Beth rydym yn ei wneud
Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn gyfrifol am bennu’r lwfansau sy’n daladwy i aelodau etholedig prif gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, a chynghorau tref a chymuned yng Nghymru.
Cynnwys
Sefydlwyd y Panel yn 2008 ac mae’n annibynnol ar lywodraeth ganolog a lleol. Mae gennym bwerau i wneud argymhellion ynghylch amrywiadau arfaethedig i gydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr prif gynghorau yng Nghymru.
Mae’r panel yn cyhoeddi adroddiad blynyddol, yr ymgynghorir arno. Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys holl benderfyniadau’r panel.
Y cyfarfodydd nesaf
Mae’r panel yn cwrdd bob mis. Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf:
2021
- Dydd Llun 15 Mawrth
- Dydd Llun 19 Ebrill
- Dydd Gwener 14 Mai