewis gwasanaethu mewn awdurdodau lleol yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd trwy goleddu'r gwerthoedd a'r foeseg sy'n ymhlyg mewn gwasanaeth cyhoeddus o’r fath. Mae’r egwyddorion hyn yn tanategu’r cyfraniad y mae gwaith y Panel a’i Fframwaith yn ei wneud tuag at gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.

Symlrwydd

Mae'r fframwaith yn glir ac yn ddealladwy. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i'r Panel allu cyfleu ei benderfyniadau yn effeithiol i bawb yr effeithir arnynt gan ei waith neu sydd â diddordeb ynddo.

Cydnabyddiaeth ariannol

Mae'r Fframwaith yn darparu ar gyfer taliadau i aelodau o awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb am wasanaethu eu cymunedau daearyddol neu eu cymunedau buddiant dynodedig. Ni ddylai lefel y gydnabyddiaeth ariannol fod yn rhwystr i ymgymryd â’r gwaith na pharhau ag ef. Ni ddylai fod unrhyw ofyniad bod adnoddau sy'n angenrheidiol i'w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n cael eu hariannu o'r cyflog. Mae'r Fframwaith yn rhoi tâl ychwanegol i'r rhai y rhoddir mwy o gyfrifoldeb iddynt.

Amrywiaeth

Caiff democratiaeth ei chryfhau pan fo aelodaeth o awdurdodau lleol yn adlewyrchu'n ddigonol gyfansoddiad demograffig a diwylliannol y cymunedau a wasanaethir gan y cyfryw awdurdodau. Bydd y Panel wastad yn ystyried pa gyfraniad y gall ei fframwaith ei wneud i annog y rhai a dangynrychiolir yn sylweddol i gyfranogi ar lefel awdurdod lleol.

Atebolrwydd

Mae gan drethdalwyr a dinasyddion yr hawl i gael gwerth am arian o arian cyhoeddus sydd wedi'i neilltuo i roi cydnabyddiaeth ariannol i’r rhai a etholir, a benodir, neu a gyfetholir i wasanaethu er budd y cyhoedd. Mae'r Panel yn disgwyl bod pob prif gyngor yn trefnu bod gwybodaeth am weithgareddau ei aelodau a chydnabyddiaeth ariannol a roddir iddynt ar gael yn rhwydd ac yn briodol. 

Tegwch

Bydd yn bosibl cymhwyso'r fframwaith yn gyson i aelodau pob awdurdod lleol sydd o fewn cylch gwaith y Panel fel modd i sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn fforddiadwy ac yn gyffredinol dderbyniol.

Ansawdd

Mae'r Panel yn cydnabod bod y cymysgedd cymhleth o ddyletswyddau llywodraethu, craffu a rheoleiddio sydd ar aelodau yn golygu bod yn rhaid iddynt ymgysylltu â phroses o wella ansawdd yn barhaus. Mae'r Panel yn disgwyl i aelodau ymgymryd â'r cyfleoedd hyfforddi a datblygiad personol hynny sy'n angenrheidiol i gyflawni’r dyletswyddau y cânt gydnabyddiaeth ariannol amdanynt mewn modd priodol.

Tryloywder

Mae sicrhau tryloywder cydnabyddiaeth ariannol aelodau er budd y cyhoedd. Mae rhai aelodau yn derbyn lefelau ychwanegol o gydnabyddiaeth ariannol am eu bod wedi'u hethol, neu eu penodi, i fwy nag un corff cyhoeddus. Mae'r fframwaith yn fodd i sicrhau bod gwybodaeth am yr holl gydnabyddiaeth ariannol y mae pob aelod yn ei chael ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd.

Cydnabyddiaeth Ariannol i Swyddogion

Mae’r Panel yn cymhwyso’r egwyddorion hyn, sef tegwch, atebolrwydd a thryloywder, yn ei holl benderfyniadau ynghylch cydnabyddiaeth ariannol i aelodau’r holl awdurdodau sydd o fewn ei gylch gwaith. Mae’r un egwyddorion yn berthnasol pan fo’n ofynnol i’r Panel wneud argymhellion mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol i swyddogion cyflogedig yr awdurdodau hyn hefyd.