Atebion i gwestiynau cyffredin a ofynnir yn aml i’r panel.

A yw penderfyniadau’r panel yn orfodol?

Mae’r Panel yn pennu cyfraddau taliadau ond mae cynghorwyr yn cadw’r dewis i beidio â derbyn y cyfan neu ran o’u hawl unigol. Ni all awdurdodau amrywio’r symiau sy’n daladwy nac oedi cyn gweithredu penderfyniadau’r Panel.

Mae’r gofynion o ran cydymffurfio yn yr Adroddiad Blynyddol yn golygu bod disgwyl i awdurdodau perthnasol gyhoeddi’n flynyddol y symiau y maent yn eu talu i bob aelod ac aelod cyfetholedig o ran Cyflog (Cyflog Sylfaenol, Uwch Gyflog, Cyflog Dinesig), lwfansau, ffioedd ac ad-daliadau. 

Gweler Atodiadau’r adroddiad blynyddol diweddaraf am fanylion.

Oes rhaid i Gyngor Tref/Cymuned dalu i’w aelodau?

Edrychodd y Panel ar nifer o fesurau y gallai eu defnyddio fel sail i unrhyw grwpiau ac mae’n ystyried mai’r nifer mwyaf priodol yw 3 grŵp sy’n seiliedig ar lefel incwm neu wariant, pa un bynnag yw’r uchaf. Mae defnyddio ffigurau incwm neu wariant yn rhoi adlewyrchiad gwell o lefelau gweithgarwch cyngor na chymarebau poblogaeth. Fe wnaeth y Panel ganfod nad oes cydberthynas rhwng y rhain ac incwm neu wariant. Mae hefyd yn hawdd i gynghorau ddeall i ba grŵp y maent yn perthyn.

Mae’n orfodol i weithredu ar benderfyniadau ynglŷn â Chynghorwyr mewn cynghorau cymuned a thref yng Ngrwpiau A, B ac C.

Mae gan bob cyngor tref a chymuned yr hawl i wneud taliad i’w aelodau o hyd at uchafswm o  £150 y flwyddyn am gostau a ysgwyddir mewn perthynas â defnyddio’r ffôn, technoleg gwybodaeth, defnyddiau traul ac yn y blaen.

Rhaid i bob cyngor cymuned a thref sicrhau bod taliad o £150 y flwyddyn ar gael i bob un o’u haelodau fel cyfraniad at gostau a threuliau.

A oes gan aelod hawl i beidio â derbyn y cyfan neu ran o’i Gyflog?

Mae gan aelod unigol hawl i beidio â derbyn y cyfan neu ran o’i Gyflog Sylfaenol/Uwch Gyflog dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ond er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid iddo hysbysu Swyddog Priodol y Cyngor yn ysgrifenedig.

Am beth all aelodau cyfetholedig hawlio?

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol dalu ffi ddyddiol neu ffi hanner diwrnod i aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio. Mae cyfarfodydd sy’n gymwys ar gyfer talu ffi yn cynnwys pwyllgorau, gweithgorau, rhag-gyfarfodydd gyda swyddogion, hyfforddiant, a phresenoldeb mewn cynadleddau ac unrhyw gyfarfod ffurfiol y gofynnir i aelodau cyfetholedig fod yn bresennol ynddo.

Mae amser paratoi rhesymol ar gyfer cyfarfodydd ac amser teithio i ac o gyfarfodydd yn gymwys i gael eu cynnwys mewn hawliadau gan aelodau cyfetholedig hefyd.

Gall awdurdodau lleol benderfynu ar uchafswm y diwrnodau y gellir talu i aelodau cyfetholedig mewn unrhyw flwyddyn unigol.

Ble allaf weld rheoliadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol?

Mae rheoliadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol i’w gweld yn yr Atodiad wrth yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd ar y wefan.

Lle caiff lwfans milltiredd ei hawlio a oes rhaid iddo gael ei dalu yn ôl y cyfraddau penodedig?

Os yw aelodau’n hawlio lwfansau milltiredd, mae’n rhaid iddynt gael eu talu yn ôl cyfradd benodedig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

A all aelod hawlio lwfans milltiredd ar ôl bod yn deithiwr mewn car a oedd yn cael ei yrru gan rywun arall?

Dylai awdurdodau dalu lwfansau milltiredd yn ôl y cyfraddau penodedig i aelod, ar fusnes swyddogol, sydd wedi bod yn deithiwr mewn cerbyd a oedd yn cael ei yrru gan rywun arall, ar yr amod bod yr awdurdod wedi’i argyhoeddi bod yr aelod wedi ysgwyddo cost.

A oes hawl gan bob aelod i hawlio lwfans gofal?

Mae’n rhaid i bob awdurdod ad-dalu’r treuliau angenrheidiol sy’n deillio o ofal ar gyfer plant ac oedolion dibynnol ac anghenion gofal personol hyd at yr uchafswm presennol o £403 y mis, yn amodol ar ddangos derbynebau.

Ble alla i weld dehongliad o’r termau a ddefnyddir yn adroddiad blynyddol y Panel?

Mae rhestr o’r termau a ddefnyddir gan y Panel i’w weld yn Atodiad 2  o’r adroddiad blynyddol.